Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mewn cyfres o ddigwyddiadau cyffrous bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn mynd dan wyneb arddangosfa Dim Celf Gymreig, sy’n herio’r myth nad oes gan Gymru diwylliant gweledol ei hun.
Wedi’i churadu gan yr artist a hanesydd celf Peter Lord, mae’r arddangosfa yn datgelu’r stori am gyfoeth diwylliant gweledol Cymru, yn ogystal â hanes cymdeithasol a gwleidyddol Cymru. Mae’n gwneud hynny trwy gyfuno casgliad helaeth Peter Lord ag eitemau o’r Casgliad Celf Genedlaethol.
Yn gyfle prin i fwynhau dros 250 o weithiau celf o arwyddocâd cenedlaethol, mae’r arddangosfa yn cyflwyno byd gweledol y bonedd, y dosbarth canol a phobl gyffredin Cymru, cyn symud ymlaen at bortreadau gwahanol o hunaniaethau Cymreig.
I ddathlu ac i nodi’r arddangosfa arbennig hon, bydd sawl digwyddiad ‘Dan Sylw’ yn cymryd lle rhwng nawr a mis Medi, fydd yn edrych ar bynciau fel Merched mewn Celf Gymreig; Noddwyr Celf; Cyfrinachau Celf; Celf a Barddoniaeth, gan edrych ar gerddi’r gyfrol Afterlives, gyda John Barnie; Celf, Gwleidyddiaeth a Phrotest; a Chelf a Hunaniaeth. Bydd sawl siaradwr nodedig yn ymuno â ni i gyflwyno’r digwyddiadau hyn gan gynnwys Ceridwen Lloyd Morgan, Jill Piercy, Oliver Fairclough, John Barnie, Iwan Bala, Sara Rhoslyn, Mfikela Jean Samuel a Christine Mills, ynghyd â Peter Lord, yr artist, hanesydd celf a churadur yr arddangosfa.
Yn ogystal â hyn, bydd cyfres o ddigwyddiadau Celf gyda’r Nos, fydd yn cynnwys sesiwn i ddathlu mis Pride a sesiwn paentio arwydd dafarn.
I’r rhai sydd am ddysgu mwy am yr arddangosfa ei hun a’r gweithiau arbennig sydd i’w gweld, bydd taith tywys fisol yn cael ei gynnal ar Ddydd Mercher cyntaf y mis yng nghwmni Peter Lord. Bydd rhai o’r rhain yn cynnwys dehongliad BSL. Bydd y Llyfrgell hefyd yn cynnal teithiau arbennig i ymwelwyr dall neu gyda man ar eu golwg, sy’n golygu mai hwn fydd ein harddangosfa fwyaf hygyrch hyd yma.
Yn ystod tymor yr ysgol bydd gweithdai addysg ar gyfer disgyblion cynradd ac uwchradd yn cael eu cynnal i gefnogi'r arddangosfa, a bydd y sesiynau yma yn ffocysu ar hunaniaeth. Yn ystod yr ymweliadau bydd y disgyblion yn ymweld ag Oriel Gregynog i ymchwilio'r gweithiau celf, yn ogystal â chael cyfle i lunio hunan bortread - mewn darlun neu mewn gair. Bydd sawl prosiect cymunedol yn cael ei gynllunio hefyd gan dîm ymgysylltu’r Llyfrgell.
I’r rhai sydd am ymweld â phlant, mae llyfryn gweithgareddau hwyl ar gael i’w difyrru. Bydd hefyd rhaglen o weithgareddau i blant a theuluoedd ar gyfer y gwyliau, gyda manylion yn cael eu cyhoeddi yn nes at yr amser.
Mae manylion llawn y digwyddiadau i’w gweld ar ein gwefan ac mae modd archebu tocynnau ar ein tudalen Digwyddiadau.
--DIWEDD--
**This press release is also available in English**
Am fwy o wybodaeth a lluniau, cysylltwch â:
Rhodri ap Dyfrig, Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
rhodri.apdyfrig@llyfrgell.cymru / 07855 362206
NODIADAU I OLYGYDDION
Am Lyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn un o lyfrgelloedd mawr y byd. Wedi ei lleoli yn Aberystwyth, mae’n gartref i stori Cymru.
Wedi ei hagor yn 1907, mae’r Llyfrgell yn ganolbwynt ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth Cymru a’r gwledydd Celtaidd.
Pwrpas y Llyfrgell yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth yn hygyrch i bawb allu dysgu, ymchwilio a mwynhau.
Rydym yn llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu fod gennym hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon, ond mae ein casgliadau hefyd yn cynnwys y canlynol:
Gallwch chwilio'r casgliadau ar-lein a chewch wybodaeth bellach ynghyd â rhestr o adnoddau ar wefan y Llyfrgell.
Am y curadur Peter Lord
Cymerodd Peter Lord radd mewn Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Reading ym 1970, gan arbenigo mewn cerflunwaith. Gweithiai fel cerflunydd am bymtheg mlynedd, gan gynhyrchu gwaith stiwdio ar raddfa fach a cherfluniau cyhoeddus, megis Cofeb Hywel Dda yn yr Hendy-gwyn ar Daf. Ym 1986 trodd ei sylw at ysgrifennu am hanes celf yng Nghymru. Mae wedi cyhoeddi’n eang yn Gymraeg a Saesneg, wedi darlledu ar radio a theledu, ac wedi curadu arddangosfeydd niferus.
Ymhlith ei gyhoeddiadau mae Diwylliant Gweledol Cymru, sydd yn dehongli’r maes mewn tair cyfrol, a The Tradition, sydd yn crynhoi'r pwnc mewn un gyfrol. Yn ddiweddar, gyda’i gyd-awdur Dr Rhian Davies, cyhoeddwyd The Art of Music, sydd yn archwilio’r berthynas rhwng celfyddyd weledol a cherddoriaeth yng Nghymru. Mae ganddo gasgliad sylweddol o gelfyddyd Gymreig, sydd yn ffurfio sylfaen yr arddangosfa bresennol.