Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Ar 4 Ebrill bydd arddangosfa ffotograffiaeth Byd Bach Aber, sy'n dathlu cymeriadau a chymuned Aberystwyth yn agor yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ac Amgueddfa Ceredigion.
Bydd yr arddangosfa hon yn cynnwys 40 o ffotograffau portread gan y ffotograffydd Bruce Cardwell, i greu mosaic o ffotograffau ar draws y dref, sydd â’r nod o ddal a dathlu’r cymeriadau sy’n gwneud tref fach Aberystwyth yn unigryw.
Fel un sy’n cyfaddef ei fod yn hoff o wylio pobl, nod Bruce yw nid yn unig cofnodi pobl - ond hefyd dathlu unigolyddiaeth bywiog y rhai hynny sy'n creu cymuned y dref.
Bydd Aberystwyth yn fyw gyda gwahanol gasgliadau o luniau Byd Bach Aber fydd i’w gweld yn y tri lleoliad, ac hefyd Ysbyty Bronglais, a nifer o siopau a busnesau ar hyd a lled y dref dros yr haf.
Dywedodd y ffotograffydd Bruce Cardwell:
“Rwy’n falch iawn o gael y cyfle i ddathlu Aberystwyth yn yr arddangosfa hon. Mae’r dref wedi bod mor dda i mi. Mae cael y gydnabyddiaeth yma gan rai o brif sefydliadau’r dref wir yn anrhydedd.”
Dywedodd Rhodri Llwyd Morgan, Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Mae’n arddangosfa drawiadol iawn am Aberystwyth a’i phobl ac mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Bruce Cardwell a’r partneriaid o amgylch y dref. Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o arddangosfeydd a gweithgareddau sy’n bwrw golwg ar yr hyn sy’n gwneud Aber yn unigryw fel cymuned ac yn rhoi rheswm da i bobl leol ac ymwelwyr i daro i mewn i’r Llyfrgell Genedlaethol.”
Dywedodd Ffion Rhys, Rheolwraig y Celfyddydau Gweledol yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth:
“Mae’n bleser llwyr gennym ni i weithio gyda Bruce Cardwell eto, ar ei Arddangosfa Byd Bach Aber fydd yn cael ei arddangos ar draws Aberystwyth.
Mae gan Bruce ddawn arbennig o allu dal cymeriad person mewn ffotograff, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr i weld sut mae’r casgliad o luniau yn creu portread unigryw o’r dre fach hon.”
Dywedodd Carrie Canham, Curadur Amgueddfa Ceredigion:
“Byddwn yn ychwanegu delweddau Byd Bach Aber at ein harddangosfeydd parhaol, mae'n gyfle gwych i gysylltu'r gorffennol gyda'r presennol a helpu pobl leol i wneud cysylltiadau â'u treftadaeth.”
Bydd cyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn cael eu trefnu i ddod â’r arddangosfa yn fyw i’r gymuned.
--DIWEDD--
**This press release is also available in English**
Mae delweddau cysylltiedig ar gael i'w lawrlwytho fan hyn
Am fwy o wybodaeth a lluniau, cysylltwch â:
Rhodri ap Dyfrig, Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
rhodri.apdyfrig@llyfrgell.cymru / 07855 362206
NODIADAU I OLYGYDDION
Am Lyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn un o lyfrgelloedd mawr y byd. Wedi ei lleoli yn Aberystwyth, mae’n gartref i stori Cymru.
Wedi ei hagor yn 1907, mae’r Llyfrgell yn ganolbwynt ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth Cymru a’r gwledydd Celtaidd.
Pwrpas y Llyfrgell yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth yn hygyrch i bawb allu dysgu, ymchwilio a mwynhau.
Rydym yn llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu fod gennym hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon, ond mae ein casgliadau hefyd yn cynnwys y canlynol:
Gallwch chwilio'r casgliadau ar-lein a chewch wybodaeth bellach ynghyd â rhestr o adnoddau ar wefan y Llyfrgell.
Am y ffotograffydd:
Mae Bruce Cardwell yn ffotograffydd a cherddor gwerin o Ogledd Iwerddon sydd bellach yn byw yng Ngorllewin Cymru.
Mae wedi cyhoeddi sawl llyfr, sy’n cynnwys Hoofpicks: Photographs of the Horse in Wales (2009), Noteworthy: Images of Welsh Music (2011), The Harp in Wales (2013) ac A Hardy Breed: Sheep Farming in Wales (2023).
Fel un sy'n cyfaddef ei fod yn hoff o wylio pobl, mae Bruce yn ceisio cofnodi cymunedau a bywyd gwaith yng Nghymru ac mae ei ffotograffau yn rhan o Gasgliadau Cenedlaethol Llyfrgell Genedlaethol Cymru.