Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae'n bosib na fyddwn ni'n gallu cyrchu ein holl ddeunydd archifol rhwng 26 - 29 Mawrth 2025. Os fyddwch chi'n ymweld yn ystod y cyfnod hwn, gofynwn i chi archebu unrhyw ddeunydd archifol cyn 26 Mawrth os gwelwch yn dda. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Mae 2024 yn nodi 120 mlynedd ers sefydlu Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a Sioe Frenhinol Cymru. Yn yr arddangosfa hon rydym yn dathlu’r ‘Sioe Fawr’, un o sioeau amaethyddol mwyaf Ewrop.
Gan ddigwydd ym mis Gorffennaf bob blwyddyn, cafodd ei gynnal yn wreiddiol yn Aberystwyth yn 1904. Aeth i leoliadau amrywiol hyd at 1963, pan gafodd gartref parhaol yn Llanelwedd, Llanfair ym Muallt. Mae’r ffotograffau yn yr arddangosfa hon yn adlewyrchu sut mae’r Sioe ac amaethyddiaeth wedi esblygu dros y degawdau.
Gwaith dau ffotograffydd dogfennol yw’r mwyafrif ohonynt, Geoff Charles ac Arvid Parry-Jones. Mae’r ddau wedi dogfennu Sioe Frenhinol Cymru yn ddiwyd trwy ddelweddau deniadol a dadlennol.
Ffotograffwyr eraill sy’n ymddangos yw Haydn Denman sydd wedi dogfennu ei daith ffotograffig ar hyd yr A470 drwy Lanelwedd, a Bruce Cardwell sydd wedi cyhoeddi llyfr diweddar yn cynnwys delweddau cyfoes o’r Sioe.
Dywedodd Dr. Rhodri Llwyd Morgan, Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Mae’r Sioe Fawr yn un o ddigwyddiadau pwysicaf Cymru gan roi llwyfan rhyngwladol i amaeth ein cenedl. Diolch i’r Gymdeithas am ddewis cyhoeddi’r sioe yma a’n pleser ni yw curadu’r arddangosfa hon o ffotograffau o’n casgliad sy’n dogfennu hanes y Sioe dros y blynyddoedd. Gobeithio y daw pobl yma o bob cwr i’w gweld.”
Dywedodd Aled Rhys Jones, Prif Weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru:
“Rydym wedi adeiladu perthynas agos iawn gyda'r Llyfrgell dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae'n diolch yn fawr iddyn nhw am baratoi’r arddangosfa arbennig hon sy'n cofnodi datblygiad y sioe, a'i chyfraniad i gefn gwlad Cymru. Hefyd, roedd cael y cyfle i gynnal lansiad swyddogol Sioe 2024 yn y Llyfrgell yn ddigwyddiad hanesyddol, gan ddathlu man geni'r sioe yn Aberystwyth nôl yn 1904.”
--DIWEDD--
** This press release is also available in English **
Cyswllt Cyfryngau Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Rhodri ap Dyfrig, Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd,
rhodri.apdyfrig@llyfrgell.cymru / 07521 761762
NODIADAU AR GYFER GOLYGYDDION
Am Lyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Llyfrgell i Gymru a’r byd. Wedi ei lleoli yn Aberystwyth, mae’n gartref i stori Cymru.
Wedi ei hagor yn 1907, mae’r Llyfrgell yn ganolbwynt ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth Cymru a’r gwledydd Celtaidd.
Pwrpas y Llyfrgell yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth yn hygyrch i bawb allu dysgu, ymchwilio a mwynhau.
Rydym yn llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu fod gennym hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon, ond mae ein casgliadau hefyd yn cynnwys y canlynol
Cewch wybodaeth bellach ar: https://www.llyfrgell.cymru/
Am Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru
Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn gwneud cyfraniad allweddol at ddatblygiad amaethyddiaeth a’r economi gwledig yng Nghymru ers dros ganrif, ers ei sefydlu yn 1904.
Heddiw, mae ein gwaith yn cynnwys cefnogi busnes, lles cymdeithasol ac addysg mewn cymunedau gwledig, a threfnu a chynnal digwyddiadau bythol boblogaidd y Gymdeithas; yr Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru a’r Ffair Aeaf.
Mae’r gymdeithas yn gwmni cofrestedig (Rhif Cofrestru’r Cwmni – 892851 Cymru.) ac yn elusen (Rhif Cofrestru’r Elusen – 251232), a lleolir ei swyddfeydd ar Faes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Powys.