Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Datgelodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ei strategaeth newydd feiddgar ar gyfer 2025–2030 neithiwr (20 Mai) — mewn digwyddiad lansio a oedd hefyd yn cynnig cipolwg ar 'Gornel Clip' newydd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
Mae strategaeth newydd y Llyfrgell yn sail i Flaenoriaethau Diwylliant Llywodraeth Cymru, sydd newydd eu cyhoeddi — sy'n anelu at wneud etifeddiaeth ddiwylliannol gyfoethog Cymru yn fwy hygyrch i genedlaethau'r dyfodol.
Bydd y gofod newydd – a gaiff ei alw’n 'Gornel Clip' – yn agor yn swyddogol ym mis Mehefin, gan roi mynediad rhad ac am ddim i ffilm, fideo a sain wedi'u digido o Archif Ddarlledu Cymru ac Archif Sgrin a Sain y Llyfrgell.
Gyda chefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru, ac mewn partneriaeth â darlledwyr mawr ledled Cymru — mae'r archif yn cynnwys mwy na chanrif o ddarllediadau teledu a radio gan BBC Cymru, ITV Cymru, ac S4C.
Mae lleoliad y Cornel Clip yng nghanol Bae Caerdydd yn symbol o gynlluniau'r Llyfrgell i wneud ei chasgliadau a'i hadnoddau’n fwy hygyrch — gyda Chorneli Clip eraill eisoes ar agor yn Llanrwst, Caerdydd, Abertawe, Conwy, Caerfyrddin a Chaernarfon; a llawer mwy yn mynd i agor ledled Cymru yn ddiweddarach eleni.
Hefyd, mae'n adlewyrchu ymrwymiad y Llyfrgell i arloesi archifol — gyda chynlluniau ar y gorwel i ehangu ei chasgliadau digidol, ymgysylltu â chynulleidfaoedd amrywiol, a chefnogi mentrau addysg, ymchwil a diwylliannol sy'n dathlu treftadaeth a hunaniaethau Cymru ymhellach.
I gefnogi hyn, roedd digwyddiad lansio neithiwr yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn cynnwys trafodaeth banel ddeinamig gyda ffigurau dylanwadol — gan gynnwys y darlledwr Dot Davies, y newyddiadurwr Will Hayward, yr arweinydd treftadaeth a'r ymgyrchydd cydraddoldeb Dr Gaynor Legall CBE, ac Eluned Haf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru. Trafododd y panel bwysigrwydd diwylliant a threftadaeth wrth lunio hunaniaeth Cymru mewn byd sy'n esblygu'n gyflym.
Yn ogystal, roedd y digwyddiad yn llwyfan i'r Llyfrgell ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys gwleidyddion, cynrychiolwyr y cyfryngau, ac arweinwyr treftadaeth, i drafod y weledigaeth strategol ar gyfer dyfodol diwylliannol Cymru a nodi cyfleoedd ar gyfer cydweithio.
Dywedodd Rhodri Llwyd Morgan, Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
"Mae lansio ein strategaeth newydd 2025-2030 yn foment dyngedfennol i dreftadaeth ddiwylliannol Cymru - gan sicrhau ei bod yn cael ei chadw, ei rhannu a'i gwneud yn hygyrch i bawb. Gan gyd-fynd â Blaenoriaethau Diwylliant Llywodraeth Cymru, bydd y strategaeth hon yn llywio ein gwaith dros y pum mlynedd nesaf, gan ysgogi cynhwysiant, cydweithredu ac arloesedd digidol. Mae'r Cornel Clip yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn enghraifft wych o'r weledigaeth hon ar waith, gan gynnig mynediad cyhoeddus i'n hanes clyweledol a pharatoi'r ffordd ar gyfer Cymru fwy cysylltiedig, blaengar."
-DIWEDD-
** This press release is also available in English **
Ymholiadau'r cyfryngau:
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â thîm Equinox ar NLW@equinox.wales neu 02920 764100.
Nodiadau i olygyddion:
Gellir cael mynediad at strategaeth newydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yma.
Gellir gweld Blaenoriaethau Diwylliant Llywodraeth Cymru yma.
Ynglŷn â Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn llyfrgell i Gymru a'r byd. Wedi'i lleoli yn Aberystwyth, dyma gartref stori Cymru. Agorwyd y Llyfrgell yn 1907 ac mae’n ganolfan ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth Cymru a'r gwledydd Celtaidd.
Pwrpas y Llyfrgell yw gwneud diwylliant a threftadaeth Cymru yn hygyrch i bawb ddysgu, ymchwilio a mwynhau. Mae'r Llyfrgell yn llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu bod ganddi hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon, ond mae ei chasgliadau hefyd yn cynnwys y canlynol:
Gallwch chwilio'r casgliadau ar-lein. Fe welwch ragor o wybodaeth ynghyd â rhestr o adnoddau ar wefan y Llyfrgell.
Mae'r archif ddarlledu yn cynnwys dros 400,000 o ddarllediadau, sy'n cynnwys rhaglenni o ddyddiau cynnar darlledu'r BBC yng Nghymru yn ystod y 1920au; y darllediad masnachol cyntaf gan TWW; sefydlu Harlech Television; oes HTV Wales ac ITV Cymru Wales; a lansiad S4C — y sianel deledu Gymraeg gyntaf.