Symud i'r prif gynnwys

Mynd â’r Llyfrgell Genedlaethol i Faes yr Eisteddfod

15.07.2022

Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn falch o groesawu’r Eisteddfod Genedlaethol i Geredigion, sy’n rhoi cyfle i fynd â’r Llyfrgell i’r Maes. Bydd ein huned ar y Maes yn fwrlwm o weithgareddau gydag arddangosfa unigryw a sinema i’r cyhoedd ymlacio a mwynhau gweld trysorau o’n harchif delweddau symudol.  

Bydd rhaglen amrywiol a chyffrous o ddigwyddiadau ar gyfer teuluoedd ac oedolion yn cael ei chynnal ar wahanol adegau yn ein huned gan gynnwys gigs gydag artistiaid fel Parisa Fouladi, Owen Shiers, Mari Mathias, Ynys, Izzy & Eädyth a Plu gyda sesiynau eraill yn canolbwyntio ar iechyd a lles. Bydd rhain yn cynnwys sesiynau Clocsffit gyda neb llai na Tudur Phillips a gweithdy Syrcas. Rydym yn hynod falch hefyd ein bod yn cynnal digwyddiad mewn partneriaeth â'r elusen Meddwl i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd iechyd meddwl yng nghwmni’r gantores Miriam Isaac.

Rydym yn falch hefyd o fedru cynnal rhai sesiynau llenyddol mewn partneriaeth â chyrff eraill, fel ein digwyddiad arbennig ar Ddydd Llun 1 Awst yng nghwmni’r Prifardd Gwenallt Llwyd Ifan, yn wreiddiol o Dregaron. Bydd yn cyflwyno dilyniant o gerddi newydd sbon, a gomisiynwyd gan y Llyfrgell mewn cydweithrediad â Barddas, sy’n seiliedig ac wedi’i hysbrydoli gan ein harddangosfa A Oes Heddwch?

Yn ogystal â hyn oll, bydd presenoldeb y Llyfrgell yn ymestyn ar hyd y Maes gyda chyflwyniadau difyr ac amrywiol yn y Babell Cymdeithasau, y Lle Celf a Thŷ Gwerin.

Bydd Siop y Llyfrgell hefyd ar y stondin a byddwn yn lansio cyfres o nwyddau chwaethus sydd wedi’u comisiynu’n arbennig gan yr artistiaid Valeriane Leblond a Ruth Jên, ynghyd ag eitemau unigryw yn seiliedig ar y casgliadau cenedlaethol, gan gynnwys rhai sy’n ymwneud ag ardal Tregaron.

Meddai Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Edrychwn ymlaen yn fawr at weld pobl o bell ac agos yn ymweld â ni ar y Maes ac yn adeilad y Llyfrgell wrth i ni groesawu un o wyliau diwylliannol mwyaf Ewrop yma i Geredigion. Mae yna gryn edrych ymlaen ar ôl hir aros am achlysur arbennig a chofiadwy ac rydym wedi paratoi rhaglen amrywiol a chyffrous o ddigwyddiadau yn dathlu’n hiaith a’n diwylliant ar gyfer teuluoedd ar ein stondin ac ar hyd y Maes yn Nhregaron.”

Mae’r rhaglen lawn sydd â manylion y digwyddiadau o amgylch y Maes i’w weld isod a dilynwch ni ar Twitter a Facebook am y newyddion diweddaraf.

This press release is also available in English.

--DIWEDD--
Gwybodaeth Bellach

Nia Dafydd
post@llgc.org.uk neu 01970 632 871