Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
“So much for the past. No patron, no critic, therefore no painter, no sculptor, no Welsh Art. It is as simple as that.”
Dr Llewelyn Wyn Griffith, 1950
Ers yr 1980au mae’r hanesydd celf a churadur yr arddangosfa, Peter Lord, wedi bod yn archwilio'r myth bod 'dim celf Gymreig' gan ddarganfod a chofnodi hanes celf ac artistiaid Cymreig. Ar Ddydd Sadwrn 16 Tachwedd 2024, bydd arddangosfa newydd yn agor yn Oriel Gregynog yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, fydd yn cyfuno ei gasgliad helaeth ag eitemau o’r Casgliad Celf Genedlaethol yn y Llyfrgell am y tro cyntaf er mwyn adrodd y stori bwysig hon.
Mae casgliad Peter Lord o ddarluniau ac arteffactau Cymreig, nifer ohonynt i’w gweld yn gyhoeddus am y tro cyntaf erioed, yn edrych ar yr honiad a wnaed gan Griffith yn 1950, ac a gadarnhawyd gan sawl un arall ers hynny. Ei gred yw y dylai lluniau gael eu gwerthfawrogi nid yn unig yn weledol ond am yr hyn maen nhw'n ei ddweud am stori'r genedl.
Mae’r arddangosfa'n gyfle prin i fwynhau a gwerthfawrogi dros 250 o weithiau celf o arwyddocâd cenedlaethol. Gyda naratif canolog yn rhedeg trwyddi, mae’r arddangosfa yn dechrau gyda byd gweledol y bonedd, y dosbarth canol a phobl gyffredin Cymru a symud ymlaen wedyn at bortreadau gwahanol o hunaniaethau Cymreig. Trwy hyn, mae’n datgelu stori am gyfoeth diwylliant gweledol Cymru yn ogystal â hanes cymdeithasol a gwleidyddol Cymru.
Meddai Rhodri Llwyd Morgan, Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Mae’r arddangosfa newydd hon sydd wedi ei chreu gan Peter Lord yn cynnig profiad cyfoethog tu hwnt sy’n llawn straeon difyr a themâu amserol am ein perthynas gyda chelf weledol. Mae gwybodaeth ddofn ac arbenigedd Peter a’r paru effeithiol rhwng ei gasgliad hynod a chasgliadau’r Llyfrgell yn addo gwledd i ymwelwyr.”
Meddai’r hanesydd celf a churadur yr arddangosfa Peter Lord:
“Yn hytrach na dilyn confensiynau estheteg hanes celf y traddodiad Seisnig, mae’r arddangosfa newydd yn ystyried fel man cychwyn perthnasedd delweddau gweledol i lwybr hanesyddol y genedl Gymreig. Wrth ddilyn y methodoleg radical hwn, mae’n datgelu adnodd diwylliannol cyfoethog nad yw wedi cael ei werthfawrogi’n llawn o’r blaen. Ond mae’r arddangosfa’n dangos nid yn unig anwiredd datganiad Dr Llewelyn Wyn Griffith, a wnaed 75 o flynyddoedd yn ôl, ond mae’n arwain i ni ystyried oblygiadau’r meddylfryd a orweddai y tu ôl iddo i’r genedl heddiw.”
Mae uchafbwyntiau’r arddangosfa yn cynnwys hunan-bortread o Edward Owen, Penrhos; llun Elizabeth Gwynne, Taliaris gan John Lewis; Hen Walia, Marquis of Anglesey gan John Roberts; Tŷ Haf gan Beca (Peter Davies); Conway Castle from the Shore gan Clara Knight a Vase of Flowers gan Gwen John.
--DIWEDD--
**This press release is also available in English**
Mae delweddau cysylltiedig ar gael i'w lawrlwytho fan hyn
Am fwy o wybodaeth a lluniau, cysylltwch â:
Rhodri ap Dyfrig, Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
rhodri.apdyfrig@llyfrgell.cymru / 07855 362206
NODIADAU I OLYGYDDION
Am Lyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn un o lyfrgelloedd mawr y byd. Wedi ei lleoli yn Aberystwyth, mae’n gartref i stori Cymru.
Wedi ei hagor yn 1907, mae’r Llyfrgell yn ganolbwynt ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth Cymru a’r gwledydd Celtaidd.
Pwrpas y Llyfrgell yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth yn hygyrch i bawb allu dysgu, ymchwilio a mwynhau.
Rydym yn llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu fod gennym hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon, ond mae ein casgliadau hefyd yn cynnwys y canlynol:
Gallwch chwilio'r casgliadau ar-lein a chewch wybodaeth bellach ynghyd â rhestr o adnoddau ar wefan y Llyfrgell.
Am y curadur Peter Lord
Cymerodd PETER LORD radd mewn Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Reading ym 1970, gan arbenigo mewn cerflunwaith. Gweithiai fel cerflunydd am bymtheg mlynedd, gan gynhyrchu gwaith stiwdio ar raddfa fach a cherfluniau cyhoeddus, megis Cofeb Hywel Dda yn yr Hendy-gwyn ar Daf. Ym 1986 trodd ei sylw at ysgrifennu am hanes celf yng Nghymru. Mae wedi cyhoeddi’n eang yn Gymraeg a Saesneg, wedi darlledu ar radio a theledu, ac wedi curadu arddangosfeydd niferus.
Ymhlith ei gyhoeddiadau mae Diwylliant Gweledol Cymru, sydd yn dehongli’r maes mewn tair cyfrol, a The Tradition, sydd yn crynhoi'r pwnc mewn un gyfrol. Yn ddiweddar, gyda’i gyd-awdur Dr Rhian Davies, cyhoeddwyd The Art of Music, sydd yn archwilio’r berthynas rhwng celfyddyd weledol a cherddoriaeth yng Nghymru. Mae ganddo gasgliad sylweddol o gelfyddyd Gymreig, sydd yn ffurfio sylfaen yr arddangosfa bresennol.