Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd gweithgareddau Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn yr Eisteddfod yn Wrecsam eleni yn dathlu celf, cerddoriaeth a’r gymuned leol gyda rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau, ar y stondin ac ar draws y Maes. Trwy ffilmiau, sgyrsiau a digwyddiad cymunedol, bydd ymwelwyr yn mwynhau dysgu am a dathlu ardal Wrecsam.
Bydd detholiad o ffilmiau o Archif Ddarlledu Cymru yn cael eu dangos ar y stondin ac yn Sinemaes. Ar Ddydd Sadwrn 2 Awst, bydd rhaglen Sinemaes yn cynnwys Wrecsam ar y Bocs, sef detholiad o glipiau archif o raglenni teledu am ardal Wrecsam, ac Archif drwy Lygaid Lleol, pan fydd trigolion lleol yn ymateb i enghreifftiau o ddeunydd archif a ddarparwyd gan Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru.
Ar Ddydd Mercher 6 Awst cynhelir Te Parti Mawr ar y stondin i ddathlu penllanw chwe mis o waith gyda grwpiau cymunedol Wrecsam a’r cylch. Yn ogystal â the a chacen, bydd cyfle i weld sut mae deunydd o Archif Ddarlledu Cymru wedi ysbrydoli gwaith creadigol.
Bydd y Dr Cymraeg yn ymuno â’r cyflwynydd Nia Roberts a Dafydd Tudur o’r Llyfrgell Genedlaethol ar daith drwy’r casgliadau yn nigwyddiad Cyfrinachau’r Llyfrgell ar y Maes: Cyfrinachau Wrecsam Ddydd Iau 7 Awst. Yn y digwyddiad hynod ddiddorol hwn bydd eitemau o gasgliadau’r Llyfrgell yn cael eu cyflwyno i adrodd rhai o hanesion Wrecsam a’r ardal.
Hefyd ar Ddydd Iau yn Nhŷ Gwerin, bydd cyfle i glywed Gwilym Bowen Rhys yn perfformio rhai o’r baledi sy’n ymwneud ag ardal Wrecsam y mae wedi dod o hyd iddyn nhw yn Archif Gerdd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Bydd dathlu celf a cherddoriaeth hefyd yn rhan annatod o weithgareddau’r Llyfrgell yn ystod yr wythnos. Bydd Dafydd Iwan a Kevin Tame yn ymuno â Rhodri ap Dyfrig Ddydd Llun 4 Awst i drafod sut mae’r Llyfrgell wedi gweithio gyda Sain i ddigido a gwarchod catalog Sain. Mi fyddan nhw hefyd yn taflu goleuni ar sut y bydd Sain yn gwneud y mwyaf o’r archif ryfeddol yma.
Bydd Peter Lord yn bwrw golwg yn ôl ar arddangosfa Dim Celf Gymreig ar Ddydd Gwener 8 Awst, gan werthuso’r hyn y mae wedi’i gyflawni ac yn rhannu ei obeithion ar gyfer dyfodol y gweithiau celf hyn. Tra i rieni sy'n chwilio am ffordd hwyliog o ddiddanu eu plant yn ystod yr wythnos, bydd cyfle iddyn nhw wisgo i fyny fel rhai o'r bobl o baentiadau Dim Celf Gymreig.
Os ydych chi’n chwilio am anrheg neu drît i chi’ch hun, bydd sawl eitem newydd sbon ar gael yn ein siop, gan gynnwys dillad, printiau ac eitemau eraill sydd wedi’u hysbrydoli gan yr arddangosfa Dim Celf Gymreig.
Mae uchafbwyntiau eraill yr wythnos yn cynnwys:
Dydd Sadwrn, 2 Awst 11:30am (Cymdeithasau)
Merched Sefydlu Plaid Cymru
Sgwrs gan yr Archif Wleidyddol Gymreig / Llyfrgell Genedlaethol Cymru gyda Gwen Gruffudd ac Arwel Vittle, ac wedi’i gadeirio gan Dylan Iorwerth yn edrych ar hanes sefydlu Plaid Cymru, gan gynnwys cyfraniad merched fel Mai Roberts, Mallt Williams ac Elisabeth Williams a chwaraeodd rannau allweddol yn nechrau’r blaid.
Dydd Mercher, 6 Awst, 11:00am (Stondin y Llyfrgell)
'Yn ôl i Lanfrothen: golwg newydd ar Jones v Roberts (1888) (achos claddu Llanfrothen)' gan Keith Bush KC (honoris causa), Cymrawd Cyfraith Cymru, Prifysgol Caerdydd
Cynhelir mewn cydweithrediad gyda Chyfeillion y Llyfrgell
Dydd Sul 3 Awst, 4:00pm & Dydd Sadwrn 9 Awst, 12:00pm (Sinemaes)
Ffilm – Oed yr Addewid
Dangosiad o sgan 2K Newydd gan Archif Sgrin a Sain Cymru o’r ffilm arbennig gyda sgwrs banel i ddilyn.
Bydd rhaglen lawn gyda manylion y digwyddiadau ar y stondin ac o amgylch y Maes yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan a dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol am y newyddion diweddaraf yn ystod yr wythnos.
-DIWEDD-
** This press release is also available in English **
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:
Dan Johnson, Swyddog Cyfathrebu (Cysylltiadau Cyhoeddus)
daniel.johnson@llyfrgell.cymru / 01970 632525