Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Ar 1 Tachwedd 2025, bydd arddangosfa newydd sy’n archwilio pŵer y portread yn agor yn Oriel Gregynog yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.
Gan ddefnyddio celfyddyd hanesyddol a chyfoes Cymru, mae'r arddangosfa Portread a Phŵer yn ystyried sut mae hunaniaeth, syllu a phŵer yn llifo trwy bortreadu. Bydd hefyd yn gwahodd yr ymwelydd i edrych yn ofalus ar y gweithiau sydd ar ddangos ac i ailfeddwl am bwrpas ac effaith portread.
Wrth fwynhau doniau artistig y gweithiau celf, bydd y gynulleidfa hefyd yn cael ei hannog i gwestiynu rolau traddodiadol a herio confensiynau gweledol. Yn y pen draw, mae'r sioe yn gofyn y cwestiwn: sut gall portreadau adlewyrchu neu ailysgrifennu'r straeon y dywedwn am hunaniaeth, rhywedd, hil, dosbarth a pherthyn?
"The gaze is not just a matter of looking, but also of power and control."
John Berger, ‘Ways of Seeing’, 1972
Mae artistiaid cyfoes fel Anya Paintsil, Natalie Chapman, Sue Williams a Shani Rhys James yn defnyddio'r portread i ddod wyneb yn wyneb â gwleidyddiaeth edrych. Gan droi'r syllu yn ôl ar y gwyliwr, adennill y corff, a gwneud lle i straeon gofal, heneiddio, mamolaeth, a hunaniaeth na welir yn aml yn mynd i gasgliadau cyhoeddus. Mae'r gweithiau newydd hyn, sydd un ai wedi eu comisiynu neu eu prynu, wrth wraidd yr arddangosfa hon gan ehangu pwy sy'n cael ei weld ac ar ba delerau.
Gyda dathliad 150 mlynedd ers ei geni yn agosáu, bydd yr arddangosfa hefyd yn cynnwys astudiaeth achos yn ymwneud â Gwen John, un o beintwyr enwocaf Cymru. Yn berson fu yn hanesyddol yng nghysgod ei brawd Augustus John, bydd yr adran hon yn cynnwys portreadau ganddi hi, ei brawd a'i ffrind agos Mary Constance Lloyd, gan ddangos sut y gall gwahanol ffyrdd o syllu lunio'r un pwnc.
Dywedodd Rhodri Llwyd Morgan, Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Mae’r arddangosfa hon yn cynnig cyfle gwerthfawr i ni gynnal sgyrsiau ar sut rydym yn gweld ein hunain, a sut rydym yn cael ein gweld mewn celf. Mae’r olwg ffres hon ar bortreadau yn lens y gallwn edrych ar y ddeinameg pŵer sydd ynghlwm yn y weithred o gasglu ac arddangos. Edrychaf ymlaen at y digwyddiadau a’r cyfleoedd ymgysylltu a fydd yn rhedeg ochr yn ochr â’r arddangosfa, a fydd yn creu cysylltiadau â chynulleidfaoedd newydd.”
Dywedodd Mari Elin Jones, Swyddog Dehongli yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Mae Portread a Phŵer yn dathlu faint mae ein casgliad wedi tyfu a newid yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae casglu diweddar wedi dod â gwaith rhyfeddol gan artistiaid sydd wedi’u tangynrychioli’n hanesyddol i ofal y Llyfrgell, ac rwy’n hynod falch o fod wedi curadu arddangosfa sy’n rhoi’r lle a’r sylw y mae’r gweithiau hyn yn eu haeddu.”
Bwriad yr arddangosfa yw ysbrydoli yn ogystal â herio a bydd cyfle i ymwelwyr greu eu gweithiau eu hunain mewn gofod stiwdio pwrpasol yn yr oriel.
“In a world ordered by sexual imbalance, pleasure in looking has been split between active/male and passive/female.”
Laura Mulvey, ‘Visual and Other Pleasures’, 1989
Bydd cynhwysiant yr arddangosfa hefyd yn cael ei adlewyrchu mewn rhaglen o ddigwyddiadau, gweithgareddau ymgysylltu a gwaith gydag ysgolion. Bydd y digwyddiadau'n cynnwys teithiau gyda disgrifiadau sain, sgyrsiau oriel dan arweiniad curaduron, trafodaethau panel a gweithdai ymgysylltu cymunedol. Bydd manylion llawn yr holl weithgareddau yn cael eu rhannu ar wefan y Llyfrgell dros yr wythnosau nesaf.
--DIWEDD--
** This press release is also available in English **
Ymholiadau'r cyfryngau
Nia Dafydd, Rheolwr Marchnata a Hyrwyddo
nia.dafydd@llyfrgell.cymru / 01970 632871
NODIADAU I OLYGYDDION
Am Lyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Llyfrgell i Gymru a’r byd. Wedi ei lleoli yn Aberystwyth, mae’n gartref i stori Cymru.
Wedi ei hagor yn 1907, mae’r Llyfrgell yn ganolbwynt ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth Cymru a’r gwledydd Celtaidd.
Pwrpas y Llyfrgell yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth yn hygyrch i bawb allu dysgu, ymchwilio a mwynhau.
Rydym yn llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu fod gennym hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon, ond mae ein casgliadau hefyd yn cynnwys y canlynol:
Cewch wybodaeth bellach ynghyd â rhestr o adnoddau ar wefan y Llyfrgell