Symud i'r prif gynnwys

15.03.2024

Ar yr 8fed o Fawrth, daeth disgyblion blynyddoedd 5 a 6 Ysgol Henry Richard, Tregaron i ddathlu penblwydd cyntaf Archif Darlledu Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gyda digwyddiad Archif Ddarlledu Cymru’n Cyflwyno... Gweithdy Darlledu.

Roedd y diwrnod yn llawn o heriau hwyl cynhyrchu a darlledu, a cafodd y plant ddysgu o arbenigedd y dyn camera Aled Jenkins, sydd wedi gweithio mewn dros saithdeg o wledydd yn ffilmio drama, dogfen, a materion cyfoes; ac Elin Llwyd, cyflwynydd teledu ac actores sydd hefyd yn trefnu gweithdai ar gyfer plant.

Cafodd y plant gyfle i sgriptio, cyflwyno, gweithredu camera a dysgu technegau sain – yr holl elfennau sydd yn mynd at greu rhaglenni da.

Yn ogystal roedd sesiynau yn defnyddio cyfleusterau’r Archif Darlledu fel y sgrin werdd, ymweld â’r arddangosfa ‘Ar yr Awyr’ a thaith o’r ystafell gopr, lle mae’r hen raglenni i gyd yn cael eu cadw’n saff.

Archif Ddarlledu Cymru yw'r gyntaf o'i math yn y DU, gan olrhain bron i ganrif o ddarlledu, mae'n dwyn ynghyd deunydd o gasgliadau sgrin a sain BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales, S4C a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Trwy gadw, catalogio a digideiddio'r deunydd hwn a'u cyflwyno ar wefan y gallwch ei chwilio'n llawn, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi ymrwymo i wneud y casgliad rhyfeddol hwn yn hygyrch i bawb.

Gwnaed prosiect Archif Ddarlledu Cymru yn bosibl trwy gyllid gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol (£4.7M), Llywodraeth Cymru (£1M) a chronfeydd preifat Llyfrgell Genedlaethol Cymru (£1M).

Dywedodd Dafydd Tudur, Pennaeth Gwasanaethau Digidol,  Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

"Wrth i ni ddathlu blwyddyn o fynediad cyhoeddus i Archif Ddarlledu Cymru, mae'n hyfryd gweld y genhedlaeth nesaf o ddarlledwyr yn cael cyfle gyflwyno, ffilmio a sgriptio. Rydym wedi cael blwyddyn brysur gyda'r arddangosfa arloesol Ar yr Awyr yn y Llyfrgell yn profi'n boblogaidd iawn, Corneli Clip yn agor yng Nghaerfyrddin, Abertawe, Llanrwst a Chonwy, a llawer iawn o brosiectau cymunedol a digwyddiadau ledled Cymru."

Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cymru Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol:

"Mae treftadaeth yn ymwneud â sut mae'r gorffennol yn cael ei werthfawrogi a'i gadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.  Drwy ddod â chanrif o deledu a radio ynghyd ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd gyda'r casgliad yn bersonol ac yn ddigidol, mae prosiect Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi sicrhau bod eiliadau eiconig o hanes a diwylliant Cymru yr 20fed ganrif yn hygyrch ac yn cael eu cadw'n ddiogel ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rydym yn dymuno pob llwyddiant iddynt yn y blynyddoedd i ddwâd."

--Diwedd--

** This press release is also available in English **

Cyswllt Cyfryngau Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Rhodri ap Dyfrig, Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd,  
rhodri.apdyfrig@llyfrgell.cymru / 07855 362206

NODIADAU AR GYFER GOLYGYDDION

Am Archif Ddarlledu Cymru

Archif Ddarlledu Cymru yw’r archif ddarlledu genedlaethol gyntaf yn y Deyrnas Unedig. Mae’n tyfu bob dydd wrth i fwy a mwy o raglenni gael eu darlledu a dod yn rhan o’r casgliad.
Gyda chefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri a Llywodraeth Cymru, ac mewn partneriaeth â phrif ddarlledwyr Cymru, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi dod ag archifau BBC Cymru, ITV Cymru ac S4C ynghyd i roi mynediad i dros ganrif o deledu a radio.

Mae’r archif yn cynnwys rhaglenni o:

  • ddyddiau cynnar darlledu y BBC yng Nghymru yn ystod y 1920au,
  • y darlledu masnachol cyntaf gan TWW, sefydlu Teledu Harlech, oes HTV Cymru ac ITV Cymru Wales,
  • cyfnod lansio S4C, y sianel deledu Gymraeg gyntaf

Gyda dros hanner miliwn o glipiau, mae’r archif hon yn cynnwys mynediad digidol at ddeunydd sydd wedi cael ei gadw mewn fformatau amrywiol ar hyd y degawdau, a sgriptiau o’r cyfnod o 1932 ymlaen.

Am Lyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Llyfrgell i Gymru a’r byd. Wedi ei lleoli yn Aberystwyth, mae’n gartref i stori Cymru.

Wedi ei hagor yn 1907, mae’r Llyfrgell yn ganolbwynt ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth Cymru a’r gwledydd Celtaidd.

Pwrpas y Llyfrgell yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth yn hygyrch i bawb allu dysgu, ymchwilio a mwynhau.

Rydym yn llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu fod gennym hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon, ond mae ein casgliadau hefyd yn cynnwys y canlynol:

  • 7,000,000 troedfedd o ffilm
  • 250,000 awr o fideo
  • 6,000,000 o lyfrau a phapurau newydd
  • 40,000 llawysgrif
  • 1,500,000 map
  • 150,000 awr o sain
  • 950,000 ffotograff
  • 60,000 gwaith celf
  • 1,900 metr ciwb o archifau

Gallwch chwilio'r casgliadau ar-lein. Cewch wybodaeth bellach ynghyd â rhestr o adnoddau ar ein gwefan.

Ynghylch Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

Ein gweledigaeth yw gwerthfawrogi a gofalu am dreftadaeth a’i chynnal ar gyfer pawb, nawr ac yn y dyfodol. Dyna pam, fel yr ariannwr mwyaf o dreftadaeth y DU, yr ydym yn ymroddedig i gefnogi prosiectau sy’n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth, fel y nodir yn ein cynllun strategol, Treftadaeth 2033. Gall treftadaeth fod yn unrhyw beth o’r gorffennol y mae pobl yn ei werthfawrogi ac eisiau ei drosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol. Credwn mewn nerth treftadaeth i danio’r dychymyg, cynnig llawenydd ac ysbrydoliaeth, ac i ennyn balchder mewn lle a chysylltiad â’r gorffennol.

Dros y 10 mlynedd nesaf, rydym yn bwriadu buddsoddi £3.6 biliwn a godir ar gyfer achosion da gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol i wneud gwahaniaeth go iawn i bobl, lleoedd a chymunedau.

heritagefund.org.uk/cy

Dilynwch @HeritageFundUK ar Twitter/X, Facebook ac Instagram a defnyddiwch #LoteriGenedlaethol #CronfaTreftadaeth