Symud i'r prif gynnwys

25.11.2025

Cafodd ymwelwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru brofiad gwahanol iawn i’r disgwyl ar Ddydd Gwener 21 Tachwedd. Yn lle cael eu cyfarch gan y staff arferol, cawson nhw eu croesawu gan wynebau disgyblion ifanc Ysgol Dyffryn Trannon, Trefeglwys ger Caersws, wrth iddyn nhw ymuno â’r Llyfrgell ar gyfer Diwrnod Meddiannu

Mewn diwrnod llawn bwrlwm gyda lleisiau ifanc i’w clywed ar hyd y lle, cafodd y disgyblion gyfle unigryw i weithio mewn ardaloedd cyhoeddus a thu ôl i’r llen. 

Cafodd tasgau amrywiol eu trefnu i roi blas o waith y Llyfrgell. Roedd hyn yn cynnwys cymryd yr awenau ar ddesg yr Ystafell Ddarllen, nôl llyfrau ar gyfer ymchwilwyr, cynhyrchu fideos cyfryngau cymdeithasol y Llyfrgell, a churadu gyda’r tîm arddangosfeydd.

Roedd y plant hefyd yn derbyn eitemau newydd i’r casgliad, yn cynorthwyo gyda gofalu am ddeunyddiau yn yr uned gadwraeth ataliol, yn digido eitemau o’r casgliadau ac yn cadw’r adeilad yn ddiogel gyda’r tîm diogelwch.

Meddai Dyfan Graves, Swyddog Addysg yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Roedd hi’n bleser mawr gennym groesawu disgyblion Blwyddyn 5 a 6 Ysgol Dyffryn Trannon i’n ‘meddiannu’ eleni. Cafodd y plant y cyfle i brofi amrywiaeth o swyddi ar draws y Llyfrgell – o wasanaethu cwsmeriaid a darllenwyr, i ofalu am rhai o drysorau pennaf y genedl. Mae Diwrnod Meddiannu yn gyfle arbennig i ni gynnig profiad bythgofiadwy i’r disgyblion, a rhoi cipolwg unigryw iddynt ar waith un o sefydliadau pwysicaf Cymru. Mawr obeithiwn y bydd y profiad yn aros yn hir yn eu cof ac yn eu hysbrydoli i fod yn ddysgwyr brwdfrydig.”

Ychwanegodd Mrs Caroline Harries, pennaeth Ysgol Dyffryn Trannon:
”Rydym yn gyffrous bod disgyblion Ysgol Dyffryn Trannon wedi cael y cyfle i archwilio’r gwaith anhygoel sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni yn y Llyfrgell Genedlaethol! Mae’n brofiad bywyd go iawn sy’n dod â dysgu’n fyw. Wrth i’r plant weld sut mae hanes, technoleg a diwylliant yn cydblethu mewn amgylchedd gwaith, mae yn eu helpu i ddeall pwrpas a phosibiliadau gyrfaoedd yn y dyfodol. Mae’n brofiad pwrpasol, ysbrydoledig a bythgofiadwy.”

Mae’r diwrnod yn cael ei drefnu gan Wasanaeth Addysg y Llyfrgell fel rhan o gynllun Diwrnod Meddiannu ehangach sy’n cael ei drefnu ar hyd a lled Prydain gan elusen Kids in Museums. Yn ystod y diwrnod arbennig yma, mae plant a phobl ifanc yn cael cyfle i feddiannu amgueddfeydd, orielau, cartrefi hanesyddol, archifau a safleoedd treftadaeth drwy gymryd cyfrifoldeb am y gwahanol ddyletswyddau y byddai oedolion fel arfer yn ymgymryd â nhw.

**This press release is also available in English**
--DIWEDD--

Gwybodaeth Bellach:
Nia Wyn Dafydd
nia.dafydd@llgc.org.uk

Nodiadau Ychwanegol i Olygyddion

Diwrnod Meddiannu
Dechreuodd Diwrnod Meddiannu yn 2010 ac ers hynny mae dros 40,000 o blant yn genedlaethol wedi cymryd rhan ac wedi cael cyfle unigryw i ddysgu y tu allan i’r dosbarth, datblygu sgiliau newydd a darganfod sut beth yw hi i weithio mewn amgueddfa. Am wybodaeth bellach ewch i’w gwefan.

Gwasanaeth Addysg, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Sefydlwyd Gwasanaeth Addysg LLGC yn 2002. Ei brif waith yw:

  • Cyflwyno rhaglen o weithgareddau a darpariaethau addysgol sy’n alinio gyda gofynion Cwricwlwm i Gymru.
  • Cynyddu ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc o hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru.
  • Hwyluso mynediad at wybodaeth i’r rhai mewn addysg ac addysgwyr, a’u cynorthwyo i gael y gorau o’r casgliadau drwy ddehongli gwybodaeth sydd yn y casgliad cenedlaethol.
  • Cynyddu presenoldeb y Llyfrgell, ac ymwybyddiaeth o’r sefydliad a’r gwaith mae’n gwneud, ar draws Cymru.
    Cynorthwyo LlGC i gyflawni’r blaenoriaethau strategol Cysylltu Cymru a'r Byd, Cynllun Strategol y Llyfrgell ar gyfer 2025-2030.
  • Cynhyrchu adnoddau dysgu digidol o safon uchel i’w cyhoeddi ar Hwb, platform dysgu cenedlaethol digidol Cymru.
  • Ers 2007 mae gwasanaeth Addysg LlGC wedi bod yn cyflwyno casgliadau’r Llyfrgell mewn ardaloedd ar draws Cymru fel rhan o’i rhaglen estyn allan. Caiff y prosiectau hyn eu cynllunio a’u cyflwyno mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, ysgolion a sefydliadau eraill, a’u teilwra i ateb anghenion y defnyddwyr, yn ogystal ag ateb gofynion Cwricwlwm i Gymru o ran profiadau a sgiliau.