Symud i'r prif gynnwys

08.09.2022

Mae’r Llyfrgell yn falch o gyhoeddi ein bod ni’n cydweithio â Beiciau Gwaed Cymru gan ddarparu storfa ar gyfer eu beiciau modur.

Mae Beiciau Gwaed Cymru yn elusen wedi’i lleoli yng Nghymru a weithredir gan wirfoddolwyr, sy’n darparu gwasanaeth negesydd, ymateb cyflym, rhad ac am ddim i’r GIG, ac mae’r Llyfrgell yn falch o allu cefnogi’r gwaith hanfodol ganddynt sy’n achub bywydau, drwy ddarparu cyfleuster storio diogel a chyfleus.

Dywedodd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Mae’r Llyfrgell yn croesawu’r bartneriaeth arbennig yma gyda Beiciau Gwaed Cymru a’r cyfle i gydweitho yma yn Aberystwyth. Mae’n gyfle rhagorol i gefnogi’r gymuned leol a chynnig cartref i’r elusen wirfoddol bwysig yma sy’n darparu gwasanaeth allweddol i Ysbyty Bronglais a’r GIG yng Nghymru. Rydym yn wynebu cyfnod heriol o ran ariannu gwasnaethau o bob math ac mae rhannu adnoddau fel hyn yn fwy pwysig nag erioed ar gyfer sicrhau'r budd gorau ar gyfer bobl canolbarth Cymru a’r gymuned yn ehangach.”

Meddai Mathew Leeman, Cynrychiolydd Rhanbarth Beiciau Gwaed:

“Ar ran Grŵp Aberystwyth Beiciau Gwaed Cymru hoffwn ddatgan fy niolch i Lyfrgell Genedlaethol Cymru am eu cefnogaeth hael trwy ddarparu cartref i’n dau Feic Gwaed a’r offer sy’n mynd gyda hwy. Rwy’n diolch o waelod calon i bawb sydd wedi bod ynghlwm wrth alluogi’r bartneriaeth gyffrous, ac am eu gwaith caled i sicrhau bod symud i’n canolfan weithredu newydd wedi'i gyflawni’n gyflym ac yn effeithlon gyda dim toriad i’r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu i’r GIG.”

Mae gan grŵp Aberystwyth Beiciau Gwaed Cymru 20 o feicwyr, 2 reolwr, a thîm cymorth ymroddedig o bobl yn codi arian a gwirfoddolwyr gweinyddol ar hyn o bryd a dyma’r grŵp Beiciau Gwaed lleiaf yng Nghymru er ei fod yn cwmpasu’r ardal ddaearyddol fwyaf. Mae’r tîm bach yma o wirfoddolwyr yn hanfodol er mwyn sicrhau parhad y gwasanaeth a ddarperir gan Feiciau Gwaed Cymru i Ysbyty Bronglais, ysbytai llai'r ardal, unedau Mân Anafiadau a Chanolfannau Gofal Integredig y rhanbarth. Yn nodweddiadol mae gwirfoddolwyr Aberystwyth yn ymateb i dros 600 o alwadau'r flwyddyn, gyda'r beicwyr yn teithio tua 25,000 o filltiroedd yn flynyddol.

Mae Beiciau Gwaed Cymru yn Elusen Ddielw gofrestredig gyda Chomisiwn Elusennau’r DU. Am fwy o wybodaeth am Feiciau Gwaed Cymru a’u gwaith ewch i wefan Beiciau Gwaed Cymru.

** This press release is also available in English**

--DIWEDD--

Gwybodaeth bellach:
Nia Dafydd
post@llgc.org.uk or 01970 632871