Symud i'r prif gynnwys

09.04.2025

Ar 12 Ebrill bydd arddangosfa newydd sy’n dathlu celf gyfoes Gymreig, yn agor yn Oriel Glan-yr-afon, Hwlffordd. Bydd arddangosfa CYFOES: Celf Cymru Heddiw · Contemporary Welsh Art yn dwyn ynghyd detholiad o weithiau celf, wedi’u creu yn ystod y degawd diwethaf, o’r Casgliad Celf yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Bydd yr arddangosfa yn cynnwys gweithiau olew, cerfluniau a gweithiau aml-gyfrwng yn ogystal â gweithiau gan artistiaid ifainc a sefydledig. Mae’r mwyafrif yn weithiau gan artistiaid benywaidd. 

Bydd arddangosfa CYFOES yn cynnig cipolwg ar fyd bywiog celf gyfoes yng Nghymru, gan ymdrin â dylanwadau modern themâu fel pandemig Covid-19 ac hunaniaeth. Bydd hefyd yn cynrychioli gwedd newidiol celf yng Nghymru heddiw wrth i syniadau newydd beiddgar a safbwyntiau ffres ar ddiwylliant Cymru cael eu cyfleu gan y gweithiau sydd ar ddangos.

Ymhlith uchafbwyntiau’r arddangosfa mae Dannedd Dodi gan Anya Paintsil, HorseHead gan Dr Adéọlá Dewis; Blodeuwedd gan Natalia Dias a Moelni Maith gan Lisa Eurgain Taylor

Dywedodd Rhodri Llwyd Morgan, Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Mae’r Llyfrgell yn gartref i dros 60,000 o weithiau celf, ac mae’n hanfodol ein bod ni’n arddangos cymaint ohonyn nhw i’r cyhoedd â phosib. Mae ein horiel yn Llyfrgell Glan-yr-afon yn ein galluogi i’w rhannu a chynulleidfaoedd y tu hwnt i’n safle yn Aberystwyth. Mae’r gweithiau cyfoes yn yr arddangosfa hon yn gyfle i ni ddangos sut rydym yn casglu’n gyson er mwyn sicrhau bod y casgliad yn adlewyrchu Cymru gyfoes.”

Meddai Mari Elin Jones, Swyddog Dehongli, Adran Arddangosfeydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Rydyn ni’n falch iawn o’r cyfle hwn i rannu detholiad arbennig o weithiau celf gan rai o artistiaid cyfoes mwyaf blaenllaw Cymru ac yn hynod o falch gallu rhannu gymaint o weithiau gan artistiaid benywaidd. Nod yr arddangosfa yw dathlu cyfoeth celf gyfoes yng Nghymru a’i fywiogrwydd parhaus wrth ddehongli'r byd sydd ohoni.”

Bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal i gyd-fynd â’r arddangosfa a bydd manylion y rhain yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru dros yr wythnosau nesaf.

Ar ddangos ochr yn ochr ag arddangosfa CYFOES mae’r arddangosfa barhaol Sir Benfro: Ddoe a Heddiw, sy'n canolbwyntio ar hanes, diwylliant a thirwedd Sir Benfro.

Bydd y ddwy arddangosfa yn agored tan Ddydd Sadwrn 11 Hydref 2025.

--DIWEDD--

**This press release is also available in English**

Am fwy o wybodaeth a lluniau, cysylltwch â:

Rhodri ap Dyfrig, Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

rhodri.apdyfrig@llyfrgell.cymru / 07855 362206

NODIADAU I OLYGYDDION

Am Llyfrgell, Oriel a Chanolfan Gwybodaeth i Ymwelwyr Glan-yr-afon, Hwlffordd

Mae Glan-yr-afon yn ganolfan ddiwylliannol flaenllaw yng nghalon Hwlffordd, sir Benfro. Fe’i hagorwyd ym mis Rhagfyr 2018, ac mae’n cynnwys llyfrgell fodern, canolfan i ymwelwyr, siop goffi a gofod ar gyfer oriel sy’n arddangos casgliadau o Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r cyfleuster gwych hwn yn anarferol ac yn arloesol, ac eisoes wedi bod yn rhan allweddol o’r gwaith o adfywio’r dref a’r ardal ehangach yn sir Benfro.

Am fwy o wybodaeth, ewch i:

Am Lyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn un o lyfrgelloedd mawr y byd. Wedi ei lleoli yn Aberystwyth, mae’n gartref i stori Cymru.

Wedi ei hagor yn 1907, mae’r Llyfrgell yn ganolbwynt ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth Cymru a’r gwledydd Celtaidd.

Pwrpas y Llyfrgell yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth yn hygyrch i bawb allu dysgu, ymchwilio a mwynhau.

Rydym yn llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu fod gennym hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon, ond mae ein casgliadau hefyd yn cynnwys y canlynol:

  • 7,000,000 troedfedd o ffilm
  • 250,000 awr o fideo
  • 6,000,000 o lyfrau a phapurau newydd
  • 40,000 llawysgrif
  • 1,500,000 map
  • 150,000 awr o sain
  • 950,000 ffotograff
  • 60,000 gwaith celf
  • 1,900 metr ciwb o archifau

Gallwch chwilio'r casgliadau ar-lein a chewch wybodaeth bellach ynghyd â rhestr o adnoddau ar wefan y Llyfrgell.