Symud i'r prif gynnwys

08.06.2022

Ar 20 Mehefin bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn cyhoeddi’r astudiaeth fwyaf trylwyr ac ysgolheigaidd o lawysgrifau Cymraeg a Chymreig sydd erioed wedi’i gyhoeddi.

Awdur y gwaith yw’r Dr Daniel Huws, cyn-Geidwad Llawysgrifau a Chofysgrifau’r Llyfrgell a’r pennaf ysgolhaig ar lawysgrifau Cymraeg a Chymreig.  Bydd cyhoeddi A Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes, c.800–c.1800 yn benllanw blynyddoedd o waith ymchwil trylwyr ac yn gyfraniad tra sylweddol i ysgolheictod rhyngwladol. I ddathlu cyhoeddi’r Repertory ac i nodi pen blwydd Dr Huws yn 90 oed cynhelir cynhadledd ryngwladol ar amrywiol agweddau ar lawysgrifau yn y Llyfrgell rhwng 20 a 22 Mehefin.

Prif siaradwyr Cynhadledd Llawysgrifau Cymru c.800–c.1800 fydd Ceridwen Lloyd-Morgan, Bernard Meehan a Paul Russell, gydag ysgolheigion nodedig Cymreig ac o’r tu hwnt i Gymru’n cymryd rhan. Cyflwynir dros ddeg ar hugain o bapurau ar agweddau ar lawysgrifau o darddiad Cymreig, gan gynnwys eu gwneuthuriad, paleograffeg, ysgrifwyr, noddwyr, casglwyr, astudiaethau testunol a’r modd y cânt eu cyflwyno’n ddigidol.

Dywedodd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Heb os, dyma un o’r gweithiau ymchwil, ysgolheigaidd pwysicaf i’w gyhoeddi gennym, os nad y pwysicaf un. Mawr yw ein diolch i Daniel am ei waith cwbl ragorol a’r fraint yr wyf fi wedi’i gael o ddod i adnabod yr ysgolhaig annwyl ac unigryw hwn yn ystod y blynyddoedd diwethaf yma. Ein dymuniadau gorau iddo ar ei ben blwydd arbennig a mawr yw ein diolch iddo am oes o wasanaeth i Gymru, ei diwylliant a’i dysg.”

Dywedodd yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru:
“Dyma gampwaith yn wir. Dathlwn ysgolheictod Dr Daniel Huws ac ymhyfrydwn yn y cydweithio agos a fu rhyngom wrth gyflwyno’r gwaith hwn i’r byd. Hoffwn ddiolch i bob un a fu ynghlwm â chyhoeddi’r cyfrolau hynod hyn ac edrychwn ymlaen – nid yn unig at y lansio a’r Gynhadledd eleni – ond at y gwaith a’r ymchwil newydd a ddaw yn sgil y Repertory am ddegawdau i ddod.”

Mwy o fanylion
Y Repertory fydd y cyhoeddiad pwysicaf ar lawysgrifau Cymraeg a Chymreig ers canrif a mwy, a bydd yn chwyldroi’r astudiaeth o hanes ein diwylliant a'n llên. Bydd y tair cyfrol yn cynnwys astudiaeth fanwl o lawysgrifau a ddiogelir yn ein prif lyfrgelloedd, megis y Llyfrgell Genedlaethol, Prifysgol Bangor, a chanolfannau megis y Llyfrgell Brydeinig a Llyfrgell Bodley, Rhydychen. Bydd hefyd yn rhoi sylw i lawysgrifau sydd wedi eu diogelu mewn mannau sydd ymhellach i ffwrdd, megis prifysgolion Harvard a Yale, coleg Stonyhurst, ac archifdy swydd Northampton. Ar sail y llawysgrifau hyn, dadansoddir gwaith a chymhellion yr unigolion a fu’n eu llunio – o’r Oesoedd Canol hyd at y Chwyldro Diwydiannol – gan ein cyflwyno i gymeriadau enwog yn hanes y genedl, i eraill a lwyr anghofiwyd ac i ambell gymeriad brith sy’n haeddu rhagor o sylw.

Am fwy o wybodaeth ewch i dudalen we’r gynhadledd neu ewch i wefan y Llyfrgell i archebu tocyn.

**This press release is also available in English**

--DIWEDD--

Gwybodaeth Bellach:
Nia Wyn Dafydd
nia.dafydd@llgc.org.uk