Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Ar Ddydd Sadwrn 13 Medi 2025 agorodd arddangosfa newydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sy’n cofnodi chwe deg mlynedd ers boddi Cwm Tryweryn i greu cronfa ddŵr i Lerpwl.
Yn arddangosfa TRYWERYN 60 mae casgliad o ddelweddau pwerus ac ymatebion artistig i’r foment drychinebus hon yn hanes y genedl.
Mae'r arddangosfa'n cynnwys ffotograffau trawiadol y ffotograffydd a’r newyddiadurwr Geoff Charles (1909-2002), a ddogfennodd y protestiadau yn erbyn y boddi, dyddiau olaf y gymuned ac effaith y golled.
Ochr yn ochr â'r rhain mae gweithiau celf cyfoes wedi'u hysbrydoli gan y bennod dywyll a dyrys hon yn ein hanes, gan edrych ar gof, hunaniaeth a chyfiawnder.
Ymysg uchafbwyntiau’r arddangosfa mae:
Meddai Rhodri Llwyd Morgan, Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Heb os mae hon yn arddangosfa amserol a grymus i’n hatgoffa am bennod dywyll yn ein hanes. Mae’r Tîm Arddangosfeydd wedi cyflwyno deunydd archifol a delweddol ochr yn ochr ag ymatebion creadigol sy’n dod â’r hanes yn fyw ac sy’n parhau i brocio a chythruddo hyd heddiw. Dylai’r arddangosfa apelio at bawb sydd am werthfawrogi a chofio gwaddol Tryweryn."
Meddai Mari Elin Jones, Swyddog Dehongli Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Mae gweithio ar yr arddangosfa hon wedi ei gwneud hi'n amlwg fel mae colled un gymuned yn adleisio ar draws y cenedlaethau, a gobeithio y bydd ymwelwyr yn oedi i ystyried beth mae hanes Tryweryn yn meddwl i Gymru heddiw."
Trwy ddelwedd a dychymyg, mae TRYWERYN 60 yn gwahodd ymwelwyr i feddwl am beth mae'n ei olygu i golli lle arbennig, a pham mae colledion fel hyn yn parhau i fod yn bwysig i bobl hyd heddiw.
Mae arddangosfa TRYWERYN 60 i’w gweld yn yr Uwch Gyntedd yn y Llyfrgell tan 14 Mawrth 2026.
-DIWEDD-
** This press release is also available in English **
Ymholiadau'r cyfryngau:
Nia Dafydd, Rheolwr Marchnata a Hyrwyddo
nia.dafydd@llyfrgell.cymru / 01970 632871
Nodiadau i olygyddion
Ynglŷn â Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn llyfrgell i Gymru a'r byd. Wedi'i lleoli yn Aberystwyth, dyma gartref stori Cymru. Agorwyd y Llyfrgell yn 1907 ac mae’n ganolfan ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth Cymru a'r gwledydd Celtaidd.
Pwrpas y Llyfrgell yw gwneud diwylliant a threftadaeth Cymru yn hygyrch i bawb ddysgu, ymchwilio a mwynhau. Mae'r Llyfrgell yn llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu bod ganddi hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon, ond mae ei chasgliadau hefyd yn cynnwys y canlynol:
Gallwch chwilio'r casgliadau ar-lein. Fe welwch ragor o wybodaeth ynghyd â rhestr o adnoddau ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.