Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru’n cael ei goleuo’n las ar 1 Gorffennaf 2022 fel rhan o ymgyrch genedlaethol Go Blue for Meso, i godi ymwybyddiaeth am gancr asbestos, Mesothelioma, a pheryglon asbestos.
Mae hyn yn rhan o ymgyrch ehangach – Action Mesothelioma Day – pan fydd adeiladau a chartrefi ar hyd a lled y DU yn cael eu goleuo’n las er mwyn tynnu sylw at Mesothelioma, clefyd sy’n haeddu llawer mwy o sylw gan fod asbestos yn parhau i fod efo ni:
Mae’r ymgyrch hon, sydd wedi’i threfnu gan unigolion sydd wedi’u heffeithio gan Mesothelioma, yn defnyddio’r weithred o oleuo tŷ neu adeilad nodedig mewn pentref, tref neu ddinas fel modd i godi ymwybyddiaeth, i gofio anwyliaid sydd, yn drist iawn, wedi marw yn sgil y clefyd ac i gydnabod y rhai sy’n byw gyda’r math yma o gancr ar hyn o bryd.
Dywedodd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Mae’r Llyfrgell yn falch o gefnogi nifer o achosion, gan gynnwys yr ymgyrch bwysig hon i godi ymwybyddiaeth o Mesothelioma. Eleni, rydym am ddangos i’r byd bod gwir angen tynnu sylw at y cancr anodd yma sydd wedi cael effaith ar gymaint o fywydau. Trwy oleuo’r Llyfrgell yn las ar Ddiwrnod Gweithredu yn erbyn Mesothelioma byddwn yn cyfrannu at dynnu sylw at glefyd na ŵyr llawer o bobl amdano.”
Mae’r ymgyrch #GoBlueForMeso yn rhan o ymgyrch ActionMeso Cynghrair Mesothelioma y DU, sy’n dod â chymdeithas Mesothelioma ynghyd gydag un llais.
I gymryd rhan yn Go Blue for Meso, neu i ddarganfod mwy am yr ymgyrch ewch i: www.actionmeso.org/goblue
Am Mesothelioma
Mae Mesothelioma yn fath o gancr sydd yn gysylltiedig ag asbestos. Mae unigolion yn gallu anadlu neu amlyncu ffeibrau, sydd wedyn yn mewnblannu yn leinin organau yn y corff. Dros amser mae’r ffeibrau hyn yn achosi poen a chreithiau, sydd wedyn yn gallu achosi mwtaniad yn y celloedd a chancr. Mae symptomau Mesothelioma yn gallu cymryd rhwng 10 a 50 mlynedd i ddatblygu, fodd bynnag, mae mwy a mwy o bobl ifanc yn ei ddatblygu, gyda mwy o ferched ifanc yn arbennig yn cael diagnosis.
**This press release is also available in English**
--DIWEDD--
Gwybodaeth bellach:
Nia Dafydd
nia.dafydd@llgc.org.uk or 01970 632871