Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd Oriel Hengwrt, sy'n dal arddangosfa Trysorau, ar gau ar Ddydd Llun 9 Medi. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Ar 12 Mai bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnal digwyddiad arbennig yn Senedd Cymru i nodi cyfraniad y newyddiadurwr Cymreig Gareth Jones, a adroddodd ar yr Holodomor yn Wcráin, y tensiynau yn Ewrop yng nghanol y 1930au a thwf y Blaid Natsïaidd yn yr Almaen.
Roedd ei ddatguddiadau am y newyn yn Wcráin, a ddatblygodd yn fwy angheuol gan benderfyniadau a gorchmynion gwleidyddol, yn seiliedig ar ei brofiadau fel llygad-dyst ar ôl teithio yn y rhanbarth gan ddatgelu graddfa ac arswyd yr Holodomor i gynulleidfa ryngwladol.
Cynhelir y digwyddiad i anrhydeddu cyfraniad Gareth Jones i newyddiaduraeth a materion rhyngwladol ac i ddathlu cwblhau’r gwaith o ddigido rhan helaeth o'i archif, a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bu cefnogaeth ariannol hael Cynghrair Cenedlaethol Merched America Wcráin, Sefydliad Temerty, Sefydliad Rhyddid Sifil Canada, Consortiwm Ymchwil ac Addysg Holodomor (HREC) a Russ a Karen Chelak, yn allweddol er mwyn cwblhau’r prosiect digido.
Dywedodd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Rwy’n ddiolchgar iawn am y cymorth ariannol a gafwyd i ddigido archif Gareth fel rhan o strategaeth digido’r Llyfrgell. Mae’n archif hynod o bwysig ac erbyn hyn yn medru cael ei rhannu gyda haneswyr ac ymchwilwyr ar draws y byd. Mae’n dyled ni’n fawr hefyd i deulu Gareth am adneuo’r papurau gyda ni yn y Llyfrgell.”
Meddai Lubomyr Luciuk, Athro Gwleidyddiaeth Daearyddiaeth yng Ngholeg Milwrol Brenhinol Canada:
“Talodd Gareth Jones gyda’i fywyd am ddweud y gwir, y fo oedd un o’r newyddiadwyr cyntaf i gyhoeddi’r stori am hil-laddiad Newyn Mawr 1932–1933 Wcráin Sofietaidd, yr Holodomor. Mae’n hanfodol cofio a chysegru ymrwymiad y Cymro yma i adrodd am erchyllterau’r hyn oedd yn digwydd, hyd yn oed wrth i’r Sofietiaid, eu cyd-deithwyr, a llywodraethau gorllewinol guddio’r gwirionedd, yn enwedig mewn cyfnod lle mae Wcráin unwaith eto yn dioddef rhyfel, ymosodiad ac agenda hil-laddiad Vladimir Putin a’i gynghreirwyr yn y KGB.”
Meddai Osakana Lodzuik Krywulych, Swyddog Cyffredinol Cynghrair Cenedlaethol Merched America Wcráin (UNWLA):
"Mae’n anrhydedd i Gynghrair Cenedlaethol Merched America Wcráin fod yn un o noddwyr y gwaith i ddigido dyddidaduron Gareth Jones. Mae’r UNWLA yn parhau i fod yn gadarn yn ei hymrwymiad i fod yn gyfrwng creu ymwybyddiaeth ac addysgu pobl am yr hil-laddiad yn Wcráin, a adwaenir fel yr Holodomor. Mae dyled cenedl Wcráin i Gareth Jones yn fawr - gŵr arbennig nad oedd yn ofni dweud y gwir am erchyllterau’r Holodomor. Mae’n haeddu cael ei anrhydeddu a’i gofio am ddogfennu’r gwirionedd a hynny pan oedd yn cael ei wadu gan nifer yn y Gorllewin. Mae ei adroddiadau yn arbennig o drawiadol heddiw gan fod Wcráin unwaith eto yn dioddef hil-laddiad gan yr un tramgwyddwr tra bod llygad y byd yn gwylio wrth iddo ddigwydd."
Bydd y digwyddiad, a noddir gan Mick Antoniw AS, yn cynnwys cyflwyniadau gan yr Athro Lubomyr Luciuk a’r newyddiadurwr Martin Shipton, ynghyd â darlleniad o ddyfyniadau o ddyddiaduron a llythyrau Gareth Jones gan Julian Lewis Jones.
Coffáu Gareth Jones | Commemorating Gareth Jones
Adeilad y Senedd, Caerdydd
Dydd Iau 12 Mai 2022 am 12.00pm
Nodiadau i olygyddion:
Roedd Gareth Vaughan Jones (1905–35) yn ymchwilydd, newyddiadurwr ac awdur nodedig a laddwyd gan ‘ladron’ Tsieineaidd honedig ym Mongolia Mewnol ym mis Awst 1935. Yn ystod ei yrfa, teithiodd y byd gan adrodd ar yr Holodomor yn Wcráin a Natsïaeth yn yr Almaen.
Mae’r casgliad yn y Llyfrgell yn cynnwys y ‘dyddiadur Hitler’ enwog a gadwyd gan Gareth yn ystod ei ymweliad â’r Almaen yng ngwanwyn 1933 lle disgrifia amgylchiadau byw a rhai digwyddiadau o fewn yr Almaen adeg y Natsïaid yn fuan ar ôl i Hitler ddod i rym yno. Mae hefyd wedi gadael i ni ei argraffiadau hynod o dreiddgar o Hitler ei hun a Goebbels hefyd.
Mae grŵp pellach o chwe dyddiadur poced yn disgrifio mewn cryn fanylder ei ymweliadau â'r Undeb Sofietaidd rhwng 1931 a 1933, yn arbennig ei deithiau o fewn y wlad, a’r bobl mae’n eu cyfarfod ynghyd â disgrifiadau lliwgar o amgylchiadau’r Holodomor, y newyn erchyll a arweiniodd at filiynau o farwolaethau yn Wcráin. Gareth Jones yw’r unig un bron, a soniodd amdanynt mewn papurau newyddion a chylchgronau ar y pryd. Dyddiaduron Gareth Jones efallai oedd yr unig gadarnhad annibynnol o weithred waethaf Stalin.
Gareth Vaughan Jones Papers
Mae detholiad o’i gasgliad bellach wedi’i ddigido ac i’w gweld ar ein gwefan.
**This press release is also available in English**
--DIWEDD--
Gwybodaeth Bellach:
Nia Wyn Dafydd
nia.dafydd@llgc.org.uk