Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd pobl Caerdydd nawr yn cael mynediad i gannoedd o filoedd o raglenni radio a theledu o archifau BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales ac S4C ar garreg eu drws diolch i Clip Corners newydd sydd bellach ar agor yn Llyfrgell Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd yn ogystal ag Archifau Morgannwg. Mae gan y Corneli Clip derfynellau cyfrifiaduron mewn mannau cyfforddus lle gall unrhyw un ddod i weld a gwrando ar yr amrywiaeth o raglenni sydd ar gael.
Archif Ddarlledu Cymru yw'r gyntaf o'i math yn y DU, gan olrhain bron i ganrif o ddarlledu. Mae'n tynnu deunydd at ei gilydd o gasgliadau sgrin a sain BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales, S4C a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Trwy gadw, catalogio a digideiddio'r deunydd hwn a'u cyflwyno ar wefan y gallwch ei chwilio'n llawn, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi ymrwymo i wneud y casgliad rhyfeddol hwn yn hygyrch i bawb.
Bydd sefydlu'r Corneli Clip hyn yn sicrhau y bydd cymunedau y tu hwnt i'r Llyfrgell Genedlaethol ei hun yn Aberystwyth yn gallu gweld yr archif gyfan yn eu hardal leol. Mae gwaith ymgysylltu eisoes wedi dechrau gyda grwpiau ledled Cymru, ac mae'r Corneli Clip yn darparu lle i weithio gyda grwpiau cymunedol i archwilio a dod â'r archif yn fyw.
Fel rhan o'r prosiect hwn, bydd casgliad amrywiol o 1,500 o glipiau hefyd yn cael eu curadu a'u darparu i unrhyw un eu gweld ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol.
Gwnaed prosiect Archif Ddarlledu Cymru yn bosibl trwy gyllid gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol (£4.7M), Llywodraeth Cymru (£1M) a chronfeydd preifat Llyfrgell Genedlaethol Cymru (£1M).
Dywedodd Rhodri Llwyd Morgan, Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Diolch i Brifysgol Caerdydd ac Archifau Morgannwg am weithio gyda ni i greu’r adnoddau newydd yma. Rydym fel Llyfrgell yn ymroddedig i greu cyswllt agosach â chymunedau Cymru ac i roi mynediad i bobl i’n casgliadau mewn ffyrdd arloesol. Bydd y Glip Corner hwn yn golygu y byddwn yn adeiladu ar y gwaith ymgysylltu sydd eisoes wedi bod yn digwydd gyda grwpiau lleol yng Nghaerdydd er mwyn dod â phobl yn nes at eu treftadaeth radio a theledu."
Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru:
"Mae darlledu wedi chwarae rhan bwysig yn dogfennu hanes y Gymru fodern - o adroddiadau newyddion torcalonnus o'r lleoliad trychineb Aberfan; i ddarlithoedd ysbrydoledig fel Tynged yr Iaith gan Saunders Lewis, darllediad cyntaf S4C yn 1982 a llwyddianau ac isafbwyntiau tîm pêl-droed Cymru yn yr Euros yn 2016 a Chwpan y Byd yn 2022.
"Mae hefyd wedi ein galluogi i edrych yn ôl a dysgu am ein treftadaeth drwy raglenni fel The Dragon Has Two Tongues: A History of the Welsh yn 1985 ac mae wedi rhoi Cymru ar y map gyda chyfresi poblogaidd fel Doctor Who, Keeping Faith a Hinterland.
"Ein braint yw cefnogi'r prosiect pwysig a blaengar hwn a fydd yn diogelu ac yn rhannu treftadaeth ddarlledu Cymru fel y gall cenedlaethau heddiw a chenedlaethau'r dyfodol werthfawrogi, mwynhau a dysgu ohono am flynyddoedd i ddod."
Diwedd
** This statement is also available in English**
Cyswllt Cyfryngau Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Rhodri ap Dyfrig, Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd
rhodri.apdyfrig@llyfrgell.cymru / 07855362206
NODIADAU AR GYFER GOLYGYDDION
Ynglŷn â'r Archif Ddarlledu Cymru
Am fwy o wybodaeth, ewch i https://clip.llyfrgell.cymru
Ynglŷn â'r Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Llyfrgell i Gymru a'r byd yw Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Wedi ei leoli yn Aberystwyth, dyma gartref stori Cymru.
Wedi'i hagor yn 1907, mae'r Llyfrgell yn ganolfan ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth Cymru a'r gwledydd Celtaidd.
Pwrpas y Llyfrgell yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth yn hygyrch
Rydym yn llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu bod gennym hawl i gael copi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon, ond mae ein casgliadau hefyd yn cynnwys y canlynol
7,000,000 troedfedd o ffilm
250,000 awr o fideo
6,000,000 o lyfrau a phapurau newydd
40,000 o lawysgrifau
1,500,000 o fapiau
150,000 awr o sain
950,000 o ffotograffau
60,000 o weithiau celf
1,900 metr ciwbig o archifau
Gallwch chwilio'r casgliadau ar-lein. Cewch ragor o wybodaeth ynghyd â rhestr o adnoddau ar: Catalogau arbenigol - Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Ynglŷn â Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru
Dilynwch @HeritageFundCYM ar Twitter, Facebook ac Instagram a defnyddiwch #NationalLotteryHeritageFund