Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae'n bosib na fyddwn ni'n gallu cyrchu ein holl ddeunydd archifol rhwng 26 - 29 Mawrth 2025. Os fyddwch chi'n ymweld yn ystod y cyfnod hwn, gofynwn i chi archebu unrhyw ddeunydd archifol cyn 26 Mawrth os gwelwch yn dda. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Ar Ddydd Gwener, 11 Tachwedd 2022, yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, cynhelir cynhadledd undydd ac agoriad swyddogol Canolfan Ymchwil newydd a sefydlir fel rhan o bartneriaeth Rhwydwaith y Llawysgrif a’r Llyfr rhwng Prifysgol Aberystwyth a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Deilliodd y syniad o sefydlu Canolfan Ymchwil i ganolbwyntio ar hybu ymchwil academaidd ar lenyddiaeth a hanes meddygaeth yng Nghymru yn sgil bodolaeth Casgliad Meddygaeth y Llyfrgell Genedlaethol a sefydlwyd drwy nawdd a chefnogaeth Ymddiriedolaeth Wellcome.
Sbardunwyd y trafodaethau cychwynnol gan Dr Bleddyn Owen Huws o Adran Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth a’i gyd-weithiwr Dr Steve Thompson o Adran Hanes a Hanes Cymru y Brifysgol, am fod ganddynt ddiddordeb ym maes y dyniaethau meddygol. Mae Dr Huws yn ymddiddori yn y cyfeiriadau at iechyd ac iacháu ym marddoniaeth yr Oesoedd Canol Diweddar ac mae Dr Thompson yn ymddiddori yn hanes iechyd y boblogaeth yng Nghymru’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif.
Dywed Dr Bleddyn Owen Huws:
“Mae sefydlu’r Ganolfan Ymchwil hon yn gyfle gwych i fanteisio ar y cyfoeth o adnoddau a ffynonellau llenyddol a hanesyddol sydd ar garreg ein drws yn y Llyfrgell Genedlaethol er mwyn dod ag arbenigwyr ym meysydd llên a hanes Cymru at ei gilydd a sbarduno mwy o waith gan ymchwilwyr profiadol ac ymchwilwyr ifainc ar agweddau yn ymwneud ag iechyd a meddygaeth yng Nghymru.”
Meddai Dr Steve Thompson:
“Gan fod llawer o ddiddordeb mewn hanes iechyd a meddygaeth yng Nghymru ar hyd y canrifoedd gwelwn fod nifer o feysydd ymchwil yn eu cynnig eu hunain inni, fel ein bod yn gallu dehongli’r dystiolaeth a geir mewn archifau a chyhoeddi astudiaethau ar ffurf llyfrau, papurau a darlithoedd. Ein gobaith yw denu myfyrwyr ymchwil i weithio yn y maes ffrwythlon hwn.”
Mae aelodau o staff y Llyfrgell Genedlaethol yn rhan o bwyllgor gwaith y Ganolfan, ac mae Manon Foster Evans, Pennaeth Cynnwys Cyhoeddedig a Gwasanaethau Ymchwil y Llyfrgell, yn croesawu’r cydweithio rhwng y ddau sefydliad:
“Rydym yn hynod o falch o’r cyfle i gydweithio gyda’r Brifysgol ac i adeiladu ar y gwaith gwych a gyflawnwyd gan brosiect Ymddiriedolaeth Wellcome i gynnig mynediad i gasgliadau meddygol y Llyfrgell. Trwy fod yn bartner yn y Ganolfan mae’r Llyfrgell yn gobeithio y bydd modd denu nawdd a phartneriaid newydd i gefnogi ymchwil pellach ar y cyfoeth o gasgliadau sydd i’w canfod yn y Llyfrgell.”
Yn yr agoriad swyddogol ceir anerchiadau gan Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd, ar ran y Llyfrgell Genedlaethol a’r Athro Anwen Jones, Dirprwy Is-Ganghellor: Cyfadran y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, ar ran y Brifysgol, a darlledir neges gan y Farwnes Eluned Morgan AS, Gweinidog Iechyd Cymru. Yn dilyn, bydd cyfres o bapurau byrion yn trafod gwahanol agweddau ar faes ymchwil y Ganolfan:
Charles Roberts – ‘‘Côf ac Anghof- y Ffliw Sbaenaidd’: Ymchwilio yn archifdai Cymru a Llundain ar effaith y Pandemig’
Dr T. Robin Chapman – ‘Cynnyrch cystudd: golwg ar Offrymau Neillduaeth (1879) Daniel Owen’
Cadi Dafydd – ‘Astudiaeth o salwch meddwl yn ardaloedd chwarelyddol gogledd Cymru rhwng 1875-1914’
Dr Steve Thompson – ‘ ‘Dyma scandal digon i beri i waed dyn ferwi’: Meddygon, cleifion a’r iaith Gymraeg yn y gwallgofdai, 1880-1900’
Yn Gymraeg y cynhelir y gynhadledd gyda gwasanaeth cyfieithu ar y pryd. Ni fydd tâl cofrestru, ond bydd angen archebu tocyn drwy wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru, lle mae modd gweld y Rhaglen swyddogol hefyd.
** This press release is also available in English**
--DIWEDD--
Gwybodaeth bellach:
Dr Bleddyn Owen Huws (boh@aber.ac.uk)
Dr Steve Thompson (sdt@aber.ac.uk)
Manon Foster Evans (manon.foster.evans@llgc.org.uk)