Symud i'r prif gynnwys

16.10.2024

Bydd arddangosfa newydd sbon, sy’n dathlu gwaith y ffotonewyddiadurwr o Kenya, Mohamed Amin a’r ymatebion creadigol i’w ffotograffau yn agor yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar 19 Hydref 2024 i gydfynd â Mis Hanes Pobl Dduon.

Yn ganolog i arddangosfa Creu Newid mae detholiad o ddelweddau Mohamed Amin, o bobl ddylanwadol a fu’n arwain y daith i genedligrwydd a rhyddid, fel Nelson Mandela, Mohamed Ali a Malcolm X.

Mae’r arddangosfa hefyd yn arddangos gwaith 3 artist cyfoes – y ffotograffydd Eifftaidd Cymreig, Mo Hassan; y bardd, actor ac actifydd cymunedol Somali Cymreig Ali Goolyad; a’r artist, awdur, cyfarwyddwr a chreuwr Du Cymreig, Kyle Legall – wrth iddyn nhw ymateb yn greadigol i’r delweddau trwy gyfrwng ffotograffiaeth, barddoniaeth a phaentiad.

Cafodd y prosiect ei arwain gan Horn Development Association (HDA) a'i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru. Mae’n ceisio dangos natur newid yn yr 20fed ganrif – cyfnod o ail-lunio cyfandirol ar ôl dau Ryfel Byd, wnaeth arwain at ymfudiad pobl i Gymru i fyw a gweithio a chael noddfa, gan ddangos rôl pobl Ddu a Lleiafrifoedd Ethnig yng nghymdeithas ryngwladol a Chymreig.

Bydd yr arddangosfa yn cynnwys barddoniaeth gan Ali Goolyad, sy'n lleoli cyfraniad cymunedau `ymfudol' sydd wedi dod i Gymru yn yr 20fed ganrif; portreadau gan Mo Hassan o Gymry 'ymfudol' sy'n rhan ganolog o gymdeithas yng Nghymru; a phaentiad gan Kyle Legall, sy'n archwilio’r themau yng ngwaith Mohamed Amin.

Meddai Rhodri Llwyd Morgan, Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Mae’n fraint i arddangos detholiad o ffotograffau un o ffotograffwyr amlycaf yr 20fed Ganrif. Rwy’n croesawu hefyd y cyfle i rannu’r gweithiau newydd hyn gan Mo Hassan, Ali Goolyad a Kyle Legall, sy’n gam arall tuag at sicrhau bod ein gweithgareddau ac arddangosfeydd yn cynrychioli amrywiaeth cymdeithas a diwylliant Cymru yn llwyr.”

Meddai Jamie Baker, o Horn Development Association:

“Mae stori Cymru yn un o groeso, ac mae ei hanes a’i diwylliant sy’n datblygu’n barhaus yn adlewyrchu’r stori honno. Mae HDA a’r artistiaid a’r cymunedau dawnus rydym yn gweithio gyda nhw yn falch o fod yn rhan o genedl sy’n darparu diogelwch a chyfle, cenedl sy’n gartref i ni. Mae gweithio gyda’r Llyfrgell Genedlaethol yn ein galluogi i osod ein straeon ni ochr yn ochr â hanes ein cartref, Cymru.”

--DIWEDD--


**This press release is also available in English**
Am fwy o wybodaeth a lluniau, cysylltwch â:
Rhodri ap Dyfrig, Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
rhodri.apdyfrig@llyfrgell.cymru / 07855 362206

NODIADAU I OLYGYDDION
Am Lyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn un o lyfrgelloedd mawr y byd. Wedi ei lleoli yn Aberystwyth, mae’n gartref i stori Cymru.

Wedi ei hagor yn 1907, mae’r Llyfrgell yn ganolbwynt ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth Cymru a’r gwledydd Celtaidd.

Pwrpas y Llyfrgell yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth yn hygyrch i bawb allu dysgu, ymchwilio a mwynhau.

Rydym yn llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu fod gennym hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon, ond mae ein casgliadau hefyd yn cynnwys y canlynol:

  • 7,000,000 troedfedd o ffilm
  • 250,000 awr o fideo
  • 6,000,000 o lyfrau a phapurau newydd
  • 40,000 llawysgrif
  • 1,500,000 map
  • 150,000 awr o sain
  • 950,000 ffotograff
  • 60,000 gwaith celf
  • 1,900 metr ciwb o archifau

 
Gallwch chwilio'r casgliadau ar-lein a chewch wybodaeth bellach ynghyd â rhestr o adnoddau ar wefan y Llyfrgell.

MWY AM YR ARTISTIAID
Mohamed Amin

Roedd Mohamed Amin (1943–1993) yn ffotonewyddiadurwr o Kenya a ddaeth yn enwog am ddogfennu newyn Ethiopia ym 1984. Cafodd y lluniau yma effaith bwerus wrth ysgogi ymateb byd-eang a arweiniodd at gyngerdd eiconig Live Aid ym 1985.

Bu iddo fo hefyd greu corff sylweddol ac arloesol o waith wrth ddogfennu Affrica, Asia a’r Dwyrain Canol drwy gydol ail hanner yr ugeinfed ganrif.

Mo Hassan
Mae Mohamed Hassan yn ffotograffydd Eifftaidd Cymreig. Yn wreiddiol o Alexandria, mae wedi byw a gweithio yn Sir Benfro ers 2007, a chafodd radd anrhydedd dosbarth 1af o Ysgol Gelf Caerfyrddin. Mae ei waith wedi cael ei arddangos yn Oriel Mission, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Nova Cymru 2018, a’r National Portrait Gallery yn Llundain.

Ali Goolyad
Mae Ali Goolyad yn fardd, actor ac actifydd cymunedol Somali Cymreig. Wedi’i eni yn Hargeisa, Somaliland, ymfudodd Ali i Gymru yn 1 oed. Mae ei waith blaenorol yn cynnwys ysgrifennu a pherfformio yn De Gabay (Theatr Genedlaethol Cymru), Border Game, Storm 2, Big Democracy Project (Theatr Genedlaethol Cymru), Borderland (Radio 4), Talking Doorsteps (Roundhouse), Mattan Injustice of a Hanged Man (BBC), a Black and Welsh (BBC Wales).

Kyle Legall
Mae Kyle Legall yn artist ac yn awdur, yn gyfarwyddwr ac yn greawdwr animeiddio, ffilmiau, theatr a murluniau graffiti, Du Cymreig; mae hefyd wedi dylunio a gwneud cynnyrch dillad ei hun

Mae Kyle wedi ysgrifennu, cyfarwyddo, dylunio ac animeiddio ffilmiau ar gyfer Sianel 4 ac S4C, ac mae hefyd yn gwneud fideos cerddoriaeth a chelf clawr ar gyfer bandiau lleol. Yn 2015, Kyle oedd yr artist preswyl cyntaf i Theatr Genedlaethol Cymru.