Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd gweithgaredd y Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn llawn dop o hwyl i’r teulu, arddangosfeydd am y fro, a digwyddiadau at ddant pawb.
Eleni byddwn yn dathlu Hen Wlad Fy Nhadau, anthem genedlaethol Cymru, gan bod llawysgrif wreiddiol y trysor cenedlaethol hwn wedi ei chadw’n ddiogel yn y Llyfrgell. Byddwn hefyd yn dathlu’r “enwogion o fri” a ddaeth o ardal Rhondda Cynon Taf gydag arddangosfa o anfarwolion y fro o Iris Williams i William Price.
Llofnodion enwogion oedd arfer bod y peth i’w casglu ar faes yr Eisteddfod, ond lluniau yw’r hyn rydyn ni eu heisiau. Felly dewch draw i wisgo lan fel enwogion y fro, cael llun gan ein paparazzi, a gweld pa wyneb cyfarwydd fyddwch chi drws nesa iddyn nhw ar ein wal ‘enwogion o fri’.
Ar ôl denu cannoedd yn Llŷn bydd sinema glipiau Archif Ddarlledu Cymru’n ôl eto, gydag awr o glipiau archif rhyfeddol o ardal yr Eisteddfod a’i phobl. Dewch i dynnu’r pwysau oddi ar eich traed prysur i weld clipiau fel:
Mae gennym hefyd raglen lawn o ddigwyddiadau ar ein stondin ac o amgylch y maes. Ymysg uchafbwyntiau ein digwyddiadau mae:
Ac os ydych chi’n chwilio am rywbeth i’r tŷ neu fel anrheg, bydd yna sawl eitem newydd sbon i chi yn ein siop. Print o baentiad Hywel Harries ‘Salem Revisited’ a brynodd y Llyfrgell yn ddiweddar, copi o lawysgrif wreiddiol Hen Wlad fy Nhadau mewn ffrâm, neu ddarlun eiconig o gae rygbi Heol Sardis gan Ronald Lawrence. Roedd galw mawr ar ein nwyddau Deiseb Heddwch Menywod Cymru y llynedd felly byddant ar gael eto eleni.
Blas yn unig yw hyn o’r hyn rydym yn ei gynnig ar y stondin ac ar draws y maes, felly am ragor o wybodaeth ewch i’n gwefan neu ddilyn y Llyfrgell ar gyfryngau cymdeithasol:
Gwefan: www.llyfrgell.cymru
X: https://x.com/LLGCymru
Facebook: https://www.facebook.com/llgcymrunlwales
Instagram: https://www.instagram.com/librarywales