Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Roedd yr wythnos ddiwethaf yn amser i ddathlu wrth i waith gwirfoddol y Llyfrgell ar brosiect digido Deiseb Heddwch Menywod Cymru gael ‘canmoliaeth uchel’ yng Ngwobrau Gwirfoddoli Archifau ARA (Archives and Records Association).
Dywedodd Bethan Rees, Rheolwr Rhaglen Ddigidol Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Mae'n anrhydedd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru dderbyn canmoliaeth uchel gan feirniaid Gwobr Gwirfoddoli Archifau ARA 2025 am y gwaith rhyfeddol a wnaed gan ein gwirfoddolwyr wrth drawsgrifio'r enwau a chyfeiriadau ar Ddeiseb Heddwch Menywod Cymru. Ni fyddai'r gamp hon wedi bod yn bosibl heb ymroddiad ac ymrwymiad ein gwirfoddolwyr.
Nid yn unig mae eu gwaith wedi gadael gwaddol parhaol, ond mae hefyd wedi adeiladu pont rhwng y gorffennol a'r presennol, gan ein hatgoffa bod stori y tu ôl i bob enw sy'n haeddu cael ei chofio.”
Gallwch ddarllen y feirniadaeth yma.
Ond, roedd hefyd yn wythnos lle’r oedd y Llyfrgell yn byrlymu gyda chreadigrwydd a lleisiau ifanc wrth i ni groesawu dros 200 o blant a myfyrwyr lleol dros yr wythnos i weithgareddau a seremoniau amrywiol. Roedd rhain yn benllanw gwaith sy’n digwydd drwy gydol y flwyddyn i fynd â chasgliadau’r genedl allan i blant a phobl ifanc.
Ddydd Mercher roedd yna ffrwydrad o liw a llun gydag agoriad arddangosfa o waith myfyrwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol Coleg Ceredigion.
Sail y prosiect oedd dyluniad yr artist John Petts o ffenestr liw ar gyfer y 16th Street Baptist Church yn Birmingham, Alabama. Codwyd arian gan bobl Cymru i dalu amdani yn 1963 ar ôl i grŵp hiliol ac eithafol osod bom yno a laddodd pedair merch ddu ifanc oedd yn mynychu’r ysgol Sul.
Roedd dehongliad y myfyrwyr o’r gwaith yn amrywiol ac yn dangos pob math o ffyrdd gwahanol o ddefnydd lliw ac arddull.
Bore dydd Iau cafwyd seremoniau i wobrwyo disgyblion ysgol cynradd Ceredigion fel rhan o Ŵyl Ffilm Trwyr Lens. Roedd Ysgol Gymraeg Aberystwyth, Ysgol Mynach, Ysgol Craig yr Wylfa, ac Ysgol Llwyn yr Eos yn bresennol yn y seremoni i ddathlu eu gwaith creadigol. Llongyfarchiadau iddyn nhw i gyd!
Nos Iau roedd y Drwm yn llawn dop ar gyfer dangosiad diwedd prosiect ar y cyd rhwng y Llyfrgell a chwrs Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol Coleg Ceredigion. Cafodd myfyrwyr y cwrs gyfle i ymateb i briff gan y Llyfrgell ar gyfer creu hysbyseb a dangoswyd ffilmiau a gwaith diwedd blwyddyn y myfyrwyr.
Mae’r mathau hyn o weithagaredd ymgysylltu yn greiddiol i genhadaeth y Llyfrgell sydd wedi ei fanylu yn ein strategaeth newydd ar gyfer 2025-2030 a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Mae cael y fath weithgarwch yn dangos ein bwriad i gynyddu gweithgaredd sydd yn cyfoethogi sgiliau, ymchwil a phrofiadau dysgu pob dysgwr yng Nghymru.
Gallwch ddarllen ein Strategaeth lawn yma.