Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Ar yr 12 o Ebrill, daeth disgyblion blwyddyn 5, Ysgol Bro Helyg, Blaenau Gwent i gymryd rhan yn Archif Ddarlledu Cymru’n Cyflwyno... Gweithdy Darlledu yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Roedd y diwrnod yn llawn o heriau hwyl cynhyrchu a darlledu, a cafodd y plant ddysgu o arbenigedd y dyn camera Aled Jenkins, sydd wedi gweithio mewn dros saithdeg o wledydd yn ffilmio drama, dogfen, a materion cyfoes; ac Elin Llwyd, cyflwynydd teledu ac actores sydd hefyd yn trefnu gweithdai ar gyfer plant.
Cafodd y plant gyfle i sgriptio, cyflwyno, gweithredu camera a dysgu technegau sain – yr holl elfennau sydd yn mynd at greu rhaglenni da.
Yn ogystal roedd sesiynau yn defnyddio cyfleusterau’r Archif Darlledu fel y sgrin werdd, ymweld â’r arddangosfa ‘Ar yr Awyr’ a thaith o’r ystafell gopr, lle mae’r hen raglenni i gyd yn cael eu cadw’n saff.
Archif Ddarlledu Cymru yw'r gyntaf o'i math yn y DU, gan olrhain bron i ganrif o ddarlledu, mae'n dwyn ynghyd deunydd o gasgliadau sgrin a sain BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales, S4C a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Trwy gadw, catalogio a digideiddio'r deunydd hwn a'u cyflwyno ar wefan y gallwch ei chwilio'n llawn, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi ymrwymo i wneud y casgliad rhyfeddol hwn yn hygyrch i bawb.
Gyda dros 28,000 o ymwelwyr i Ganolfan Archif Ddarlledu Cymru yn ei flwyddyn gyntaf mae’r datblygiad wedi bod yn hynod o boblogaidd gyda chynulleidfaoedd o bob oed ac yn parhau i esblygu gyda Chorneli Clip eisoes wedi agor yn Abertawe, Caerfyrddin, Llanrwst a Chonwy a llawer mwy i ddod dros y flwyddyn nesaf. Ar ben hyn cynhaliodd y prosiect 5 digwyddiad Archif Ddarlledu Cymru’n Cyflwyno… gan ddenu dros 500 o bobl ac wedi ymgysylltu gyad chymunedau a phobl greadigol ledled y wlad.
Gwnaed prosiect Archif Ddarlledu Cymru yn bosibl trwy gyllid gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol (£4.7M), Llywodraeth Cymru (£1M) a chronfeydd preifat Llyfrgell Genedlaethol Cymru (£1M).
Dywedodd Dafydd Tudur, Pennaeth Gwasanaethau Digidol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
"Wrth i ni ddathlu blwyddyn o fynediad cyhoeddus i Archif Ddarlledu Cymru, mae'n hyfryd gweld y genhedlaeth nesaf o ddarlledwyr yn cael cyfle gyflwyno, ffilmio a sgriptio. Rydym wedi cael blwyddyn brysur gyda'r arddangosfa arloesol Ar yr Awyr yn y Llyfrgell yn profi'n boblogaidd iawn, Corneli Clip yn agor yng Nghaerfyrddin, Abertawe, Llanrwst a Chonwy, a llawer iawn o brosiectau cymunedol a digwyddiadau ledled Cymru."
Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cymru Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol:
"Mae treftadaeth yn ymwneud â sut mae'r gorffennol yn cael ei werthfawrogi a'i gadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Drwy ddod â chanrif o deledu a radio ynghyd ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd gyda'r casgliad yn bersonol ac yn ddigidol, mae prosiect Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi sicrhau bod eiliadau eiconig o hanes a diwylliant Cymru yr 20fed ganrif yn hygyrch ac yn cael eu cadw'n ddiogel ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rydym yn dymuno pob llwyddiant iddynt yn y blynyddoedd i ddwâd”