Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae Beiblau Mawr Harri’r VIII a Thomas Cromwell wedi dod yn ôl at ei gilydd am y tro cyntaf ers bron i 500 mlynedd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.
Daeth llawer yn gyfarwydd â bywyd Thomas Cromwell yn y blynyddoedd diwethaf drwy nofel a drama deledu enwog Wolf Hall, ond nawr gallwch gael blas o’r ddrama go iawn mewn arddangosfa unigryw.
Mae hwn yn gyfle prin iawn i weld y ddau Feibl, a oedd yn gopïau personol i Harri’r VIII a Thomas Cromwell, ochr-yn-ochr am y tro cyntaf ers iddyn nhw gael eu creu. Maent yn cael eu cyflwyno fel rhan o arddangosfa Trysorau yn Oriel Hengwrt Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Gyda chymaint o wrthdaro crefyddol a gwleidyddol, mae'n rhyfeddol bod y ddau Feibl wedi goroesi, gydag un bellach yn cael ei gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru a'r llall yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt. Fodd bynnag, nid yw'n hysbys yn sicr pa un oedd yn eiddo i Harri a pha un oedd yn eiddo i Cromwell.
Cafodd y copïau moethus yma eu cynhyrchu yn 1538/9 a chael eu hargraffu ar femrwm a’u lliwio’n ofalus â llaw gan artistiaid gorau Ewrop. Cefnogwyd argraffu’r Beibl gan Thomas Cromwell oedd yn gefnogwr cryf o ddiwygio crefyddol. Cafodd y ddau gopi arbennig yma eu creu fel rhan o’r ymgyrch i argyhoeddi’r Brenin.
Y Beibl Mawr oedd y cyfieithiad cyntaf o’r Beibl i’r Saesneg i’w ddosbarthu ar hyd a lled y deyrnas. Trwy orchymyn brenhinol, roedd i'w osod ym mhob eglwys yng Nghymru a Lloegr mewn lle hawdd i'r lleygwyr ei gyrraedd. Mewn cyfnod lle’r oedd gweddïau’n dal i fod yn bennaf yn Lladin, roedd darparu Beibl Saesneg i bobl gyffredin yn wirioneddol chwyldroadol. Roedd yn nodi dechrau cyfnod newydd o roi mwy o fynediad i bobl at y Beibl nag erioed o’r blaen.
Er gwaetha’r dudalen deitl ddiddorol, sy’n dangos delwedd ddelfrydol o Harri’r VIII yn dosbarthu Beiblau i bobl gyffredin, doedd Harri ddim yn gwbl gyfforddus â gadael i bobl gyffredin ddarllen y Beibl a gosododd gyfyngiadau ar fynediad ar ôl dienyddio Cromwell. Ond, doedd dim modd dad-wneud effaith y Beibl Mawr. Ar ôl marwolaeth Harri, cynyddodd y defnydd o Feiblau mewn eglwysi a chartrefi.
Meddai Rhodri Llwyd Morgan, Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Mae Oes y Tuduriaid yn dal apêl arbennig hyd heddiw. Mae’r ddau feibl yn eiddo personol dau o gymeriadau mawr y cyfnod ac maent yn ganolbwynt arddangosfa hynod sy’n olrhain digwyddiadau pellgyrhaeddol sy’n berthnasol i ni nawr. Mae’n fraint wirioneddol gallu arddangos y ddau gopi o gyhoeddiad mor arloesol wrth ymyl ei gilydd yn y Llyfrgell Genedlaethol. Fe welwn hefyd yn yr arddangosfa stori’r newidiadau gwleidyddol a chymdeithasol y cyfnod, gan gynnwys y symbyliad i gael Beibl Cymraeg, cam allweddol yn hanes a pharhad yr iaith Gymraeg. Braint hefyd yw cydweithio gyda Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt a’r tîm ymchwil wrth i dechnolegau arloesol helpu datguddio rhagor o gyfrinachau oddi fewn i’r ddau feibl a darganfod mwy am amgylchiadau eu creu.”
Yn ddiweddar, mae'r Beiblau wedi cael eu hastudio'n ofalus fel rhan o brosiect ymchwil Hidden in Plain Sight, mewn cydweithrediad â Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt a Phrifysgol Queen Mary yn Llundain, ac wedi’i ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, sy'n edrych ar sut mae llyfrau hynafol wedi cael eu defnyddio, eu newid a’u parchu.
Gan ddefnyddio amrywiaeth o offer gwyddonol, o belydr-x i ficrosgopau a hyd yn oed profion DNA, mae goleuni newydd wedi'i daflu ar y llyfrau, gan ddatgelu rhai hanesion cudd ac arwain at ddarganfyddiadau am sut gafodd y llyfrau eu creu a'u haddasu dros amser.
Mae'r prosiect wedi datgelu bod Cromwell wedi ychwanegu ei bortread ei hun i dudalen deitl copi Coleg Sant Ioan - gweithred i neb sylwi arni am ganrifoedd. Cafodd y dudalen deitl agoriadol ei newid ymhellach i ennill cefnogaeth Harri, trwy addasu delwedd o foneddiges i edrych fel Jane Seymour, gwraig annwyl Harri a oedd wedi marw'n ddiweddar. Bydd darganfyddiadau eraill yn cael eu datgelu yn ystod cyfnod yr arddangosfa.
Meddai Dr Amelie Roper, Pennaeth Ymchwil a Rheolwr Sefydliad Ymchwil Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt:
“Mae’r cyfle prin yma i astudio’r Beiblau ochr yn ochr wedi datgelu cyfrinachau newydd ac wedi creu llwybrau cyffrous o ddarganfod. Mae aelodau prosiect Hidden in Plain Sight o Lyfrgell Prifysgol Caergrawnt a Phrifysgol Queen Mary yn Llundain wedi defnyddio technegau gwyddor treftadaeth arloesol i gofnodi’r canfyddiadau hyn, yn barod i’w harchwilio yn yr arddangosfa ac wrth i’r prosiect barhau.”
Meddai’r Athro Eyal Poleg, o Brifysgol Queen Mary, Llundain:
“Dyma ddau o arteffactau pwysicaf Llys y Tuduriaid. Mae technolegau newydd wedi datgelu addasiadau, a fu’n gudd ers canrifoedd. Gallwn nawr werthfawrogi sut y gwnaeth Cromwell addasu’r Beiblau wrth iddynt gael eu hargraffu, gan lywio’n ofalus drwy gythrwfl crefyddol a gwleidyddol llys Harri. Mae’r gallu i weld y Beiblau ochr yn ochr, am y tro cyntaf ers bron i 500 mlynedd, yn gyfle prin i weld y cyfnod unigryw hwn yn uniongyrchol.”
Bydd eitemau cyfoes eraill o gasgliad y Llyfrgell, sy'n adrodd hanes diddymiad y mynachlogydd, olrhain datblygiad yr iaith Gymraeg, ac sy’n edrych ar Anne Boleyn a chlecs y llys, hefyd i'w gweld gyda’r Beiblau.
-DIWEDD-
** This press release is also available in English **
Ymholiadau'r cyfryngau:
Rhodri ap Dyfrig, Pennaeth Cyfathrebu
rhodri.apdyfrig@llyfrgell.cymru / 07521761762
Nodiadau i olygyddion
Ynglŷn â Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn llyfrgell i Gymru a'r byd. Wedi'i lleoli yn Aberystwyth, dyma gartref stori Cymru. Agorwyd y Llyfrgell yn 1907 ac mae’n ganolfan ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth Cymru a'r gwledydd Celtaidd.
Pwrpas y Llyfrgell yw gwneud diwylliant a threftadaeth Cymru yn hygyrch i bawb ddysgu, ymchwilio a mwynhau. Mae'r Llyfrgell yn llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu bod ganddi hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon, ond mae ei chasgliadau hefyd yn cynnwys y canlynol:
Gallwch chwilio'r casgliadau ar-lein. Fe welwch ragor o wybodaeth ynghyd â rhestr o adnoddau ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.