Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae’r Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn falch i gyhoeddi lansiad menter newydd, Sgiliau Ffilm i’r Dyfodol, prosiect sydd wedi'i gynllunio i gryfhau arbenigedd technegol Tîm Archif Sgrin a Sain a datblygu'r gwaith o warchod treftadaeth glyweledol Cymru ymhellach.
Diolch i gefnogaeth hanfodol gan y Loteri Genedlaethol BFI: Cronfa Sgiliau Sefydliadol Treftadaeth Sgrin, bydd y prosiect hwn yn darparu hyfforddiant penodol mewn trin, gwirio, digido ac ôl-gynhyrchu ffilmiau. Y nod yw meithrin gweithlu ystwyth, medrus sydd â’r gallu i addasu a chwrdd â heriau cynyddol cadwraeth clyweledol.
Yn cael ei gyflwyno trwy weithdai mewnol strwythuredig a mentora ymarferol, bydd Sgiliau Ffilm i’r Dyfodol yn hyrwyddo trosglwyddo gwybodaeth effeithiol a datblygu sgiliau ymarferol. Bydd hyn yn sicrhau bod tîm technegol yr Archif Sgrin a Sain â’r gallu i ddarparu ystod o wasanaethau ansawdd uchel i ddiogelu treftadaeth glyweledol Cymru.
Un o brif allbynnau’r prosiect fydd creu dogfennau ar gyfer y cyhoedd sy'n cynghori ar arfer gorau ar gyfer digido casgliadau ffilm hanesyddol. Bydd yr adnodd hwn yn cael ei rannu'n eang, gan gefnogi sefydliadau treftadaeth ac archifol eraill i fabwysiadu strategaethau cadwraeth effeithiol.
Meddai Scott Waby, Pennaeth Gofal Casgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Rydym yn falch iawn o dderbyn y gefnogaeth yma gan y BFI a'r Lottery Cenedlaethol i ymgymryd â'r fenter newydd a chyffrous hon. Bydd y gwaith yma yn ein galluogi i ddiogelu a datblygu sgiliau arbenigol hanfodol yn y Llyfrgell, ond hefyd yn caniatáu inni rannu sgiliau a gwybodaeth gyda sefydliadau eraill a'r cyhoedd, er mwyn sicrhau bod treftadaeth glyweledol Cymru yn cael ei chadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”
Er mwyn cael effaith mor eang â phosib, bydd y prosiect hefyd yn cynnal tri seminar ar gyfer staff o sefydliadau treftadaeth Cymru, aelodau o'r cyhoedd sydd â diddordeb mewn cadwraeth ffilmiau a myfyrwyr sy'n arbenigo mewn archifau, llyfrgelloedd a disgyblaethau cysylltiedig.
Bydd y gweithgareddau estyn allan hyn yn galluogi rhannu gwybodaeth, yn gwella arbenigedd ar draws y sector, ac yn hyrwyddo ymgysylltiad ehangach â threftadaeth glyweledol gan y cyhoedd.
Bydd y digwyddiad cyntaf yn cael ei gynnal ar 2 Rhagfyr, gyda diwrnod llawn o weithgareddau sy'n cynnwys cyflwyno trysorau o’r casgliad ffilmiau, dangos sut mae gofalu am a digido ffilmiau archif, a chyfle i weld yr offer a'r technegau sy’n cael eu defnyddio i warchod treftadaeth delweddau symudol Cymru.
Mae'r fenter bwysig hon yn bosibl diolch i gefnogaeth y BFI a'r Loteri Genedlaethol ac mae eu buddsoddiad yn sicrhau datblygiad cynaliadwy sgiliau cadwraeth ffilm yng Nghymru a thu hwnt.
--DIWEDD--
** This press release is also available in English **
Ymholiadau'r cyfryngau
Nia Dafydd, Rheolwr Marchnata a Hyrwyddo
nia.dafydd@llyfrgell.cymru / 01970 632871
NODIADAU I OLYGYDDION
Am Lyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Llyfrgell i Gymru a’r byd. Wedi ei lleoli yn Aberystwyth, mae’n gartref i stori Cymru.
Wedi ei hagor yn 1907, mae’r Llyfrgell yn ganolbwynt ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth Cymru a’r gwledydd Celtaidd.
Pwrpas y Llyfrgell yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth yn hygyrch i bawb allu dysgu, ymchwilio a mwynhau.
Rydym yn llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu fod gennym hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon, ond mae ein casgliadau hefyd yn cynnwys y canlynol:
Cewch wybodaeth bellach ynghyd â rhestr o adnoddau ar wefan y Llyfrgell