Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd Llyfrgell, Oriel a Chanolfan Gwybodaeth Ymwelwyr Glan-yr-afon, Hwlffordd yn croesawu arddangosfa arbennig iawn y gwanwyn hwn, fel rhan o daith y ‘Masterpiece Tour’ gan The National Gallery, wedi’i noddi gan Christie’s.
Bydd Hélène Rouart in her Father’s Study gan Edgar Degas yn ganolbwynt i arddangosfa sydd wedi ei dwyn ynghyd o’r Casgliad Portreadau Cenedlaethol a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac a fydd yn cael ei chynnal yn Oriel Glan-yr-afon, Hwlffordd. Bydd yr arddangosfa yn gosod y paentiad yn ei gyd-destun trwy archwilio’r ffurf fenywaidd mewn gweithiau celf ac yn dadansoddi theori y ‘trem gwrywaidd’ mewn portreadau a hynny trwy lygad artistiaid benywaidd a gwrywaidd, megis Seren Morgan Jones a Syr Kyffin Williams.
Bydd yr arddangosfa yn ymestyn o 14 Mai hyd 3 Medi 2022 a bydd yn cyd-fynd â’r arddangosfa bresennol, Sir Benfro: Ddoe a Heddiw.
Meddai Mike Cavanagh, Pennaeth Gwasanaethau Diwyllianol, Hamdden, Twristiaeth a Chofrestru Cyngor Sir Benfro:
“Rydym wrth ein bodd ein bod yn cael cyfle, o’r diwedd, i fod yn rhan o’r ‘Masterpiece Tour’ wedi i’r pandemig ein gorfodi i ohirio’n cynlluniau. Bydd dyfodiad y Degas yn creu argraff fawr ar y gymuned a’r ymwelwyr niferus sy’n dod i’r sir gan ysbrydoli, addysgu a sbarduno uchelgais o fewn y sir.”
Ychwanegodd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Mae’n hyfryd medru cydweithio â Chyngor Sir Penfro a’r National Gallery i ddod â’r ‘Masterpiece Tour’ i’r rhanbarth hwn o Gymru sy’n rhoi cyfle i drigolion Penfro a’r rhai sy’n ymweld â’r ardal i weld y campwaith Hélène Rouart in her Father’s Study gan Edgar Degas.”
Mae cyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau cyffrous yn cael eu cynllunio i gyd-fynd gyda’r arddangosfa, megis sgwrs arbennig am Hélène Rouart in her Father’s Study gan un o guraduron y National Gallery. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Glan-yr-afon, eu tudalen Facebook neu cysylltwch â Llyfrgell Glan-yr-afon ar 01437 775244.
Mae Glan-yr-afon yn ganolfan ddiwylliannol flaenllaw yng nghalon Hwlffordd, sir Benfro. Fe’i hagorwyd ym mis Rhagfyr 2018, ac mae’n cynnwys llyfrgell fodern, canolfan i ymwelwyr, siop goffi a gofod ar gyfer oriel sy’n arddangos casgliadau o Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r cyfleuster gwych hwn yn anarferol ac yn arloesol, ac eisoes wedi bod yn rhan allweddol o’r gwaith o adfywio’r dref a’r ardal ehangach yn sir Benfro.
**This press release is also available in English**
--DIWEDD--
Gwybodaeth Bellach:
Nia Wyn Dafydd
nia.dafydd@llgc.org.uk
Nodiadau Ychwanegol i Olygyddion
Partneriaid Allweddol:
Ynglŷn a’r Llyfrgell Genedlaethol
Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw’r llyfrgell fwyaf yng Nghymru ac mae’n gweinyddu fel cof y genedl. Fel llyfrgell adnau cyfreithiol mae ganddi’r hawl i dderbyn copi yn rhad ac am ddim o bopeth sy’n cael ei gyhoeddi ym Mhrydain ag Iwerddon. Caiff oddeutu 4,000 o gyhoeddiadau eu casglu bob wythnos sy’n ychwanegu at gasgliad y Llyfrgell Genedlaethol o:
• 6 miliwn o lyfrau a phapurau newydd
• 950,000 o ffotograffau
• 60,000 o weithiau celf
• 1.5 miliwn o fapiau
• 7 miliwn troedfedd o ffilm
• 40,000 o lawysgrifau
• 250,000 awr o fideo
• 1,900 metr ciwbig o archifau
Ynglŷn â’r National Gallery
Y National Gallery yw un o’r orielau celf gorau yn y byd. Wedi’i sefydlu gan y Senedd yn 1824, mae’r Oriel yn gartref i gasgliad o baentiadau yn nhraddodiad Gorllewin Ewrop o ddiwedd y 13eg ganrif i ddechrau'r 20fed ganrif. Mae’r casgliad yn cynnwys gweithiau gan Bellini, Cezanne, Degas, Leonardo, Monet, Raphael, Rembrandt, Renoir, Rubens, Titian, Turner, Van Dyck, Van Gogh a Velazquez. Prif amcanion yr Oriel yw datblygu'r casgliad, gofalu am y casgliad a darparu'r mynediad gorau posib iddo i ymwelwyr. I gael gwybod mwy am amcanion strategol y National GaIlery ewch i: https://www.nationalgallery.org.uk/media/25328/strategic-plan_2018-2023.pdf.
Ynglŷn â Christie's
Mae Christie’s wedi cynnal yr arwerthiannau mwyaf a mwyaf enwog ar hyd y canrifoedd gan ddod yn boblogaidd fel man arddangos eitemau unigryw a hardd. Mae Christie’s yn cynnig tua 350 o arwerthiannau bob blwyddyn ar gyfer dros 80 o gategorïau, gan gynnwys pob maes o fewn celfyddyd gain ac addurniadol, gemwaith, ffotograffau, nwyddau casgladwy, gwin, a mwy. Gall prisiau’r eitemau amrywio o $200 i dros $100 miliwn. Mae gan Christie’s hefyd hanes hir a llwyddiannus o gynnal Gwerthiannau Preifat i gleientiaid a chynigir gwerthiannau ar-lein trwy gydol y flwyddyn ar gyfer pob categori. Mae presenoldeb byd-eang Christie’s wedi’i wasgaru ar draws rhwydwaith o ystafelloedd gwerthu rhyngwladol a 61 o gynrychiolwyr a swyddfeydd. Yn ogystal, mae christies.com yn darparu erthyglau manwl a fideos o’r gwrthrychau sy’n cael eu gwerthu, ochr yn ochr â’r dulliau diweddaraf o weld eitemau’n ddigidol gan wneud Christie’s hygyrch i bawb.
NG6469
Hilaire-Germain-Edgar Degas
Hélène Rouart in her Father's Study
tua 1886
Olew ar gynfas
162.5 x 121 cm
© The National Gallery, London
Mae Hélène Rouart yn sefyll yn stydi ei thad, gyda’i dwylo yn gorwedd ar gefn ei gadair wag. Gellir gweld gweithiau o’i gasgliad celf y tu ôl iddi, gan gynnwys tri cherflun o’r Aifft mewn cas gwydr, ac uwch ei phen, gwaith celf Tsieineaidd ynghrog ar y wal. Er bod Degas wedi gosod y cyfansoddiad terfynol heb wneud fawr o newidiadau yn dilyn hynny, fe fu iddo ailweithio rhannau o’r arwyneb serch hynny, gan ddefnyddio pastel i weithio’n uniongyrchol ar y canfas.
Hélène oedd merch y peiriannydd a’r arlunydd amatur Henri Rouart, cyfaill i Degas a oedd â chasgliad sylweddol o weithiau celf Ffrengig cyfoes, gan gynnwys gweithiau gan Degas ei hun. Pan oedd Hélène yn naw mlwydd oed, fe wnaeth Degas baentio portread ohoni yn eistedd ar lin ei thad. Roedd hi’n 23 oed ac yn briod pan gafodd y portread hwn ei baentio, ond dyw Degas ddim yn dangos ei modrwy briodas, o bosib er mwyn pwysleisio ei statws fel merch yn hytrach na gwraig.