Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn hynod falch ein bod eleni yn cynnal darlith arbennig yn ystod Gŵyl y Gelli. Ar 31 Mai am 5:30pm ar Lwyfan Festival Friends bydd yr hanesydd celf Peter Lord yn trafod paentiad Salem gan Sydney Curnow Vosper a brynwyd gan y Llyfrgell yn 2019. Bydd y paentiad gwreiddiol yn cael ei arddangos yn ystod y digwyddiad, gan gynnig cyfle arbennig i weld un o weithiau celf mwyaf eiconig Cymru.
Daeth Salem yn symbol o’r bywyd Cymreig a’r traddodiad anghydffurfiol yng Nghymru a magodd enwogrwydd cynyddol yn sgil y ffaith bod rhai yn gweld delwedd o’r diafol ym mhlyg siôl cymeriad canolog y llun. Yn ‘Vosper’s Salem’, bydd Peter Lord yn adolygu sut y daeth y ddelwedd syml yma i fod yn ganolbwynt hunaniaethau gwleidyddol cymhleth, gan edrych ar y cwestiwn ehangach ynghylch cynrychiolaeth eiconig o genedligrwydd yng Nghymru.
Dywedodd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd:
“Mae’r Llyfrgell yn ymhyfrydu bod y paentiad eiconig hwn o’r oedfa yng Nghefn Cymerau a Siân Owen a’r diafol yn ei siôl yn rhan o’n casgliadau. Mae’r gwaith enigmatig hwn o eiddo Sydney Curnow Vosper yn un o drysorau’r genedl ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at y cyfle i’w rannu gyda chynulleidfa Gŵyl y Gelli.”
Wedi’i baentio gan Vosper ym 1908, mae’n darlunio golygfa yng Nghapel Salem, Cefncymerau, Llanbedr ger Harlech a Siân Owen ydy’r hen fenyw mewn gwisg Gymreig draddodiadol sy’n ganolog i’r paentiad. Mae’r paentiad yn un o ddau fersiwn a baentiwyd gan Vosper. Prynwyd y fersiwn cyntaf yn wreiddiol gan ddiwydiannwr o’r enw William Hesketh Lever a defnyddiwyd y ddelwedd mewn ymgyrch hyrwyddo eang gan Sunlight Soap, cwmni Lever Brothers. O ganlyniad, lledaenwyd atgynhyrchiadau o’r llun ledled Prydain a chafodd ei arddangos mewn cartrefi ar hyd a lled Cymru. Mae’r ddelwedd yn enwog am iddi ddod yn symbol o dduwioldeb y dyn cyffredin, a datblygodd stori foesegol chwedlonol o’i hamgylch. Cafodd yr ail fersiwn hwn – sy’n perthyn i Lyfrgell Genedlaethol Cymru – ei beintio ar gyfer brawd-yng-nghyfraith yr artist, Frank James. Yn ystod yr ugeinfed ganrif, gyda bomio, llosgi tai haf a’r mudiad iaith yn gefnlen, fe'i trawsnewidwyd a chael ei ailgyflwyno gan actifyddion fel arwydd o waseidd-dra trefedigaethol ac o fod yn wleidyddol ddof.
**This press release is also available in English**
--DIWEDD--
Gwybodaeth Bellach:
Nia Wyn Dafydd
nia.dafydd@llgc.org.uk