Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Ar Ddydd Mercher 19 Mawrth 2025, cafodd disgyblion Ysgol Bro Hyddgen y profiad arbennig o weld y paentiad Ovis Alarmed (1973) gan Tony Steele-Morgan yn dod i’w dosbarth.
Deilliodd y cyfle unigryw hwn yn wreiddiol wrth i Lyfrgell Genedlaethol Cymru gymryd rhan yn ‘Campweithiau mewn Ysgolion’ – cynllun gan Art UK i ddod â phlant wyneb yn wyneb â gweithiau celf gwych y tu mewn i’w hystafell ddosbarth, gan chwalu rhwystrau traddodiadol i gelf.
Mae’r diwrnod ymgysylltu hwn yn rhan o ymrwymiad ehangach y Llyfrgell i hyrwyddo celf gyfoes fel rhan o CELF: Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol i Gymru. Nod CELF yw rhoi cyfle creadigol, gan gysylltu crewyr a chynulleidfaoedd â chelfyddyd Cymru heddiw.
Fel rhan o’r ymweliad, bu’r disgyblion hefyd yn gweithio gyda’r cerddorion lleol Siôn a Liam Rickard, aelodau o’r band Lo-fi Jones i greu cân newydd sbon, yn seiliedig ar y gwaith celf.
Dywedodd Mabli:
“Rêli wedi mwynhau gwneud y gân. Roedd y llun yn ddiddorol, a neb yn siwr beth oedd y 'ram' yn gwneud. Hoff ddarn fi oedd y pili pala ar y ffrâm a'r blodau gwyllt hardd. Achos bod ni wedi neud mor dda, ni'n cael mynd i'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth - ni'n edrych 'mlan.”
Dywedodd Seren:
“Ni wedi cael hwyl yn rhoi syniadau i Sion a Liam, ac roedd hi'n sbort gweld y gân yn dod at ei gilydd. Roedd pawb yn gweiddi mas geiriau sydd yn odli. Ni wedi joio canu am y llun, ac mae nhw wedi recordio ni.”
Dywedodd Finlay:
“Roedd y wers yn cŵl - fi oedd yn controlo'r sgrîn i gael geiriau'r gân. Pryd ydech chi'n dod eto?”
Ar Ddydd Gwener 28 Mawrth, bydd yr ysgol yn cael cyfle i ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, i weld sut mae’r eitem yn cael ei gadw’n ddiogel, i ddysgu mwy am y Casgliadau Cenedlaethol, ac i weld sut y cânt eu cadw er mwyn i genedlaethau’r dyfodol allu cael mynediad atynt.
Mae gwaith y Llyfrgell o fynd â chelf mewn i ysgolion yn rhan o’n strategaeth i estyn allan i gymunedau ar draws Cymru a chefnogi cyfranogiad mewn gweithgareddau diwylliannol, addysgol a chelfyddydol ar gyfer plant a phobl ifanc.
Mae’r sesiynau yn hwyluso’r ysgol i alinio gyda’r Cwricwlwm i Gymru, tra’n cefnogi Meysydd Dysgu a Phrofiad Y Dyniaethau, a’r Celfyddydau Mynegiannol, yn ogystal â chyflwyno deunydd sy’n berthnasol i gynefin y disgyblion.
--Diwedd--
** This press release is also available in English **
Cyswllt cyfryngau Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Rhodri ap Dyfrig, Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd,
rhodri.apdyfrig@llyfrgell.cymru / 07521 761762
NODIADAU I OLYGYDDION
Am Lyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Llyfrgell i Gymru a’r byd. Wedi ei lleoli yn Aberystwyth, mae’n gartref i stori Cymru.
Wedi ei hagor yn 1907, mae’r Llyfrgell yn ganolbwynt ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth Cymru a’r gwledydd Celtaidd.
Pwrpas y Llyfrgell yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth yn hygyrch i bawb allu dysgu, ymchwilio a mwynhau.
Rydym yn llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu fod gennym hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon, ond mae ein casgliadau hefyd yn cynnwys y canlynol:
Gallwch chwilio'r casgliadau ar-lein a chewch wybodaeth bellach ynghyd â rhestr o adnoddau ar wefan y Llyfrgell.
Am Wasanaeth Addysg LlGC
Sefydlwyd Gwasanaeth Addysg LLGC yn 2002. Ei brif waith yw:
Ers 2007 mae gwasanaeth Addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi bod yn cyflwyno casgliadau’r Llyfrgell mewn ardaloedd ar draws Cymru fel rhan o’i rhaglen estyn allan. Caiff y prosiectau hyn eu cynllunio a’u cyflwyno mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, ysgolion a sefydliadau eraill, a’u teilwra i ateb anghenion y defnyddwyr, yn ogystal ag ateb gofynion y cwricwlwm o ran cynnwys a sgiliau.
Am Gampweithiau Mewn Ysgolion
Yn 2013 lansiodd Art UK prosiect Campweithiau mewn Ysgolion gyda'r nod o ddod â phlant wyneb yn wyneb â gweithiau celf hynod ac eiconig y tu mewn i'w hystafell ddosbarth, gan chwalu rhai rhwystrau traddodiadol sy’n codi wrth ddod i gysylltiad â chelf. O ganlyniad, benthycwyd ystod o gampweithiau i ysgolion gan artistiaid enwog, er enghraifft L. S. Lowry, Monet a Turner.
Yn dilyn llwyddiant y cynllun, cyhoeddodd Art UK y byddai Campweithiau mewn Ysgolion yn dychwelyd yn 2018, fel rhan o'r prosiect cerfluniau - y prosiect dogfenni cerfluniau mwyaf erioed a gynhaliwyd yn y DU hyd yma. Unwaith eto, bydd gweithiau celf yn teithio allan o stiwdios artistiaid, amgueddfeydd ac orielau’r genedl, ac i mewn i ysgolion. Mae'r fenter hefyd yn hwyluso’r broses o adeiladu perthynas rhwng ysgolion a chasgliadau sy’n arwyddocaol i’w hardal.
Gwneir rhaglen Campweithiau mewn Ysgolion yn bosibl diolch i grantiau hael gan Sefydliad Stavros Niarchos a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Am Ovis Alarmed
Daeth Tony Steele-Morgan yn adnabyddus yng Nghymru yn y 1970au am ei baentiadau Swrealaidd manwl sy’n casglu gwrthrychau symbolaidd at ei gilydd mewn tirweddau.
Yn y pellter gwelir diwydiant yn bygwth harddwch byd natur, ac awgrym y teitl yw bod Ovis (yr hwrdd) wedi cael braw.
Ond mae gobaith yma hefyd, gan bod yr hwrdd a’r glöyn byw, yn draddodiadol, yn symbolau o drawsnewid, dycnwch ac aileni.