Symud i'r prif gynnwys

06.12.2024


Mae’n bleser gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru gyhoeddi penodiad pedwar unigolyn nodedig i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr. Mae'r penodiadau hyn yn gam sylweddol ymlaen at gryfhau arweinyddiaeth y Llyfrgell a sicrhau ei llwyddiant parhaus wrth gasglu, cadw a rhoi mynediad i dreftadaeth ddiwylliannol Cymru.

Yn dechrau eu tymhorau ar 1 Ionawr 2025 mae:

  • Heledd Bebb – Mae Heledd yn gydberchennog a Chyfarwyddwr OB3 Research, sef cwmni ymgynghori uchel ei pharch sydd wedi’i lleoli yng Nghymru. Yno, mae’n arwain gwasanaethau ymchwil, gwerthuso a chynghori sy’n llywio datblygiad polisi cyhoeddus ar draws sectorau amrywiol megis addysg, iechyd, diwylliant a'r economi.
  • Michael Gibbon K.C. – Mae Michael yn bennaeth set o siambrau bargyfreithwyr yn Llundain, ac yn feinciwr yn Lincoln’s Inn. Mae ganddo brofiad helaeth ymgyfreitha a rhoi cyngor cyfreithiol ym meysydd masnachol; cwmnïau; elusennau; gwasanaethau ariannol; ansolfedd ac ailstrwythuro; treth; ac ymddiriedolaethau.
  • Dr. Mohini Gupta – Graddiodd Mohini o Brifysgol Delhi gyda BA (Anrh) mewn Saesneg, ac ymgymerodd ag MA mewn Astudiaethau Diwylliannol ym Mhrifysgol SOAS Llundain. Wedi hynny enillodd ei DPhil mewn Astudiaethau Asiaidd a Dwyrain Canol o Brifysgol Rhydychen. Ar hyn o bryd mae'n gweithio fel Cyd-Gynullydd Addysg De Asia, ond bydd yn dechrau yn ei swydd fel Cymrawd Ôl-ddoethurol yn Ysgol Addysg Denmarc, Prifysgol Aarhus ym mis Ionawr 2025.

Yn ymuno â’r Bwrdd ar 1 Mai 2025 bydd:

  • Yr Athro Andrew Prescott – Mae'r Athro Andrew Prescott yn hanesydd ac yn arbenigwr dyniaethau digidol ym Mhrifysgol Glasgow. Bu gynt yn Gymrawd Arweinydd Thema AHRC ar gyfer Trawsnewidiadau Digidol. Bu hefyd yn Lyfrgellydd ym Mhrifysgol Llanbedr Pont Steffan rhwng 2007 a 2010. Mae wedi cyhoeddi'n eang ar hanes archifau a llyfrgelloedd, hanes cymdeithasol a dyniaethau digidol.


Dywedodd Rhodri Llwyd Morgan, Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Mae’r penodiadau hyn yn gam pwysig ymlaen wrth i ni weithio ar gynllun strategol newydd y Llyfrgell a fydd yn llywio ein gwaith am y blynyddoedd i ddod. Bydd eu profiad a’u harbenigedd dwfn yn gaffaeliad mawr, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw.”

Meddai Ashok Ahir, Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Mae’n bleser gweld grŵp o unigolion mor dalentog yn ymuno gyda Bwrdd Ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Bydd eu sgiliau amrywiol a’u diddordebau yn fudd mawr i’n trafodion a’n penderfyniadau, wrth i ni siapio ffocws strategol gweithgareddau’r Llyfrgell dros y pum mlynedd nesaf.”

Diwedd


** This press release is also available in English **

Am fwy o wybodaeth, ceisiadau cyfweliad neu gynigion cyfryngau cysylltwch â:

Rhodri ap Dyfrig, Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

rhodri.apdyfrig@llyfrgell.cymru / 07521 761762

 

NODIADAU I OLYGYDDION

Am Lyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Llyfrgell i Gymru a’r byd. Wedi ei lleoli yn Aberystwyth, mae’n gartref i stori Cymru.

Wedi ei hagor yn 1907, mae’r Llyfrgell yn ganolbwynt ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth Cymru a’r gwledydd Celtaidd.

Pwrpas y Llyfrgell yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth yn hygyrch i bawb allu dysgu, ymchwilio a mwynhau.

Rydym yn llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu fod gennym hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon, ond mae ein casgliadau hefyd yn cynnwys y canlynol

  • 7,000,000 troedfedd o ffilm
  • 250,000 awr o fideo
  • 7,000,000 o lyfrau a phapurau newydd
  • 40,000 llawysgrif
  • 1,500,000 map
  • 150,000 awr o sain
  • 950,000 ffotograff
  • 60,000 gwaith celf
  • 1,900 metr ciwb o archifau


Cewch wybodaeth bellach ynghyd â rhestr o adnoddau ar: www.llyfrgell.cymru

 

Bywgraffiadau Estynedig

Heledd Bebb

Mae Heledd yn gyd-berchennog ac yn Gyfarwyddwr ar gwmni Ymchwil OB3, ymgynghoriaeth blaenllaw yng Nghymru, lle mae'n arwain gwasanaethau ymchwil, gwerthuso a chynghori sy'n llywio datblygiad polisi cyhoeddus ar draws sectorau amrywiol megis addysg, iechyd, diwylliant ac economi.

Mae Heledd hefyd yn gyn uwch-ddarlithydd Busnes a Rheolaeth ac arweiniodd ddarpariaeth addysg uwch cyfrwng Cymraeg arloesol yn y pwnc. Mae wedi gwasanaethu fel ymddiriedolwr Eisteddfod Genedlaethol Cymru ac roedd yn aelod ar nifer o fyrddau cynghori'r llywodraeth, fel ymgynghorydd polisi hamdden a diwylliant yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Graddiodd o Brifysgol Aberystwyth gyda BA (Anrh) mewn Cymraeg ac MSc (Econ) mewn Entrepreneuriaeth.

Dr. Mohini Gupta

Graddiodd Mohini o Brifysgol Delhi gyda gradd BA (Anrhydedd), ac yna dilyn MA mewn Astudiaethau Diwylliannol yn SOAS Prifysgol Llundain. Yn dilyn hynny, enillodd radd DPhil mewn Astudiaethau Asiaidd a Dwyrain Canol o Brifysgol Rhydychen. Ar hyn o bryd mae’n gweithio fel Cyd-Gynullydd i Addysg De Asia, ond bydd yn ymgymryd â rôl Cymrawd Ôl Ddoethuriaeth yn Ysgol Addysg Danaidd, Prifysgol Aarhus ym mis Ionawr 2025. Mae Mohini hefyd yn aelod o Fwrdd Rheoli Rhaglen Ysgolheigion Vedica i Ferched (New Delhi).

Mae Mohini yn gefnogwr brwd a lleisiol o ddiwylliant a’r iaith Gymraeg ar blatfformau cyhoeddus, ac wedi bod yn siaradwraig wadd mewn sawl ysgol a phrifysgol ar draws Cymru, and yn siaradwr Cymraeg rheolaidd ar wleidyddiaeth a diwylliant Indiaidd ar BBC Radio Cymru a S4C.

Mae Mohini wedi cyhoeddi nifer o erthyglau ac adolygiadau, ac yn 2023, roedd yn gyd-olygydd The Hindu Bard: The Poetry of Dorothy Bonarjee, ac yn gyd-ddetholwraig Many Roads: Women’s Personal Stories of Courage and Displacement in Wales yn 2024; lansiwyd y ddwy gyfrol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Mae Mohini yn medru siarad Saesneg, Hindi, Urdu, Sbaeneg a Chymraeg.

MICHAEL GIBBON K.C.

Mae Michael yn bennaeth ar set o siambrau bargyfreithwyr yn Llundain, ac ar fainc Lincoln’s Inn. Roedd ei rieni yn dod o Forgannwg, ac mae ganddo gysylltiadau teuluol gyda Gorllewin

Cymru a Chanolbarth Cymru. Hanes Modern oedd pwnc ei astudiaethau israddedig, ac yna dilynodd radd meistr mewn Perthnasau Rhyngwladol. Roedd Michael yn ysgolhaig corawl tra yn y Brifysgol, ac mae’n parhau i ymddiddori mewn cerddoriaeth, yn enwedig canu. Ar ôl cyfnod byr ym myd cyllid, hyfforddodd fel bargyfreithiwr. Dechreuodd ymarfer yn 1995 ac fe’i hapwyntiwyd yn QC (nawr KC) yn 2011. Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn hanes canoloesol hwyr a hanes modern cynnar Canolbarth Cymru, ac mae wedi cyhoeddi nifer o erthyglau ar y pynciau. Mae’n aelod o Gyngor Cymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion ers 2016, ac yn gyn Llywydd y Montgomeryshire Society. Mae’n rhannu ei amser rhwng canol Llundain a chanolbarth Cymru, ble mae’i wraig yn rhannu cyfrifoldeb am redeg y fferm deuluol.

Yr Athro Andrew Prescott

Mae’r Athro Andrew Prescott yn hanesydd ac arbenigwr yn y dyniaethau digidol ym Mhrifysgol Glasgow. Cyn hynny roedd yn Arweinydd Gymrawd Themau AHRC ar gyfer Trawsnewidiadau Digidol. Bu hefyd yn Lyfrgellydd Prifysgol Llanbedr Pont Steffan rhwng 2007 – 2010. Mae wedi cyhoeddi’n eang ar hanes archifdai a llyfrgelloedd, hanes cymdeithasol a’r dyniaethau digidol.