Symud i'r prif gynnwys

14.10.2025

Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn hynod falch i allu cyhoeddi rhodd hael iawn i’r Casgliadau Cenedlaethol gan yr artist blaenllaw Mary Lloyd Jones.

Mae ei gwaith yn allweddol wrth ddangos sut bu raid i artistiaid benywaidd frwydro ar hyd y degawdau er mwyn cael cydnabyddiaeth yn y byd celf a bellach mae dros 150 o weithiau ganddi wedi’u hychwanegu i’r Casgliad Celf Genedlaethol, ynghyd â rhai eitemau archifol.

O fewn y rhodd mae enghreifftiau o weithiau cynnar iawn gan yr artist, sy’n cynnwys:

  • gwaith y bu iddi greu pan oedd yn blentyn ym Mhontarfynach yn y 1930au a’r 1940au;
  • enghreifftiau o’r tirluniau cynharaf ganddi o Geredigion yn 1960au, wedi iddi raddio o Goleg Celf Caerdydd;
  • ac esiamplau o’i gweithiau haniaethol arbrofol cyntaf, gan gynnwys ei hastudiaethau geometrig.

Mae gwaith tecstiliau'r artist hefyd o ddiddordeb mawr, lle arbrofodd gyda thechnegau batic, clymwaith a chreu cwiltiau calico. Dyma gyfrwng sydd wedi bod yn ganolog i’w gwaith trwy gydol ei bywyd, wedi ei ysbrydoli gan wehyddu traddodiadol ei chyndeidiau ym melinau gwlân Sir Aberteifi.

Ond, mae Mary Lloyd Jones yn cael ei hadnabod yn bennaf am ei thirluniau deinamig, lliwgar, mynegiadol a haniaethol yn seiliedig ar dirlun a diwylliant Cymru. Fel sydd i’w ddisgwyl felly, mae’r casgliad hefyd yn cynnwys gweithiau ganddi yn dyddio o’r 1990ausydd wedi’u hysbrydoli gan dirlun a diwylliant Ceredigion, Cymru a’r gwledydd Celtaidd yn ogystal â’i theithiau niferus, gan gynnwys India yn 1995.  

Meddai Nia Mai Daniel, Pennaeth Adran Casgliadau Unigryw Llyfrgell Genedlaethol Cymru: 

“Mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi bod yn ffodus i gydweithio yn agos iawn gyda Mary Lloyd Jones ar hyd y blynyddoedd . Rydym yn hynod ddiolchgar iddi hi a’i theulu am eu cefnogaeth barhaus i’r Llyfrgell a’r rhodd ddiweddar yma. Byddwn yn trysori gweithiau’r ganddi ac yn eu diogelu fel bod cenedlaethau i ddod yn gallu eu mwynhau a’u hymchwilio.”

Meddai’r artist Mary Lloyd Jones:

“Ym mis Ionawr 2025 cawsom drafodaeth deuluol am ddyfodol fy ngwaith celf a’r archif gynhwysfawr sydd gennyf o fy ngyrfa fel Artist Cymreig.  Y lle a ddaeth i’m meddwl ar unwaith oedd y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth gan fod y lle wedi cael effaith bersonol a dwfn ar fy addysg gynnar ac fel y lle a agorodd fy llygaid i fyd celf. Roedd yn teimlo’n briodol mynd atyn nhw am gyngor a chymorth.

Mae'n bleser ac yn anrhydedd i mi fod y sefydliad wedi derbyn fy rhoddion o fy ngwaith cynnar ac archif. Rwy’n hapus iawn o wybod y bydd yr adnodd hwn ar gael i eraill, a’i fod wedi cael cartref yn y sefydliad diwylliannol Cymreig a phwysig yma ar gyfer y dyfodol.”

Meddai Gudrun Jones, merch yr artist:

Mi ddes i i sylweddoli dros y blynyddoedd diwethaf fod llawer iawn o ddiddordeb o hyd yng ngwaith Mary a’n bod mewn perygl o golli enghreifftiau o waith cynnar yn arbennig, drwy werthu i gasglwyr preifat. Roeddwn yn teimlo’n gryf ein bod angen i ni fel teulu ddod o hyd i ffordd o gadw detholiad cynhwysfawr a fyddai’n sicrhau bod archif ddefnyddiol o gyfraniad Mary i ymarfer artistig Cymreig dros 80 mlynedd.

Rwy’n ddiolchgar iawn i Morfudd Bevan yn y Llyfrgell Genedlaethol am ei brwdfrydedd a’i chefnogaeth. Rwy'n falch iawn y bydd y gwaith yr ydym wedi'i roi nawr, yn adnodd hygyrch ymhen amser ar gyfer y dyfodol a bod ganddi gartref yn y lle y mae Mary wedi'i ddewis.

Gall Mary, a oedd yn 91 oed ym mis Awst, ganolbwyntio bellach ar barhau â’i hymarfer creadigol fel artist, arddangos a gwerthu gwaith, ac efallai’n bwysicach fyth parhau i gydweithio ag artistiaid eraill, sydd wedi bod mor ganolog i’w bywyd a’i hunaniaeth fel artist Cymraes.”

Meddai Osian, ŵyr yr artist:

“Mae hi wedi bod yn anhygoel gwylio Mary dros y blynyddoedd, mae gen i atgofion byw o chwarae yn ei stiwdios celf yn blentyn. Rwy'n falch iawn o gael Mary yn nain, rwy'n meddwl ei bod yn bwysig cadw gwaith Mary. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Llyfrgell Genedlaethol y bydd ganddynt gasgliad gwych i'w ddangos a'i gadw ar gyfer y dyfodol.”

-DIWEDD-

** This press release is also available in English **

Ymholiadau'r cyfryngau:
Nia Dafydd, Rheolwr Marchnata a Hyrwyddo
nia.dafydd@llyfrgell.cymru / 01970 632871

Nodiadau i olygyddion

Am yr Artist

Cafodd Mary Lloyd Jones ei geni ym Mhontarfynach yn 1934 a hyfforddodd yng Ngholeg Celf Caerdydd yn yr 1950au, cyn dychwelyd i Geredigion i fyw yn 1961. Dyma’r ardal sydd wedi cael cryn ddylanwad ar ei gwaith.

Ar ddechrau ei gyrfa yn yr 1950au/1960, fel nifer o artistiaid benywaidd, bu raid iddi frwydro i gael ei chydnabod mewn byd oedd yn cael ei ddominyddu gan artistiaid gwrywaidd. Ond erbyn heddiw mae’n cael ei dathlu fel un o artistiaid amlycaf Cymru gan arddangos ei gwaith yng Nghymru, Prydain ac yn rhyngwladol.
 
Mae sawl un o’i gweithiau yn rhan o’r Casgliad Celf Genedlaethol yn y Llyfrgell. Yn 2006 cafodd arddangosfa arbennig o’i gwaith ei chynnal yn Oriel Gregynog y Llyfrgell yn seiliedig ar archifau’r Llyfrgell, gan gynnwys papurau’r ysgolheigion Syr John Rhys ac Iolo Morgannwg.

Am Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn llyfrgell i Gymru a'r byd. Wedi'i lleoli yn Aberystwyth, dyma gartref stori Cymru. Agorwyd y Llyfrgell yn 1907 ac mae’n ganolfan ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth Cymru a'r gwledydd Celtaidd.

Pwrpas y Llyfrgell yw gwneud diwylliant a threftadaeth Cymru yn hygyrch i bawb ddysgu, ymchwilio a mwynhau. Mae'r Llyfrgell yn llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu bod ganddi hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon, ond mae ei chasgliadau hefyd yn cynnwys y canlynol:

  • 7,000,000 troedfedd o ffilm
  • 250,000 awr o fideo
  • 6,000,000 o lyfrau a phapurau newydd
  • 40,000 o lawysgrifau
  • 1,500,000 o fapiau
  • 150,000 awr o sain
  • 950,000 o ffotograffau
  • 60,000 o weithiau celf
  • 1,900 metr ciwbig o archifau

Gallwch chwilio'r casgliadau ar-lein. Fe welwch ragor o wybodaeth ynghyd â rhestr o adnoddau ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.