Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Ar 20 Mai daeth cwis ‘Pencampwyr y Pencampwyr’ cynllun e-sgol i Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Mewn diwrnod llawn cyffro a hwyl daeth plant o Ysgol Mynydd-y-Garreg ac Ysgol Treferthyr i’r Llyfrgell i gystadlu yn rownd derfynol Cwis Amser Aur e-sgol.
Yn ystod y bore, cafodd y disgyblion o'r ddwy ysgol daith o amgylch yr adeilad, gan geisio gwrando’n astud ar ffeithiau am y Llyfrgell. Pam gwrando’n astud? Am fod y ffeithiau hyn yn rhan o gwestiynau’r cwis e-sgol i ddewis y pencampwyr yn y prynhawn.
Taith i’r Llyfrgell oedd y wobr am ddod yn gyntaf yn y Cwis Amser Aur ar-lein. Yn dilyn buddugoliaeth Ysgol Mynydd-y-Garreg ac Ysgol Treferthyr yn y gystadleuaeth ar-lein, cafodd dosbarthiadau y ddwy ysgol eu gwahodd i’r Llyfrgell i gystadlu yn y cwis ‘Pencampwyr y Pencampwyr’.
Yn ystod mis Mawrth, cymerodd dros 1,000 o blant ran yng Nghwis Amser Aur a chyfres o weithdai ar-lein gan Wasanaeth Addysg y Llyfrgell ar y cyd gyda e-sgol, i ymgysylltu â disgyblion ledled Cymru.
Thema’r gweithdai ar-lein oedd ‘Cymreictod’, ac fe gyflwynodd y Llyfrgell sesiynau arbennig gan ddefnyddio eitemau o’r casgliadau i ddathlu’r iaith Gymraeg, chwedlau traddodiadol, cerddoriaeth, unigolion o gefndiroedd amrywiol, a digwyddiadau eiconig yn hanes Cymru. Roedd y cwis digidol cyffrous am gynnwys y cyflwyniadau yn rhan o bob sesiwn.
Meddai athro o Ysgol Treferthyr:
“Am ddiwrnod! Y plant wedi gwirioni'n llwyr cael dod yma i'r Llyfrgell Genedlaethol heddiw, a chael ein tywys y tu ôl i'r llen. Roedd hynna'n brofiad arbennig. Mae'r disgyblion wedi mwynhau dysgu am sut y mae'r Llyfrgell yn gwarchod rhai o drysorau pwysicaf Cymru, ac roeddent wrth eu boddau yn crwydro'r oriel - gwên ar bob wyneb.
Hoffwn ddiolch yn fawr i e-sgol am drefnu'r gystadleuaeth a rhoi'r cyfle i ddisgyblion Ysgol Treferthyr i ddod i Aberystwyth i gynrychioli’r ysgol, ardal Cricieth a gogledd Cymru. Gwych! Diolch o galon i chi.”
Meddai Rhodri Morgan Rheolwr y Gwasnaeth Addysg yn Llyfrgell Genedaethol Cymru:
“Mae’r Gwasanaeth Addysg yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gweithio’n ddiflino i rannu ein gwaith a’n casgliadau gyda chymaint o ddisgyblion â phosibl mewn ffyrdd sy’n ennyn diddordeb cynulleidfaoedd ifanc. Mae’r cynllun hwn wedi rhoi’r cyfle i ni gysylltu â nifer enfawr o blant o bob rhan o Gymru, a gwneud hyn mewn ffordd sydd gymaint o hwyl â phosibl.”
Llongyfarchiadau i Ysgol Mynydd-y-Garreg ac Ysgol Treferthyr am eu llwyddiant!
--DIWEDD--
** This press release is also available in English **
Cyswllt cyfryngau Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Rhodri ap Dyfrig, Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd,
rhodri.apdyfrig@llyfrgell.cymru / 07521 761762
NODIADAU I OLYGYDDION
Am Lyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Llyfrgell i Gymru a’r byd. Wedi ei lleoli yn Aberystwyth, mae’n gartref i stori Cymru.
Wedi ei hagor yn 1907, mae’r Llyfrgell yn ganolbwynt ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth Cymru a’r gwledydd Celtaidd.
Pwrpas y Llyfrgell yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth yn hygyrch i bawb allu dysgu, ymchwilio a mwynhau.
Rydym yn llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu fod gennym hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon, ond mae ein casgliadau hefyd yn cynnwys y canlynol:
Gallwch chwilio'r casgliadau ar-lein a chewch wybodaeth bellach ynghyd â rhestr o adnoddau ar wefan y Llyfrgell.
Am Wasanaeth Addysg LlGC
Sefydlwyd Gwasanaeth Addysg LLGC yn 2002. Ei brif waith yw:
Ers 2007 mae gwasanaeth Addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi bod yn cyflwyno casgliadau’r Llyfrgell mewn ardaloedd ar draws Cymru fel rhan o’i rhaglen estyn allan. Caiff y prosiectau hyn eu cynllunio a’u cyflwyno mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, ysgolion a sefydliadau eraill, a’u teilwra i ateb anghenion y defnyddwyr, yn ogystal ag ateb gofynion y cwricwlwm o ran cynnwys a sgiliau.
Am e-sgol
Mae prosiect e-sgol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, wedi bod yn rhedeg ers mis Medi 2018, yn wreiddiol er mwyn cynnig cyfleoedd trwy e-ddysgu i ddisgyblion ôl-14 na fyddai ar gael heb y ddarpariaeth arloesol hon. Y bwriad yw ehangu’r darpariaeth sydd ar gael o fewn ysgolion ar draws Cymru, fel bod dewis eang o gymwysterau a phrofiadau ar gael i bobl ifanc, boed hynny yn y sector uwchradd neu nawr yn y sector cynradd hefyd.