Symud i'r prif gynnwys

22.11.2022

Mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi agor ystafell arbennig i’r cyhoedd sy’n cynnig lle i bobl weithio, darllen ac ymlacio fel rhan o rwydwaith Mannau Croeso Cynnes Cyngor Ceredigion a CAVO.

Mae’r ystafell, sy’n cynnig mynediad i’r we yn rhad ac am ddim, yn ddelfrydol ar gyfer pobl sydd ddim yn dymuno gweithio gartref neu eisiau cwmni a lleoliad gwahanol i gymdeithasu a chadw’n gynnes.

Mae’r ystafell hon yn un o nifer o leoliadau o gwmpas y Llyfrgell Genedlaethol sy’n cynnig croeso cynnes yn rhad ac am ddim. I blant bach a’u teuluoedd mae’r Ardal Chwarae newydd yn ddelfrydol i dreulio bore neu brynhawn.

Mae yma hefyd nifer o arddangosfeydd diddorol yn ein gofodau arddangos, sy’n amrywio o edrych ar hanes pêl-droed Cymru i wyddor o eitemau cymysg o gasgliadau’r Llyfrgell - ac mae mynediad i’r cyfan yn rhad ac am ddim. Mae ein rhaglen digwyddiadau yn cynnig awr neu ddwy o ddifyrrwch mewn gofod clyd neu mae’n bosib crwydro’r ardaloedd cyhoeddus am ychydig i fwynhau’r adeilad.

Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Ymgysylltu a Phartneriaethau Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Ry'n ni'n falch iawn o gyd-weithio gyda Mannau Cynnes Cyngor Ceredigion i gynnig stafell arbennig yn y Llyfrgell i bawb gael ei defnyddio i weithio neu ymlacio. Mae'r Llyfrgell bob amser yn cynnig Croeso Cynnes i Bawb - ond mae'n bwysicach fyth ein bod yn gwneud ar hyn o bryd wrth i nifer o bobl a theuluoedd wynebu cyfnod caled. Mae digon i'w fwynhau yma o'r arddangosfeydd i'r Ardal Chwarae ac mae'n gyfle i gael sgwrs a chymdeithasu, felly galwch draw i brofi'n croeso cynnes.”

** This press release is also available in English**

--DIWEDD--

Gwybodaeth Bellach:

post@llyfrgell.cymru