Symud i'r prif gynnwys

2 Hydref 2025

Ar 2 Hydref 2025, bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn agor arddangosfa barhaol newydd – gofod pwerus sy’n dathlu un o’r ymgyrchoedd heddwch mwyaf ysbrydoledig yn hanes Cymru: Deiseb Heddwch Menywod Cymru. 

Dyma le i ddysgu, myfyrio, ac ysbrydoli – lle mae hanes yn cwrdd â gobaith, a lle mae gweithredu’n dechrau, ar gyfer adeiladu dyfodol heddychlon i Gymru a’r byd. 

Yn ganolog i’r arddangosfa Heddychwyr bydd copi o’r apêl eiconig a’r gist dderw enwog a gludodd y neges heddwch dros Fôr yr Iwerydd i America. Bydd tudalennau’r ddeiseb yn cael eu dangos ochr yn ochr â straeon y merched a’i llofnododd – un stori ar y tro, gan ddechrau gyda hanes Annie Hughes Griffiths. Bydd eitemau personol o’i harchif yn cael eu harddangos, gan gynnwys y dyddiadur a gadwodd ar y daith drawsatlantig honno – gyda’i geiriau hi ei hun yn dod yn fyw mewn sain a ffilm. 

Ond nid hanes yn unig yw hwn. Bydd ymwelwyr yn gallu chwilio am enwau eu teuluoedd yn y ddeiseb drwy gyfrifiaduron yn y gofod, diolch i broses dorfol o drawsysgrifio gan y Llyfrgell. Bydd modd iddynt fyfyrio, rhannu eu neges heddwch eu hunain, a dod yn rhan o’r stori heddwch sy’n parhau hyd heddiw. 

Meddai Rhodri Llwyd Morgan, Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru: 

“Ers i Ddeiseb Heddwch Menywod Cymru ddychwelyd i Gymru yn Ebrill 2023, mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi gweithio’n ddiwyd i rannu ei stori. Mae’r gwaith catalogio, digido, trawsysgrifio a chreu gwefan sydd wedi’i wneud ers hynny yn golygu bod pobl o bedwar ban y byd gyda mynediad i’r adnodd arbennig yma, er mwyn chwilio am eu hen nain, modryb neu rywun oedd yn byw ar ei stryd. 

Bu stori’r Ddeiseb, a’r menywod tu ôl iddi ar goll am rhy hir - ond dim mwy. Nawr, mae’r ardal arddangos bwrpasol hon yn golygu bod eu hanes yn cael ei adrodd a’i fod ar gof a chadw i genedlaethau’r dyfodol gael dysgu am wydnwch a gweledigaeth y menywod yma.” 

Meddai’r Athro Mererid Hopwood, Ysgrifennydd Academi Heddwch Cymru: 

“Mewn dyddiau sy’n llawn straeon am ryfel a thrais, mae penderfyniad ein Llyfrgell Genedlaethol i neilltuo lle i’r arddangosfa bwysig hon yn ddatganiad o ffydd a gobaith. Mae’n rhoi cyfle inni gael ein hysbrydoli gan y gorffennol i ddychmygu - ac i greu - dyfodol lle mae pobloedd y byd yn gallu cyd-fyw’n heddychlon â’i gilydd. 

Bu’n fraint cydweithio â Llyfrgell Genedlaethol Cymru drwy Academi Heddwch Cymru i sicrhau bod stori Deiseb Heddwch Menywod Cymru 1923–24 yn dod i glawr, a gwn y bydd yr arddangosfa hon yn rhoi hwb i wireddu gweledigaeth y ddeiseb honno o ‘drosglwyddo i’r oesau a ddêl fyd di-ryfel yn dreftadaeth dragywydd’.” 

Meddai’r Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant AS: 

"Mae'n fraint agor yr arddangosfa barhaol newydd hon sy'n ofod pwrpasol i nodi Deiseb Heddwch Merched Cymru. Mae'r ymgyrch hynod hon, a unodd bron i 400,000 o ferched Cymru ym 1923-24, yn dyst i’n gwerthoedd parhaol fel cenedl heddychlon. Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi’r gwaith i ddod â'r darn anhygoel hwn o hanes Cymru adref lle mae'n perthyn." 

“Mae neges y ddeiseb – sy’n galw am ‘gyfraith nid rhyfel’ ac am fyd heb wrthdaro – yn parhau i fod yr un mor berthnasol heddiw ag yr oedd ganrif yn ôl a bydd y gofod pwrpasol hwn yn y Llyfrgell Genedlaethol yn sicrhau bod dewrder a gweledigaeth y merched hyn yn parhau i ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.” 

Er mai’r ddeiseb yw canolbwynt yr arddangosfa, bydd hefyd yn archwilio hanes ehangach ymgyrchoedd heddwch yng Nghymru, gan ddangos bod yr ymrwymiad i heddwch wedi parhau ymhell ar ôl 1924. O negeseuon rhyngwladol o gyfeillgarwch i weithredoedd protest pwerus, mae pobl Cymru wedi, ac yn parhau i godi eu lleisiau dros heddwch. Bydd yr arddangosfa yn rhannu rhai o’r straeon hyn, gan gynnwys rhai eitemau’n ymwneud â gweithred hanesyddol merched Comin Greenham. 

Am y Ddeiseb 

Wedi’i arwyddo gan bron i 400,000 o fenywod Cymru, roedd Deiseb Heddwch 1923-24 yn weithred bwerus o undod a gobaith. Roedd yn galw ar fenywod America i ymuno yn yr ymdrech i greu byd heb ryfel, ac mae ei neges yn dal i atseinio dros ganrif yn ddiweddarach. 

Lansiwyd y Ddeiseb yn Aberystwyth ym Mai 1923 ac aeth ymgyrchwyr heddwch ati yn ddiflino i gasglu llofnodion yn y misoedd canlynol. O bentrefi bach i drefi diwydiannol, roedd menywod yn llofnodi yn eu miloedd. 

Tu ôl i bob llofnod mae menyw â’i stori ei hun - athrawes, mam, gweithiwr ffatri, bardd neu ymgyrchydd oedd yn credu mewn heddwch ac a benderfynodd weithredu. 

Roedd y cyfanswm terfynol o 390,296 llofnodion – un o bob tair menyw yng Nghymru - yn brawf o’r gefnogaeth eang i heddwch a chryfder rhwydweithiau menywod Cymru. Yn Chwefror 1924, teithiodd dirprwyaeth o fenywod Cymru, dan arweiniad Annie Jane Hughes Griffiths, i’r Unol Daleithiau i gyflwyno’r Ddeiseb i fenywod America. Cawsant groeso cynnes a buont ar daith i ddinasoedd mawr, gan siarad mewn cyfarfodydd cyhoeddus, clybiau menywod ac eglwysi, a rhannu eu neges o heddwch. 

I nodi’r canmlwyddiant, gwnaeth Sefydliad Smithsonian y penderfyniad anrhydeddus i roi’r Ddeiseb yn rhodd i bobl Cymru, gan roi cartref newydd iddi yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae papurau a chist dderw’r Ddeiseb wedi’u harddangos mewn lleoliadau trwy Gymru, ac mae cannoedd o wirfoddolwyr wedi cymryd rhan yn y dasg o drawsgrifio pob llofnod, i sicrhau bod y weledigaeth o heddwch byd-eang yn fyw o hyd. 

Gallwch eu chwilio yma: https://deisebheddwch.llyfrgell.cymru/ 

2 October 2025

On 2 October 2025, the National Library of Wales will open a new permanent exhibition - a powerful space that celebrates one of the most inspiring peace campaigns in Welsh history: the Welsh Women's Peace Petition. 

This will be a place to learn, reflect, and draw inspiration - where history meets hope, and where seeds of action are sown to build a peaceful future for Wales and the world. 

Central to the Peacemakers exhibition will be a copy of the iconic appeal and the famous oak chest that carried the message of peace across the Atlantic to America. The pages of the petition will be shown alongside the accounts of the women who signed it - one story at a time, starting with the story of Annie Hughes Griffiths. Personal items from her archive will be on display, including the diary she kept on that transatlantic journey - with her own words brought to life in sound and film. 

 

But this is not just history. Visitors will be able to search for the names of their relatives in the petition through terminals in the exhibition space, thanks to a mass transcription process by the Library. They will be able to reflect, share their own message of peace, and become part of the peace story that continues to this day. 

Rhodri Llwyd Morgan, Chief Executive of the National Library of Wales said: 

“Since the Welsh Women’s Peace Petition returned to Wales in April 2023, the National Library has worked diligently to share its story. 

The work to catalogue, digitize, transcribe and create a website since then has meant that people from all over the world have access to this incredible resource, so that they can look for their great grandmother, auntie or someone who lived on their street. 

The Petition’s story, and that of the women behind it, remained hidden for too long – but not any more. Now, this dedicated exhibition space means that their story is told, and that the resilience of these women will be remembered for generations to come.” 

Prof Mererid Hopwood, Secretary of Wales’s National Peace Institute said: 

“In days that are full of stories about war and violence, the decision by our National Library to dedicate a space to this important exhibition is a statement of faith and hope. It gives us an opportunity to be inspired by the past so that we imagine - and create - a future where the people of the world can coexist peacefully with one another. 

It has been a privilege to collaborate with the National Library of Wales through Academi Heddwch Cymru (Wales’s National Peace Institute) to ensure that the story of the Welsh Women’s Peace Petition 1923-24 comes to light. This exhibition will aid the work of realizing the vision of that petition, namely to "hand down to the generations which come after us, the proud heritage of a warless world".” 

Culture Minister, Jack Sargeant MS said: 

"It is a privilege to open this new permanent exhibition dedicated to the Welsh Women's Peace Petition. This remarkable campaign, which united nearly 400,000 Welsh women in 1923-24, demonstrates our enduring values as a nation of peace. I'm proud that the Welsh Government was able to support bringing this incredible piece of Welsh history home where it belongs. 

"The petition's message - calling for 'law not war' and a world without conflict - remains as relevant today as it was a century ago and this dedicated space at the National Library will ensure the courage and vision of these women will continue to inspire future generations.” 

Wales’s commitment to peace didn’t begin or end with the Welsh Women’s Peace Petition and the wider story of peace campaigning in Wales will also be told in this exhibition. From international messages of friendship to powerful acts of protest, Welsh people have continued to raise their voices for peace in many ways. The exhibition highlights a few of those stories, including displaying items relating to the significant actions of the women of Greenham Common. 

About the Petition 

Signed by nearly 400,000 Welsh women, the Peace Petition of 1923–24 was a powerful act of solidarity and hope. Addressed to the women of America, it called for unity in the pursuit of a world without war, and its message still resonates more than a century later. 

The Petition was launched in Aberystwyth in May 1923 and peace campaigners worked tirelessly to collect signatures in the following months. From small villages to industrial towns, women signed in their thousands. Behind every signature is a woman with her own story – a teacher, mother, factory worker, poet or campaigner who believed in peace and chose to act. 

The final total of 390,296 signatures - one in three women in Wales - was proof of the widespread support for peace and the strength of Welsh women’s networks.

In February 1924, a delegation of Welsh women led by Annie Jane Hughes Griffiths travelled to the United States to present the Petition to the women of America. They were warmly welcomed and toured major cities, speaking at public meetings, women’s clubs, and churches to share their message of peace. 

To mark the centenary, the Smithsonian Institution made the honourable decision to gift the Petition to the people of Wales, giving it a new home at the National Library of Wales. The Petition’s papers and oak chest have been exhibited at various locations across Wales, and hundreds of volunteers took part in the task of transcribing every signature, to ensure that the vision of world peace lives on. 

Search the petition here: peacepetition.library.wales