Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn falch o gyhoeddi bod ei Chynllun Gwirfoddoli wedi cael ei gydnabod drwy ennill achrediad Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr.
Mae gwirfoddoli yn chwarae rhan hanfodol yng ngwaith y Llyfrgell, ac mae’n cael ei amlygu yng Nghynllun Strategol 2025-2030. Mae derbyn safon ansawdd Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr y DU ar gyfer arfer gorau mewn rheoli gwirfoddolwyr yn cydnabod gwaith caled y Tîm Gwirfoddoli a'r gwirfoddolwyr wrth adeiladu cynllun gwirfoddoli cynhwysol, ysbrydoledig a chefnogol.
Meddai Rhodri Llwyd Morgan, Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Rydym yn falch dros ben o ennill statws achrediad Buddsoddi mewn Gwirfoddoli. Mae’n gydnabyddiaeth o waith rhagorol y Llyfrgell yn y maes hwn. Mae gwirfoddolwyr yn rhan bwysig o fywyd y Llyfrgell, ac mae’r aseswyr wedi gweld fod gwirfoddoli weithgaredd sydd wedi'i wreiddio yn y Llyfrgell. Rydym yn elwa'n fawr o'r gwaith a wneir gan wirfoddolwyr, gan eu bod yn cyfrannu at amrywiaeth o brosiectau. Yn eu tro mae gwirfoddolwyr yn elwa o'u profiadau ac mae bod yn rhan o'r gymuned yn y Llyfrgell yn cyfoethogi eu bywydau.”
Meddai Mike Powdrill, un o wirfoddolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Dechreuais wirfoddoli yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar ôl cael trafferth gyda fy iechyd meddwl. Dwi'n mwynhau'r gwaith – mae ganddo bwrpas – ac mae’r staff a’r gwirfoddolwyr yn gwmni gwych. Yn gyflym iawn, cynyddais fy oriau gwirfoddoli. Mae’r Cynllun Gwirfoddoli yn cynnig elfennau hollbwysig i mi ar gyfer fy iechyd meddwl a ffordd o fyw – mynd allan o’r tŷ, swydd, ac elfen gymdeithasol. Mae’r staff yn gefnogol iawn ac maen nhw wedi fy nghefnogi gydag unrhyw broblemau.”
Yn ogystal â chyrraedd y meini prawf cyffredinol sy’n cael eu gosod gan Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr, cafodd nifer o gryfderau eu hadnabod yn ystod yr asesiad.
Mae'r Llyfrgell yn denu ystod amrywiol o wirfoddolwyr, o ran oedran, cenedligrwydd, niwroamrywiaeth, rhywioldeb a rhyw, yn ogystal ag iechyd meddwl a chorfforol. Mae'r amrywiaeth yma yn dod â sgiliau, profiad ac arbenigedd ehangach i wirfoddoli.
Nodwyd hefyd bod gwirfoddolwyr yn teimlo eu bod nhw’n cael eu cefnogi'n dda ac yn rhagweithiol, gan roi hyder iddyn nhw, ac yn cael eu gwerthfawrogi gan aelodau o staff yn y Tîm Gwirfoddoli.
Mae'r Llyfrgell bellach wedi'i hychwanegu at y Rhestr o Gyflawnwyr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr ac mae'r wobr yn ddilys am dair blynedd.
--DIWEDD--
** This press release is also available in English **
Ymholiadau'r cyfryngau
Nia Dafydd, Rheolwr Marchnata a Hyrwyddo
nia.dafydd@llyfrgell.cymru / 01970 632871
NODIADAU I OLYGYDDION
Am Lyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Llyfrgell i Gymru a’r byd. Wedi ei lleoli yn Aberystwyth, mae’n gartref i stori Cymru.
Wedi ei hagor yn 1907, mae’r Llyfrgell yn ganolbwynt ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth Cymru a’r gwledydd Celtaidd.
Pwrpas y Llyfrgell yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth yn hygyrch i bawb allu dysgu, ymchwilio a mwynhau.
Rydym yn llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu fod gennym hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon, ond mae ein casgliadau hefyd yn cynnwys y canlynol:
Cewch wybodaeth bellach ynghyd â rhestr o adnoddau ar wefan y Llyfrgell.
Gwirfoddoli yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Cafodd y Cynllun Gwirfoddoli ei sefydlu yn 2012, ac ers hynny mae 462 o wirfoddolwyr wedi gweithio ar nifer o brosiectau. Mae tua 66 o bobl yn gwirfoddoli bob wythnos.
Fel arfer mae tua 15 o dasgau ar gael i'r gwirfoddolwyr cyffredinol, sy'n newid o bryd i'w gilydd yn dibynnu ar anghenion y Llyfrgell Genedlaethol.
Mae enghreifftiau o'r tasgau cyfredol yn cynnwys ymchwilio i gapteiniaid llongau Aberystwyth, sganio ar gyfer Casgliad y Werin Cymru, trawsgrifio Deiseb Heddwch Menywod Cymru a sgriptiau a ffotograffau BBC/ITV, rhestru aelodau'r Orsedd, a chwrdd a chyfarch ymwelwyr. Mae'r rhan fwyaf o wirfoddolwyr yn gwneud tasgau trwy ddod i'r Llyfrgell Genedlaethol, ond mae modd gwneud rhai tasgau o bell.