Symud i'r prif gynnwys

21.03.2022

Ar Ddiwrnod Barddoniaeth y Byd, mae teulu un o lenorion mwyaf disglair Cymru wedi cyflwyno detholiad o’i lawysgrifau a’i eiddo personol i Brifysgol Aberystwyth.

Ymhlith yr eitemau oedd yn perthyn i Gwenallt (David James Jones) mae’r bathodyn carchar y bu’n ei wisgo a’r llyfrau oedd ganddo yn Dartmoor yn sgil ei garcharu am fod yn wrthwynebydd cydwybodol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Hefyd yn rhan o’r casgliad, mae ei ysgrifbin a’i botel inc, ei sbectol a’i gas sbectol “UCW Aberystwyth” o’r cyfnod pan fu’n gweithio yn Adran Gymraeg y Brifysgol (1927-1966).

Mae’r llawysgrifau’n cynnwys nodiadau darlithoedd, llythyron personol a dyddiadur ei daith i Gaersalem - taith a arweiniodd at gyfansoddi ei gerdd enwog Y Coed.

Ceir hefyd nifer o ddeunyddiau a gadwodd ei weddw, Nel Gwenallt, gan gynnwys cyflwyniadau radio, teyrngedau ac Opera Roc, oll yn cofnodi bywyd a gwaith y bardd.

Cafodd y gwrthrychau a’r llawysgrifau eu cyflwyno’n rhodd i’r Adran lle y bu’n fyfyriwr ac yn ddarlithydd gan ei wyres, Elin Gwenallt Jones, sy’n byw yng Ngheredigion.

Trosglwyddwyd y llawysgrifau i’w cadw’n ddiogel yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Dywedodd Elin Gwenallt Jones, wyres y bardd:

“Roedd hi’n ddymuniad gan Mam-gu a Mam fod papurau Dad-cu yn cael eu cadw’n ddiogel, ac mae rhan fawr o’r archif eisoes yn y Llyfrgell Genedlaethol. Wrth glirio tŷ Mam fodd bynnag, daeth nifer o eitemau newydd i’r golwg, ac roeddwn yn awyddus iawn i sicrhau eu bod nhw hefyd yn cael eu cadw a’u rhannu’n ehangach”.

Caiff y gwrthrychau eu defnyddio gan staff a myfyrwyr yr Adran at ddibenion ymchwil a dysgu.

Dywedodd Mererid Hopwood, Athro’r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd:

“Mae nifer o’n myfyrwyr wedi astudio gwaith Gwenallt yn yr ysgol cyn dod atom ni, ond mae gallu rhannu’r gwrthrychau hyn â nhw, a dangos llawysgrifen y bardd, yn dod â gwefr ac arwyddocad arbennig i’r geiriau. Mae’r archif newydd yn sicr yn galw am waith dadansoddi ysgolheigaidd manwl, ac rydym yn hynod ddiolchgar i Elin a’r teulu am y rhodd hael hwn.”

Meddai Dr Bleddyn Owen Huws:

“Mae derbyn yr archif deuluol hon yn mynd i roi cyfle inni ddod i adnabod Gwenallt o’r newydd fel gŵr priod, tad a thad-cu. Ceir ynddi ddeunyddiau a rydd gyfle inni gloriannu gwaddol Gwenallt fel bardd a ffigur diwylliannol yn ogystal. Ein gobaith yw arwain prosiect lle bydd ymchwilydd ar ddechrau gyrfa yn gweithio ar yr archif ychwanegol hon yng nghyd-destun yr archif sydd eisoes yn y Llyfrgell Genedlaethol.”

Ategodd Dr Cathryn Charnell-White:

“Rydym wrth ein bodd o gael cydweithio â theulu Gwenallt ac â’r Llyfrgell Genedlaethol wrth archifo ac astudio’r deunydd newydd pwysig hwn. Mae’n gasgliad i Aberystwyth ac, heb os, i’r genedl.”

Bydd y gwrthrychau’n cael eu cadw yn yr Adran gyda’r bwriad o’u harddangos yn orielau’r Hen Goleg pan fydd yr adeilad yn ailagor ar ei newydd wedd.

Er mwyn sicrhau bod gan ymchwilwyr o bob cwr fynediad at y llawysgrifau, fe’u cyflwynir i ofal y Llyfrgell Genedlaethol. 

Dywedodd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd a’r Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn falch iawn o dderbyn ychwanegiad i bapurau Gwenallt a ddiogelwyd gan ei deulu. Trwy astudio'r deunydd yma gallwn edrych o'r newydd ar fywyd a gwaith un o feirdd mwyaf dylanwadol Cymru. Mae'r deunydd yn cynnwys llythyrau, ffotograffau a nodiadau a fydd yn werthfawr iawn i astudiaethau pellach o fywyd a gwaith bardd a oedd yn adlewyrchu syniadau a chynnwrf yr ugeinfed ganrif yn ei farddoniaeth.   Mae'r rhodd yma yn ychwanegol at lawysgrifau, sgriptiau, a nodiadau Gwenallt sydd yma eisoes, ynghyd â deunydd yn ymwneud â 'Chymdeithas yr Hwrddod', a ffurfiwyd gan Gwenallt ac Idwal Jones yn Aberystwyth.”

Am Gwenallt

Yn dilyn ei garcharu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, daeth Gwenallt i Aberystwyth yn 1919 i ddilyn cyrsiau gradd yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Gweithiodd am gyfnod wedyn fel athro ysgol uwchradd yn y Barri cyn dychwelyd i’r Coleg ger y Lli yn 1927 ar ôl cael ei benodi’n ddarlithydd yn Adran y Gymraeg. Enillodd y gadair ddwywaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1926 ac eto yn 1931, ac fe gyhoeddodd nifer o gyfrolau o farddoniaeth.

**This press release is also available in English**

--DIWEDD--

Dolenni:
Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd
Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Gwybodaeth Bellach:
Yr Athro Mererid Hopwood, Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Aberystwyth
meh64@aber.ac.uk

Alice Earp, Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus, Prifysgol Aberystwyth
ale@aber.ac.uk

Prifysgol Aberystwyth
Sefydlwyd Prifysgol Aberystwyth yn 1872 ac mae’n brifysgol addysgu ac ymchwil flaenllaw. Dyfarnwyd iddi Aur yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu a Chanlyniadau Myfyrwyr (FfRhA) ym mis Mehefin 2018, a chafodd ei henwi’n Brifysgol y Flwyddyn ar gyfer Ansawdd y Dysgu yn The Times/Sunday Times Good University Guide 2018 a 2019, a Phrifysgol y Flwyddyn yng Nghymru yn 2020. Yn ôl Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr 2020, roedd Aberystwyth ar y brig yng Nghymru, ac o’r prifysgolion a restrwyd yng nghanllaw prifysgolion y Times / Sunday Times 2021 roedd Aberystwyth yn rhif un yn y DU am Brofiad Myfyrwyr ac Ansawdd y Dysgu. Dengys y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf bod 95% o'r gweithgaredd ymchwil a gyflwynwyd gan Aberystwyth o safon ryngwladol neu uwch. Mae'r Brifysgol yn gymuned o oddeutu 8,000 o fyfyrwyr a 2,000 o staff, â'r nod o ddarparu addysg ac ymchwil sydd yn ysbrydoli mewn awyrgylch cefnogol, creadigol ac eithriadol. Elusen gofrestredig rhif 1145141.