Symud i'r prif gynnwys

19.06.2024

Ar Ddydd Mercher 12 Mehefin 2024, cafodd disgyblion Ysgol Gynradd Penmachno ac Ysgol Gynradd Llanddoged profiad arbennig o weld Beibl William Morgan (1588), ochr yn ochr â phortread gan Keith Bowen o’r Esgob.

Yn brosiect ar y cyd rhwng yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Gwasanaeth Addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru roedd y digwyddiad yn rhan o flaenoriaethau'r Llyfrgell i fynd â champweithiau i ysgolion. Deilliodd hyn yn wreiddiol o waith y Llyfrgell ar gyfer cynllun Campweithiau Mewn Ysgolion - cynllun gan Art UK i ddod â phlant wyneb yn wyneb â gweithiau celf hynod ac eiconig y tu mewn i'w hystafell ddosbarth, gan chwalu rhai rhwystrau traddodiadol sy’n codi wrth ddod i gysylltiad â chelf.

Roedd y digwyddiad eleni yn ddathliad o gamp Esgob William Morgan wrth gyfieithu a chyhoeddi’r Beibl Cymraeg cyntaf yn 1588. Camp sy'n cael ei gydnabod fel un a wnaeth achub yr iaith Gymraeg. Aeth y ddau drysor i’r ysgolion a chafodd disgyblion y cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai gan dîm Gwasanaeth Addysg y Llyfrgell.

Meddai’r Dr Rhodri Llwyd Morgan, Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Rwy’n falch dros ben fod y Llyfrgell yn cydweithio gydag ysgolion cynradd Penmachno a Llanddoged.  Mae tîm addysg y Llyfrgell yn gwneud gwaith gwych yn darparu profiadau sy’n ateb gofynion y cwricwlwm drwy ddefnyddio trysorau’r Llyfrgell.  Ac mae hwn yn brosiect sy’n mynd i galon ein cenhadaeth i ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol i ddysgu ac i greu drwy fynd allan i’r cymunedau hynny a rhannu cyfoeth ein diwylliant sydd â gwreiddiau dwfn yn eu bro.”

Meddai Lois Jones, Uwch Swyddog Rhaglennu a Phartneriaethau gydag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru:
"Rydym yn hynod o falch o gyd weithio gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar eu cynllun Campweithiau mewn Ysgolion.  Mae cynnwys pobl ifanc yn ein gwaith yn Nhŷ Mawr Wybrnant yn flaenoriaeth i ni.  
“Trwy gyd weithio gyda’r llyfrgell ar y cynllun yma, rydym wedi gallu cynnig pecyn o brofiadau i’r plant fydd yn atgyfnerthu perthynas y gymuned leol gyda Thŷ Mawr a stori William Morgan."

Meddai Elliw Roberts, Pennaeth Ysgol Gynradd Penmachno:
“Braint a phrofiad byth gofiadwy i ddisgyblion, staff a Llywodraethwyr Ysgol Penmachno oedd cael croesawu Beibl 1588, ynghyd â phortread o Esgob William Morgan, i'r ysgol am ddiwrnod. Roedd yn achlysur anhygoel, ac yn sicr un bydd yn cael ei drysori yma yn Ysgol Penmachno am flynyddoedd i ddod.”
 
Ar Ddydd Gwener 12 Gorffennaf, bydd y ddwy ysgol yn cael cyfle i ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, i weld ble mae’r ddwy eitem yn cael eu cadw’n ddiogel, a dysgu mwy am y casgliadau cenedlaethol.

Fel rhan o'r prosiect hefyd bydd y plant yn ymweld â hen gartref genedigol William Morgan, Tŷ Mawr Wybrnant, sydd yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, er mwyn cyfarwyddo â chynefin William Morgan pan yn blentyn ifanc, a’r hyn a’i ysbrydolodd i ddysgu.

Yn ogystal, mae’r ysgolion hefyd yn trefnu diwrnod o weithdai celf, pan fydd artist Eleri Jones yn ymweld â’r ysgolion i hyfforddi’r disgyblion ar sut i baentio portreadau.

Mae gwaith y Llyfrgell o fynd â champweithiau i ysgolion yn rhan o strategaeth i estyn allan i gymunedau ar draws Cymru a chefnogi cyfranogiad mewn gweithgareddau diwylliannol, addysgol a chelfyddydol ar gyfer plant a phobl ifanc.

Mae’r sesiynau yn hwyluso’r ysgol i alinio gyda chanllawiau'r Cwricwlwm i Gymru, trwy gefnogi Meysydd Dysgu a Phrofiad Y Dyniaethau, a’r Celfyddydau Mynegiannol, yn ogystal â chyflwyno deunydd sy’n berthnasol i gynefin y disgyblion.

--Diwedd--
** This press release is also available in English **

Cyswllt cyfryngau Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Rhodri ap Dyfrig, Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd,  
rhodri.apdyfrig@llyfrgell.cymru / 07521 761762

Am Lyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Llyfrgell i Gymru a’r byd. Wedi ei lleoli yn Aberystwyth, mae’n gartref i stori Cymru.

Wedi ei hagor yn 1907, mae’r Llyfrgell yn ganolbwynt ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth Cymru a’r gwledydd Celtaidd.

Pwrpas y Llyfrgell yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth yn hygyrch i bawb allu dysgu, ymchwilio a mwynhau.

Rydym yn llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu fod gennym hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon, ond mae ein casgliadau hefyd yn cynnwys y canlynol:

  • 7,000,000 troedfedd o ffilm
  • 250,000 awr o fideo
  • 6,000,000 o lyfrau a phapurau newydd
  • 40,000 llawysgrif
  • 1,500,000 map
  • 150,000 awr o sain
  • 950,000 ffotograff
  • 60,000 gwaith celf
  • 1,900 metr ciwb o archifau

Gallwch chwilio'r casgliadau ar-lein. Cewch wybodaeth bellach ynghyd â rhestr o adnoddau ar ein gwefan.

Am Wasanaeth Addysg LlGC
Sefydlwyd Gwasanaeth Addysg LLGC yn 2002. Ei brif waith yw:

  • Cyflwyno rhaglen o weithgareddau addysgol o safon uchel sy’n hyrwyddo Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r casgliad cenedlaethol drwy’r cwricwlwm ysgol.
  • Cynyddu ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc o hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru.
  • Hwyluso mynediad at wybodaeth i’r rhai mewn addysg ac addysgwyr, a’u cynorthwyo i gael y gorau o’n casgliadau drwy ddehongli gwybodaeth sydd yn y casgliad cenedlaethol.
  • Cynyddu presenoldeb y Llyfrgell, ac ymwybyddiaeth o’r sefydliad a’r gwaith mae’n gwneud, ar draws Cymru.
  • Cynorthwyo Llyfrgell Genedlaethol Cymru i gyflawni blaenoriaethau strategol Llyfrgell i Gymru a'r Byd cynllun strategol Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 2021 - 2026.
  • Cynhyrchu adnoddau dysgu digidol o safon uchel sy’n cynorthwyo athrawon i gyflwyno’r cwricwlwm yng Nghymru, a chyhoeddi’r rhain ar Hwb.
  • Rheoli prosiectau amrywiol sy’n cynnig mynediad at y casgliadau i blant, pobl ifanc ac oedolion.
  • Cyfrannu at gefnogi agenda cynhwysiad cymdeithasol a lleihau anghydraddoldeb Llywodraeth Cymru drwy weithio mewn ardaloedd difreintiedig.

Ers 2007 mae gwasanaeth Addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi bod yn cyflwyno casgliadau’r Llyfrgell mewn ardaloedd ar draws Cymru fel rhan o’i rhaglen estyn allan. Caiff y prosiectau hyn eu cynllunio a’u cyflwyno mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, ysgolion a sefydliadau eraill, a’u teilwra i ateb anghenion y defnyddwyr, yn ogystal ag ateb gofynion y cwricwlwm o ran cynnwys a sgiliau.

Am Gampweithiau Mewn Ysgolion
Yn 2013 lansiodd Art UK prosiect Campweithiau mewn Ysgolion gyda'r nod o ddod â phlant wyneb yn wyneb â gweithiau celf hynod ac eiconig y tu mewn i'w hystafell ddosbarth, gan chwalu rhai rhwystrau traddodiadol sy’n codi wrth ddod i gysylltiad â chelf. O ganlyniad, benthycwyd ystod o gampweithiau i ysgolion gan artistiaid enwog, er enghraifft L. S. Lowry, Monet a Turner.

Yn dilyn llwyddiant y cynllun, cyhoeddodd Art UK y byddai Campweithiau mewn Ysgolion yn dychwelyd yn 2018, fel rhan o'r prosiect cerfluniau - y prosiect dogfenni cerfluniau mwyaf erioed a gynhaliwyd yn y DU hyd yma. Unwaith eto, bydd gweithiau celf yn teithio allan o stiwdios artistiaid, amgueddfeydd ac orielau’r genedl, ac i mewn i ysgolion. Mae'r fenter hefyd yn hwyluso’r broses o adeiladu perthynas rhwng ysgolion a chasgliadau sy’n arwyddocaol i’w hardal.

Gwneir rhaglen Campweithiau mewn Ysgolion yn bosibl diolch i grantiau hael gan Sefydliad Stavros Niarchos a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Am Feibl Cymraeg 1588
Ym 1588 cafodd y cyfieithiad Cymraeg cyntaf o'r Beibl cyfan gan gynnwys yr Apocryffa ei gyhoeddi.  Roedd yn waith i William Morgan (1545-1604) gŵr oedd wedi’i eni ym Mhenmachno, Conwy ac oedd wedi graddio o Goleg Ieuan Sant yng Nghaergrawnt. Cafodd y gyfrol ffolio hon ei hargraffu mewn llythyren ddu gan ddirprwyon Christopher Barker, Argraffydd i'r Frenhines. Y bwriad oedd i'w defnyddio mewn eglwysi yn hytrach nag yn y cartref.

Erbyn canol y 16eg ganrif roedd nifer o ffactorau yn peryglu dyfodol yr iaith Gymraeg, ac ymddangosai'n debygol y byddai'r iaith yn dirywio i fod yn gasgliad o dafodieithoedd dirmygedig ac, ymhen amser, yn marw

Diolch i ymdrechion grŵp o ysgolheigion Cymreig llawn brwdfrydedd dros ddysg ddyneiddiol y Dadeni, nid felly y bu. Protestaniaid oedd y rhan fwyaf ohonyn nhw, wedi eu tanio gan sêl Brotestannaidd dros geisio sicrhau fod yr Ysgrythurau ar gael i bawb. Llwyddasant i raddau helaeth i droi'r freuddwyd yn ffaith drwy eu geiriaduron, eu gramadegau a'u cyfieithiadau o'r Ysgrythurau, a Beibl William Morgan oedd y pwysicaf o'r cyfieithiadau hyn.

Cyfieithodd William Morgan y Beibl i’r Gymraeg gan addasu Testament Newydd William Salesbury a thrwy gyfieithu’r testunau Hebraeg a Groeg gwreiddiol gan wneud defnydd hefyd o fersiynau Saesneg yr Esgobion a Genefa. Bu i ymdrechion William Morgan gyflwyno’r Ysgrythurau i genedl a oedd, i raddau helaeth, yn uniaith Gymraeg. Cafodd ei ddiwygio yn 1620, ond gyda dim ond ychydig newidiadau yn yr orgraff, dyma’r fersiwn a gafodd ei ddefnyddio yn gyffredinol hyd at flynyddoedd olaf yr ugeinfed ganrif.

Dyma'r llyfr Cymraeg mwyaf dylanwadol gan ei fod yn waith o gryn arwyddocâd ieithyddol a llenyddol. Camp William Morgan oedd creu cyfieithiad a oedd yn gwbl ffyddlon i'r gwreiddiol a hynny yn iaith lenyddol y beirdd sy’n gyfarwydd i ni heddiw. Mewn gair, dyma'r gyfrol a fu'n sail i lenyddiaeth Gymraeg y cyfnod modern.