Symud i'r prif gynnwys

18.11.2022

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi lansio cyfres o ddigwyddiadau i gefnogi Cymru yng Nghwpan y Byd yn Qatar. Wrth ymuno â Wal Goch y cefnogwyr, bwriad y Llyfrgell yw creu cyffro, digwyddiadau llawn hwyl a rhannu hanes ac archifau pêl-droed yng Nghymru yn Aberystwyth ac ar-lein.

Mae’r Llyfrgell wedi cynllunio nifer o weithgareddau ar gyfer yr wythnosau i ddod i nodi’r achlysur cyffrous hwn. Mae’r rhain yn cynnwys arddangosfa o eitemau o’r casgliadau yn ardal arddangos Peniarth a’r Ystafell Ddarllen.

O gelf i ffilm, bydd yr arddangosfeydd yn dathlu hanes pêl-droed Cymru. Dewch draw i’r Llyfrgell i wylio rhai o gemau’r gorffennol, i ddarllen am arwyr y gêm neu i weld copi o Yma o Hyd yn llawysgrifen Dafydd Iwan ei hun. Bydd ymwelwyr hefyd yn cael eu hannog i rannu eu hymatebion i’r eitemau, hoff atgofion pêl-droed a phethau cofiadwy ar ein wal goch ein hunain yn y gofod arddangos. A chyda’r nos, bydd syrpreis arbennig i’r rhai sy’n gallu gweld y Llyfrgell o’u cartrefi.

Mae cyfres o weithdai wedi’u cynllunio gan Wasanaeth Addysg y Llyfrgell, sy’n edrych ar hanes Timau Cymru (dynion a merched), o 1876 i Qatar, gan ddefnyddio casgliadau yn y Llyfrgell.  Yn y sesiwn gyntaf cafodd disgyblion Ysgol Gymraeg Aberystwyth gyfle i fwynhau sesiwn holi ac ateb gyda'r cyflwynydd a'r awdur Dylan Ebenezer:

“Mae gweld Cymru yng Nghwpan y Byd yn anhygoel ond mae gweld ymateb y plant hefyd yn wych.  Mae gweld y plant yn cael cyfle i fwynhau, heb o bosib sylwi arwyddocâd y peth, ma’ nhw’n cymryd e’n ganiataol bron, sydd yn ei hunan yn arbennig o ystyried faint ma rhai pobl wedi aros am y foment hon.”

Mae’r gwasanaeth hefyd wedi cyhoeddi adnodd digidol i ysgolion, sydd hefyd yn edrych ar hanes timau Pêl-droed Cenedlaethol Cymru, ac mae’r rhain ar gael yn rhad a ddim ar-lein.

Meddai Rhian Gibson Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Ymgysylltu a Phartneriaethau Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Mae’r Llyfrgell wrth ei bodd yn ymuno â phobl, plant a sefydliadau led led Cymru i ddangos ein cefnogaeth i gamp anhygoel Tîm Pêl-droed Cymru. Mae’r llyfrgell yn llawn lluniau, llyfrau, ffilmiau ac erthyglau am bêl-droed yng Nghymru ac mae’n wych cael rhannu'r rhain gyda phlant a phobl yn y Llyfrgell a thu hwnt. Ac wrth gwrs y gobaith yw y bydd y tîm yn creu rhagor o hanes i’w gadw yn archif y llyfrgell i’r dyfodol.”

Yn ystod y cyfnod yma hefyd bydd amrywiaeth o nwyddau sy’n gysylltiedig â phêl-droed ar gael i’w prynu yn Siop y Llyfrgell, p’un ai’ch bod chi am ddarllen am rai o’ch arwyr neu’n chwilio am fwg newydd i fwynhau eich te wrth wylio gêm, mae digonedd o ddewis.

Dewch i ymweld â ni i ymuno yn y dathliadau a dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i glywed mwy:
Facebook: @llgcymrunlwales | Twitter: @LLGCymru | Instagram: @librarywales

** This press release is also available in English**

--DIWEDD--

 

Gwybodaeth Bellach:

Nia Dafydd (nia.dafydd@llyfrgell.cymru/01970 632871)