Symud i'r prif gynnwys

20.10.2025

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn falch i gyhoeddi penodiad Judith Musker Turner fel Arweinydd Rhaglen Argyfwng Hinsawdd i’r Sector Diwylliant. Mae hon yn rôl ganolog a fydd yn gyrru ymateb y sector i'r argyfyngau hinsawdd a natur.

Gyda chefndir cryf mewn gweithredu ar yr hinsawdd ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, mae Judith yn dod â chyfoeth o arbenigedd, angerdd a gwybodaeth strategol i'r swydd newydd hon, sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru er mwyn cyfrannu at gyflawni uchelgais 16 o'r Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant.

Mae'r penodiad hwn yn nodi cam sylweddol ymlaen o ran cefnogi sefydliadau diwylliannol wrth iddyn nhw ystyried datblygiad cynaliadwy. Bydd Judith yn gweithio ar y cyd ar draws y sector diwylliant i gyflawni camau gweithredu a chynnydd ar gyfer y sector cyfan mewn ymateb i newid hinsawdd.

Bydd Judith wedi'i lleoli yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ond mae ganddi gylch gwaith i gyflawni ar ran y sector diwylliant Cymru gyfan.

Yn siarad am y penodiad, meddai Rhodri Llwyd Morgan, Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Rydym wrth ein bodd yn croesawu Judith i’r rôl hanfodol hon. Mae’r Llyfrgell wedi gwneud cynnydd sylweddol ar ddatgarboneiddio’r ystâd, ond mae gennym lawer o waith i’w wneud o hyd i sicrhau bod gweithredu ar yr hinsawdd yn cael ei ystyried ym mhob agwedd o’n gwaith. Mae gan y sector diwylliant grym unigryw i ysbrydoli newid, ac o dan arweiniad Judith, rydym yn edrych ymlaen at weld gweithredu beiddgar, creadigol ac effeithiol ar yr hinsawdd yn y Llyfrgell ac ar draws y sector.”

Meddai Jack Sargeant AS, Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol:
“Rydw i’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi’r penodiad hwn fel rhan o gyflawni’r Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant. Yn yr ymgynghoriad, clywsom gan rhanddeiliaid yn y sector fod eu gallu i ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur yn gyfyngedig, gydag arweinyddiaeth a mynediad at wybodaeth arbenigol yn destun pryder. Bydd profiad sylweddol a Rhwydweithiau Judith yn y sector celfyddydau yn arbennig o werthfawr, ac rwy’n hyderus y bydd y sector diwylliant cyfan yn elwa o arbenigedd Judith. Edrychaf ymlaen at glywed am yr effeithiau y bydd y rôl hon yn eu cyflawni.”

-DIWEDD-

** This press release is also available in English **

Ymholiadau'r cyfryngau:
Nia Dafydd, Rheolwr Marchnata a Hyrwyddo
nia.dafydd@llyfrgell.cymru / 01970 632871

Nodiadau i olygyddion

Am Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn llyfrgell i Gymru a'r byd. Wedi'i lleoli yn Aberystwyth, dyma gartref stori Cymru. Agorwyd y Llyfrgell yn 1907 ac mae’n ganolfan ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth Cymru a'r gwledydd Celtaidd.

Pwrpas y Llyfrgell yw gwneud diwylliant a threftadaeth Cymru yn hygyrch i bawb ddysgu, ymchwilio a mwynhau. Mae'r Llyfrgell yn llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu bod ganddi hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon, ond mae ei chasgliadau hefyd yn cynnwys y canlynol:

  • 7,000,000 troedfedd o ffilm
  • 250,000 awr o fideo
  • 6,000,000 o lyfrau a phapurau newydd
  • 40,000 o lawysgrifau
  • 1,500,000 o fapiau
  • 150,000 awr o sain
  • 950,000 o ffotograffau
  • 60,000 o weithiau celf
  • 1,900 metr ciwbig o archifau

Gallwch chwilio'r casgliadau ar-lein. Fe welwch ragor o wybodaeth ynghyd â rhestr o adnoddau ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.