Symud i'r prif gynnwys

26.09.2022

Ar Ddydd Sadwrn, 17 Medi, agorwyd arddangosfa newydd - ‘Record: Gwerin, Protest a Phop’ yn Oriel Glan-yr-afon, Hwlffordd. Mae’r arddangosfa’n archwilio traddodiad cerddorol Cymru ar hyd y canrifoedd; o’r crwth i’r Cyrff, drwy ddefnyddio amrywiol eitemau o’r Archif Gerddorol Gymreig a’r Archif Sgrin a Sain sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Bydd ‘Record’ yn archwilio pam y disgrifir Cymru yn aml fel gwlad y gân, ym mha le dechreuodd ein traddodiad cerddorol, a sut y datblygodd.

Mae'r arddangosfa hefyd am edrych ar draddodiadau cerddorol cynnar a gwerinol Cymru drwy lawysgrifau megis Melus-seiniau Cymru, sef un o’r casgliadau pwysicaf o alawon gwerin Gymreig a gasglwyd gan Ifor Ceri. Cydnabyddir dylanwad unigolion fel Meredydd Evans a’i briod Phyllis Kinney ym maes cerddoriaeth werinol ac adloniant ysgafn, a hynny drwy eitemau newydd o’u harchif. Ymhlith uchafbwyntiau eu casgliad y mae llythyr arbennig oddi wrth Richard Burton at Merêd yn trafod alawon gwerin Cymraeg.

Bydd ‘Record’ hefyd yn edrych ar sut mae labeli annibynol a grwpiau Cymreig wedi gweithio i gynhyrchu cerddoriaeth protest a phop chwyldroadol yn ystod y degawdau diwethaf. Daw’r stori’n fyw yn yr archifau amrywiol, gan gynnwys papurau Y Blew a’r Super Furry Animals. Mae cylchgronau pop cynnar fel Sŵn, casgliad helaeth o bosteri gigs o’r 1960au hyd at yr 1990au a phortread celf pop Malcolm Gwyon o Dafydd Iwan hefyd i’w gweld yn yr arddangosfa.

Meddai Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru: “Mae Record: Gwerin, Protest a Phop yn ddathliad lliwgar ac amrywiol o’r traddodiad cerddorol yng Nghymru. Braf yw gallu ei rhannu â chynulleidfaoedd newydd y tu hwnt i Aberystwyth trwy fynd â hi ar daith i Oriel Glan-yr-Afon, Hwlffordd ac arddangos cyfoeth ein casgliadau sy’n cynrychioli datblygiad y traddodiad ar draws y canrifoedd gan gyfuno casgliadau'r Archif Gerddorol, yr Archif Sgrin a Sain ac eitemau o’n casgliadau gweledol. Mae rhywbeth i bawb yn yr arddangosfa hon, o’r gorffennol i’r presennol, ac mae’n siŵr o ysgogi atgofion yn yr un modd ymhlith ei ymwelwyr.”

Ychwanegodd Mari Elin, Curadur Arddangosfa ‘Record: Gwerin, Protest a Phop’: “Mae hi wedi bod yn lot o hwyl curadu’r arddangosfa hon, ac yn gyfle gwych i roi llwyfan i gasgliadau’r Archif Gerddorol a’r Archif Sgrin a Sain, sydd mor amrywiol a diddorol. Gobeithio bydd ‘Record’ yn ysgogi ymwelwyr i fynd ati i archwilio’r casgliadau cerddorol Llyfrgell Genedlaethol Cymru ymhellach, yn ogystal â galw heibio’u siop recordiau lleol i ’nôl record Gymreig neu ddwy!”

Meddai Nia Mai Daniel, Pennaeth Isadran Archifau, Llawysgrifau a Chofnodion Modern, a Chydlynydd Yr Archif Gerddorol Gymreig: “Mae'r arddangosfa yn rhoi blas o'r casgliadau cerddorol gwerin a phop sydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac yn gyfle i ddathlu'r casgliadau a dderbyniwyd yn ddiweddar gan gynnwys archif Merêd a Phyllis Kinney a llyfr lloffion y Super Furry Animals. Os oes rhywun â mwy o ddeunydd fel posteri, ffotograffau, neu lythyrau cysylltwch â ni. Rydym yn dal i gasglu er mwyn medru dogfennu ac adlewyrchu hanes cerddoriaeth Cymru o'r gwreiddiau hyd at heddiw.”

Ochr yn ochr ag arddangosfa Record, cynhelir arddangosfa Sir Benfro: Ddoe A Heddiw, sef arddangosfa barhaol sy’n canolbwyntio ar hanes, diwylliant, a thirlun Sir Benfro. Bydd y ddwy arddangosfa ar agor tan Ddydd Sadwrn, 18 Chwefror 2023.

Mae Glan-yr-afon yn ganolfan ddiwylliannol flaenllaw yng nghalon Hwlffordd, sir Benfro. Fe’i hagorwyd ym mis Rhagfyr 2018, ac mae’n cynnwys llyfrgell fodern, canolfan i ymwelwyr, siop goffi a gofod ar gyfer oriel sy’n arddangos casgliadau o Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r cyfleuster gwych hwn yn anarferol ac yn arloesol, ac eisoes wedi bod yn rhan allweddol o’r gwaith o adfywio’r dref a’r ardal ehangach yn sir Benfro.

Am fwy o wybodaeth, ewch i:

**This press release is also available in English**