Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd Llyfrgell, Oriel a Chanolfan Gwybodaeth i Ymwelwyr Glan-yr-afon yn Hwlffordd yn croesawu arddangosfa arbennig iawn y gwanwyn hwn, yn rhan o daith y 'Masterpiece Tour' gan The National Gallery, wedi'i noddi gan Christie's.
Mae cyfres gyffrous o ddigwyddiadau a gweithgareddau’n cael eu cynllunio i gefnogi’r arddangosfa, gan gynnwys sgwrs arbennig ynglŷn â champwaith gan un o guraduron y National Gallery.
Ymunwch â Laura Llewellyn, Curadur Cyswllt y National Gallery, i drafod Hélène Rouart in her Father’s Study gan Edgar Degas ac archwilio gyda ni hanes y paentiad, y technegau a ddefnyddiwyd, y gwrthrych a’r artist ei hun.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal Ddydd Sadwrn 14 Mai 2022, am 11am, yn Oriel Glan-yr-afon, Hwlffordd. Digwyddiad Saesneg yw hwn a bydd yn rhaid neilltuo lle gan fod niferoedd yn gyfyngedig. I neilltuo lle, gweler tudalen docynnau Oriel Glan-yr-afon.
Hélène Rouart in her Father’s Study yw’r brif eitem yn yr arddangosfa sydd wedi ei dwyn ynghyd o’r Casgliad Portreadau Cenedlaethol a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac a fydd yn cael ei chynnal yn Oriel Glan-yr-afon, Hwlffordd. Bydd yr arddangosfa ar agor o 14 Mai – 3 Medi 2022 a bydd yn cael ei chynnal ochr yn ochr â’r arddangosfa bresennol Sir Benfro: Gorffennol a Phresennol.
Am ragor o wybodaeth am yr arddangosfa neu Oriel Glan-yr-afon ei hun, ewch i wefan Glan-yr-afon, eu tudalen Facebook neu cysylltwch â Llyfrgell Glan-yr-afon ar 01437 775244.
Mae Glan-yr-afon yn ganolfan ddiwylliannol flaenllaw yng nghanol Hwlffordd, Sir Benfro. Fe’i hagorwyd ym mis Rhagfyr 2018 ac mae’n cynnwys llyfrgell sy’n addas i’r 21ain ganrif, canolfan gwybodaeth i ymwelwyr, siop goffi ac a gofod ar gyfer oriel sy’n arddangos casgliadau o Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. Mae’r cyfleuster ansawdd uchel yma yn anarferol ac yn arloesol, ac mae eisoes yn gwneud cyfraniad allweddol at adfywio’r dref ac ardal ehangach Sir Benfro.
**This press release is also available in English**
--DIWEDD--
Gwybodaeth Bellach:
Nia Wyn Dafydd
nia.dafydd@llgc.org.uk