Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd Oriel Hengwrt, sy'n dal arddangosfa Trysorau, ar gau ar Ddydd Llun 9 Medi. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Lansiwyd yr arddangosfa fwyaf uchelgeisiol i’w chynnal hyd yma yn Llyfrgell, Oriel a Chanolfan Gwybodaeth Ymwelwyr Glan-yr-afon yn Hwlffordd yn ddiweddar.
Agorwyd arddangosfa THE NATIONAL GALLERY MASTERPIECE TOUR: TREM | GAZE yn swyddogol gan Ashok Ahir, Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Jane Knowles, Pennaeth Arddangosfeydd The National Gallery. Noddir Masterpiece Tour y National Gallery gan Christie’s.
Mae’r portread arbennig o Hélène Rouart in her Father’s Study gan Edgar Degas yn ganolbwynt i’r arddangosfa TREM | GAZE, sydd yn cynnwys portreadau o’r Casgliad Portreadau Cenedlaethol a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Mae’r arddangosfa yn anelu i osod paentiad Degas mewn cyd-destun sydd yn archwilio’r ffurf fenywaidd mewn gweithiau celf gan ystyried theorïau'r ‘drem wrywaidd’ a’r ‘drem fenywaidd’, a hynny trwy lygaid artistiaid benywaidd a gwrywaidd Cymreig megis Seren Morgan Jones, Claudia Williams, Syr Kyffin Williams a John Selway.
Yn ogystal â lansio’r arddangosfa, cynhaliwyd sgwrs ardderchog gan Laura Llewellyn, Curadur Cyswllt yn y National Gallery, yng nghanolfan Glan-yr-afon, a rhanwyd hanes byw a difyr y paentiad, goddrych y portread a’r artist ei hun. Bydd fideo byr ar gael cyn hir i’w wylio yn Oriel Glan-yr-afon, sy’n sicr o ychwanegu gwerth i’r paentiad arbennig sy’n cael ei arddangos yn y ganolfan.
Meddai Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Mae hi wedi bod yn wych medru cydweithio gyda Chyngor Sir Bentro a’r National Gallery i ddod â’r ‘Masterpiece Tour’ i’r ardal yma o Gymru sy’n rhoi cyfle i drigolion Sir Benfro a’r rhai sy’n ymweld â’r ardal i weld campwaith gan Edgar Degas a gweithiau arbennig eraill gan artistiaid Cymreig ardderchog.”
Dywedodd Jane Knowles, Pennaeth Arddangosfeydd The National Gallery:
"Mae’r National Gallery wedi bod yn ehangu ac yn dyfnhau ei phartneriaethau rhanbarthol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac rydym yn hynod falch o fod wedi cael y cyfle i weithio gyda Oriel Glan-yr-afon. Mae ein rhaglenni cenedlaethol yn canolbwyntio ar ddatblygu perthynasau gyda sefydliadau eraill a chaniatáu i gymunedau lleol ddefnyddio casgliad ac adnoddau y National Gallery fel llwyfan i ystyried eu hanes a’u treftadaeth eu hunain, yn ogystal â chefnogi twristiaeth ac addysg.
Mae gan amgueddfeydd ac orielau ran hollbwysig I’w chwarae yn lles economaidd a diwylliannol ein holl gymunedau – gan ddod â buddsoddiad yn ogystal â llawenydd. Gobeithiwn y gall taith y Masterpiece Tour gyfrannu at hyn yn sir Benfro a ledled y DU."
Dywedodd Dr Steven Jones, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymunedol, ei bod yn fraint gan Gyngor Sir Penfro gael cymryd rhan yn nhaith y Masterpiece Tour.
“Edgar Degas yw un o artistiaid mwyaf nodedig y byd ac mae cael un o’i baentiadau mewn arddangosfa yn Hwlffordd yn siŵr o ddenu llawer o bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd,” meddai.
Ochr yn ochr ag arddangosfa THE NATIONAL GALLERY MASTERPIECE TOUR: TREM | GAZE, cynhelir arddangosfa SIR BENFRO: DDOE A HEDDIW, sef arddangosfa barhaol sy’n canolbwyntio ar hanes, diwylliant, a thirlun Sir Benfro. Bydd y ddwy arddangosfa ar agor tan Ddydd Sadwrn, 3 Medi 2022.
Am fwy o wybodaeth, ewch i:
**This press release is also available in English**
NODIADAU I OLYGYDDION
NG6469
Hilaire-Germain-Edgar Degas
Hélène Rouart in her Father's Study
tua 1886
Olew ar gynfas
162.5 x 121 cm
© The National Gallery, London
Mae Hélène Rouart yn sefyll yn stydi ei thad, gyda’i dwylo yn gorwedd ar gefn ei gadair wag. Gellir gweld gweithiau o’i gasgliad celf y tu ôl iddi, gan gynnwys tri cherflun o’r Aifft mewn cas gwydr, ac uwch ei phen, gwaith celf Tsieineaidd ynghrog ar y wal. Er bod Degas wedi gosod y cyfansoddiad terfynol heb wneud fawr o newidiadau yn dilyn hynny, fe fu iddo ailweithio rhannau o’r arwyneb serch hynny, gan ddefnyddio pastel i weithio’n uniongyrchol ar y canfas.
Hélène oedd merch y peiriannydd a’r arlunydd amatur Henri Rouart, cyfaill i Degas a oedd â chasgliad sylweddol o weithiau celf Ffrengig cyfoes, gan gynnwys gweithiau gan Degas ei hun. Pan oedd Hélène yn naw mlwydd oed, fe wnaeth Degas baentio portread ohoni yn eistedd ar lin ei thad. Roedd hi’n 23 oed ac yn briod pan gafodd y portread hwn ei baentio, ond dyw Degas ddim yn dangos ei modrwy briodas, o bosib er mwyn pwysleisio ei statws fel merch yn hytrach na gwraig.
Y National Gallery yw un o’r orielau celf gorau yn y byd. Wedi’i sefydlu gan y Senedd yn 1824, mae’r Oriel yn gartref i gasgliad o baentiadau yn nhraddodiad Gorllewin Ewrop o ddiwedd y 13eg ganrif i ddechrau'r 20fed ganrif. Mae’r casgliad yn cynnwys gweithiau gan Bellini, Cezanne, Degas, Leonardo, Monet, Raphael, Rembrandt, Renoir, Rubens, Titian, Turner, Van Dyck, Van Gogh a Velazquez. Prif amcanion yr Oriel yw datblygu'r casgliad, gofalu am y casgliad a darparu'r mynediad gorau posib iddo i ymwelwyr. I gael gwybod mwy am amcanion strategol y National GaIlery ewch i: https://www.nationalgallery.org.uk/media/25328/strategic-plan_2018-2023.pdf.
Ynglŷn â Christie's
Mae Christie’s wedi cynnal yr arwerthiannau mwyaf a mwyaf enwog ar hyd y canrifoedd gan ddod yn boblogaidd fel man arddangos eitemau unigryw a hardd. Mae Christie’s yn cynnig tua 350 o arwerthiannau bob blwyddyn ar gyfer dros 80 o gategorïau, gan gynnwys pob maes o fewn celfyddyd gain ac addurniadol, gemwaith, ffotograffau, nwyddau casgladwy, gwin, a mwy. Gall prisiau’r eitemau amrywio o $200 i dros $100 miliwn. Mae gan Christie’s hefyd hanes hir a llwyddiannus o gynnal Gwerthiannau Preifat i gleientiaid a chynigir gwerthiannau ar-lein trwy gydol y flwyddyn ar gyfer pob categori. Mae presenoldeb byd-eang Christie’s wedi’i wasgaru ar draws rhwydwaith o ystafelloedd gwerthu rhyngwladol a 61 o gynrychiolwyr a swyddfeydd. Yn ogystal, mae christies.com yn darparu erthyglau manwl a fideos o’r gwrthrychau sy’n cael eu gwerthu, ochr yn ochr â’r dulliau diweddaraf o weld eitemau’n ddigidol gan wneud Christie’s hygyrch i bawb.
--DIWEDD--
Gwybodaeth Bellach:
Nia Wyn Dafydd
nia.dafydd@llgc.org.uk