Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd Oriel Hengwrt, sy'n dal arddangosfa Trysorau, ar gau ar Ddydd Llun 9 Medi. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Mae arddangosfa Delfryd a Diwydiant, sy'n cynnwys National Treasures: Canaletto in Aberystwyth, yn agor yn Oriel Gregynog, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth ar 10 Mai 2024.
Mae campwaith Canaletto - The Stonemason’s Yard - yn dychwelyd i Gymru fel rhan o ddathliadau pen-blwydd y National Gallery. Bydd yr arddangosfa yma yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn adrodd stori ryfeddol y darlun Canaletto, a sut y daeth i Gymru gyda thrysorau eraill fel ‘ffoadur’ yn ystod yr Ail Ryfel Byd, i’w warchod yn chwarel anferth Manod rhag y bomiau.
Mae’r benthyciad hwn ac arddangosfa ehangach Delfryd a Diwydiant yn cyd-fynd gyda phen-blwydd y National Gallery yn 200 mlwydd oed. Mae eu prosiect National Treasures yn dathlu’r achlysur arbennig yma trwy anfon deuddeg campwaith o gasgliadau’r National Gallery i amgueddfeydd ac orielau ar hyd a lled Prydain a Gogledd Iwerddon. Hon fydd yr unig gyfle i weld un o’r campweithiau hyn yng Nghymru.
Mae arddangosfa Delfryd a Diwydiant hefyd yn arddangos tirluniau Cymreig o'r Casgliad Celf Cenedlaethol gan edrych ar y cysylltiadau artistig a thematig rhwng The Stonemason’s Yard a thirwedd Cymru. Yn frodwaith cyfoethog o’r rhamantaidd a’r diwydiannol, mae ein tir wedi bod yn ffynhonnell ysbrydoliaeth i nifer o artistiaid. Bydd yr arddangosfa yn dangos gweithiau gan artistiaid clasurol fel Richard Wilson, J.M.W. Turner a Penry Williams ochr yn ochr gyda gweithiau mwy modern gan artistiaid fel Graham Sutherland, Mary Lloyd Jones ac Ernest Zobole.
Am y tro cyntaf yn y Llyfrgell, bydd yr arddangosfa’n cynnwys taith wedi ei sain-ddisgrifio ar gyfer detholiad o ddarluniau. Yn dilyn treialon llwyddiannus gyda grwpiau lleol o bobl Dall a gyda nam ar y golwg mae hyn yn ddatblygiad pellach tuag at wneud casgliadau’r Llyfrgell yn fwy hygyrch a chynhwysol.
Meddai Rhodri Llwyd Morgan, Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Mae hon yn addo bod yn arddangosfa arbennig iawn ac rydym yn hynod o ddiolchgar i fod yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r National Gallery. Mae cael un o gampweithiau Canaletto yma yn anrhydedd, ac mae arddangos y gwaith ochr yn ochr â rhai o uchafbwyntiau’r Casgliad Celf Cenedlaethol yn y Llyfrgell yn creu cyfle gwych i werthfawrogi cyfoeth ac amrywiaeth y profiad Cymreig a’r ymatebion i hynny mewn celf.”
Meddai Mari Elin Jones, Swyddog Dehongli Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Mae hi wedi bod yn fraint anhygoel i weithio gyda’r National Gallery ar yr arddangosfa hon i nodi eu pen-blwydd yn 200 oed. Mae gallu croesawu campwaith Canaletto yn ôl i Gymru wedi iddo gael lloches yma dros 80 mlynedd yn ôl yn hynod gyffrous, ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at rannu’r stori hynod hon gyda’r cyhoedd. Mae’r arddangosfa hefyd wedi bod yn ysgogiad gwych i dreiddio’n ddyfnach i’n casgliad cenedlaethol ein hunain o dirluniau Cymreig, ac rydym wrth ein bodd i fod yn arddangos bron i 100 o weithiau sy’n ymestyn dros 250 mlynedd yn oriel fawreddog Gregynog.”
Bydd yr arddangosfa ar agor yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru o 10 Mai tan 7 Medi a bydd rhaglen lawn o ddigwyddiadau cysylltiedig yn cael ei rannu ar wefan y Llyfrgell yn yr wythnosau i ddod.
--Diwedd--
** This press release is also available in English **
Cyswllt cyfryngau Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Rhodri ap Dyfrig, Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd,
rhodri.apdyfrig@llyfrgell.cymru / 07521 761762
Am Lyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Llyfrgell i Gymru a’r byd. Wedi ei lleoli yn Aberystwyth, mae’n gartref i stori Cymru.
Wedi ei hagor yn 1907, mae’r Llyfrgell yn ganolbwynt ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth Cymru a’r gwledydd Celtaidd.
Pwrpas y Llyfrgell yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth yn hygyrch i bawb allu dysgu, ymchwilio a mwynhau.
Rydym yn llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu fod gennym hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon, ond mae ein casgliadau hefyd yn cynnwys y canlynol:
Gallwch chwilio'r casgliadau ar-lein. Cewch wybodaeth bellach ynghyd â rhestr o adnoddau ar ein gwefan.
Am y National Gallery
Sefydlwyd y National Gallery ym 1824 fel casgliad celf i’r genedl. Ei nod oedd sicrhau bod paentiadau gorau traddodiad Gorllewin Ewrop ar gael i bawb. O bryniant sefydlu o ddim ond 38 o weithiau, mae casgliad y National Gallery wedi tyfu i gynnwys dros 2,400 o luniau, yn dyddio o’r 13eg ganrif i’r 20fed ganrif. Fel un o’r casgliadau cyhoeddus pwysicaf yn y byd, mae’r National Gallery yn croesawu miliynau o ymwelwyr i’w hadeilad ar Sgwâr Trafalgar bob blwyddyn ac yn cyrraedd miliynau fwy trwy ei harddangosfeydd, llwyfannau digidol a rhaglenni teithiol cenedlaethol.
Am y prosiect National Treasures
Mae’r prosiect National Treasures yn dathlu egwyddor sylfaenol y National Gallery o gydberchnogaeth yn ogystal â dathlu arbenigedd a chreadigrwydd cymunedau lleol a sefydliadau diwylliannol ar draws y DU. Bydd pob gwaith yn rhan o arddangosfeydd wedi’u curadu gan ddeuddeg lleoliad partner a fydd yn taflu goleuni ar baentiadau adnabyddus. Wrth iddynt edrych tuag at drydedd ganrif y National Gallery, trwy ddod â chynulleidfaoedd a safbwyntiau newydd i drysorau’r genedl trwy ddehongli newydd, cydweithio a chyfnewid deinamig, bydd yr arddangosfeydd hyn yn cyfoethogi ein dealltwriaeth o rym paentio.
Am y paentiad a’r artist
Wedi'i eni yn 1697 a'i fagu yn y ddinas, Canaletto oedd arlunydd Fenisaidd enwocaf ei ddydd. Cafodd ei gydnabod am ei vedute (golygfeydd), a darluniodd olau disglair Fenis, y llewyrch yn y dŵr, a’i hadeiladau gyda’u plastr brau. Yn y 1730au a'r 1740au daeth ei luniau'n hynod boblogaidd gyda Thwristiaid y Daith Fawr - roedd ei olygfeydd o Fenis yn gofrodd hanfodol i’r aristocratiaid Prydeinig hynny a oedd yn teithio trwy'r Eidal.
Mae The Stonemason’s Yard yn anarferol yng nghyd-destun holl weithiau Canaletto. Yn waith cynnar, mae’n debyg iddo gael ei baentio ar gyfer noddwr Fenisaidd, gan fod yr olygfa o fywyd bob dydd y mae’n ei ddarlunio yn wahanol i olygfeydd enwog yr artist o’r Gamlas Fawr, regatas a dyddiau gwyliau. Yn hytrach na chrandrwydd a rhodres, fe'n cyflwynir yma i bobl gyffredin. Roedd y Campo San Vidal wedi'i drawsnewid yn iard dros dro ar gyfer seiri maen, wedi'i orchuddio â blociau o gerrig, offer a phobl wrth eu gwaith. Heddiw, prin y gallwch adnabod yr ardal hon.
Canaletto, 1697-1768, The Stonemason’s Yard, about 1725
© The National Gallery, London