Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Ar Ddydd Gwener 18 Tachwedd bydd profiad gwahanol yn disgwyl pawb sy’n ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Yn lle cael eu cyfarch gan y staff arferol, byddan nhw’n cael eu croesawu gan wynebau ifanc disgyblion Ysgol Llwyn-yr-Eos, Aberystwyth, fydd yn ymuno â’r Llyfrgell ar gyfer Diwrnod Meddiannu eleni.
Mae’r diwrnod yn cael ei drefnu gan Wasanaeth Addysg y Llyfrgell fel rhan o gynllun Diwrnod Meddiannu ehangach sy’n cael ei drefnu ar hyd a lled Prydain gan elusen Kids in Museum. Yn ystod y diwrnod arbennig yma, mae plant a phobl ifanc yn cael cyfle i feddiannu amgueddfeydd, orielau, cartrefi hanesyddol, archifau a safleoedd treftadaeth drwy gymryd cyfrifoldeb am y gwahanol ddyletswyddau y byddai oedolion fel arfer yn ymgymryd â nhw.
Tra yn y Llyfrgell, bydd y disgyblion yn cael cyfle unigryw i weithio mewn ardaloedd cyhoeddus a thu ôl i’r llen, gan gynnwys cymryd yr awennau yn y dderbynfa, yn y siop ac ar ddesg yr Ystafell Ddarllen. Bydd y plant i'w gweld ymhlith y staff diogelwch, yn curadu arddangosfeydd, yn derbyn eitemau newydd i’r casgliad ac yn cynorthwyo gyda thrwsio deunyddiau yn yr uned gadwraeth ataliol.
Meddai Rhodri Morgan, Rheolwr Gwasanaeth Addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Bydd yn bleser gennym groesawu disgyblion Blwyddyn 6 Ysgol Llwyn-yr-Eos i fod yn gyfrifol am nifer o wasanaethau’r Llyfrgell Genedlaethol fel rhan o Ddiwrnod Meddiannu eleni. Am gyfnod bydd rhai o drysorau pennaf Cymru yn eu gofal, a ry’n ni’n gobeithio cyflwyno profiad bythgofiadwy i’r plant a fydd yn gwella eu dealltwriaeth o gasgliadau amrywiol y Llyfrgell, a’r rhan bwysig sydd ganddi i’w chwarae yn gwarchod treftadaeth Cymru ar gyfer cenhedlaethau’r dyfodol.”
Ychwanegodd Mr Steffan Davies, Dirprwy Prifathro Ysgol Llwyn-yr-Eos:
“Mae hyn yn gyfle arbennig i blant Ysgol Llwyn-yr-Eos. Bydd yn gyfle iddyn nhw brofi’r math o gyfleon gyrfa sydd ar gael iddyn nhw yn y dyfodol. Mi fydd o hefyd yn dangos iddyn nhw rhai o’r pethau anhygoel sydd ar gael yn y Llyfrgell Genedlaethol. Rydym ni’n edrych ymlaen yn fawr at gymryd rhan!”
Dilynwch @addysgllgc ar Twitter ar y diwrnod i ddarganfod mwy am yr hyn mae’r plant yn ei wneud.
**This press release is also available in English**
--DIWEDD--
Gwybodaeth Bellach:
Nia Wyn Dafydd
nia.dafydd@llgc.org.uk
Nodiadau Ychwanegol i Olygyddion
Diwrnod Meddiannu
Dechreuodd Diwrnod Meddiannu yn 2010 ac ers hynny mae dros 40,000 o blant yn genedlaethol wedi cymryd rhan ac wedi cael cyfle unigryw i ddysgu y tu allan i’r dosbarth, datblygu sgiliau newydd a darganfod sut beth yw hi i weithio mewn amgueddfa. Am wybodaeth bellach ewch i’w gwefan.
Gwasanaeth Addysg, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Sefydlwyd Gwasanaeth Addysg LLGC yn 2002. Ei brif waith yw: