Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Ar 9 Mawrth 2024 bydd arddangosfa newydd sbon, Dylan: Bywyd Barddol Dylan Thomas, yn agor yn Llyfrgell, Oriel a Chanolfan Gwybodaeth i Ymwelwyr Glan-yr-afon yn Hwlffordd, i ddathlu bywyd a gwaith un o feirdd gorau Cymru.
Er bod bywyd Dylan yn fyr a llawn anrhefn, roedd yn awdur toreithiog, ac mae’r arddangosfa hon yn edrych ar ei waith fel bardd a dramodydd. Ymhlith uchafbwyntiau’r arddangosfa bydd llawysgrifau gwreiddiol o’i gerddi, drafftiau a nodiadau, yn ogystal â’i restr eiriau enwog a braslun o’r pentref dychmygol ‘Llareggub’.
Mae’r arddangosfa hefyd yn dathlu 70 mlynedd ers darllediad cyntaf y BBC o’i ‘ddrama i leisiau’, Under Milk Wood, a bydd cyfle i ymwelwyr weld sgript wreiddiol Dylan o 1953 a gwrando ar ddetholiad o glipiau o gynhyrchiad eiconig y BBC yn serennu Richard Burton.
Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Ymgysylltu a Phartneriaethau Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
"Ry’n ni’n falch iawn bod y casgliad a’r arddangosfa gyffrous hon yn cael ei hagor yn Hwlffordd, mae’n gyfle i bobl o du hwnt i ddalgylch y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth gael profi a mwynhau y rhan bwysig iawn yma o’n casgliadau. Fel bardd sy’n cael ei adnabod ledled y byd fel un o feirdd gorau Cymru, mae casgliad Dylan Thomas ymysg rhai o drysorau’r Llyfrgell a Chymru. Byddem yn annog pawb i ymweld â’r arddangosfa arbennig yma."
Meddai Mari Elin, Swyddog Dehongli Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
"Mae’n braf gweld yr arddangosfa arbennig hon yn mynd i sir Benfro - ardal a oedd mor agos at galon Dylan. Bwriad yr arddangosfa yw edrych ar waith a bywyd Dylan trwy ei eiriau hudol ef ei hun, yn enwedig ei farddoniaeth a'r ddrama fytholwyrdd, Under Milk Wood. Rydyn ni'n gobeithio y bydd ymwelwyr wrth eu bodd â'r cyfle hwn i weld detholiad unigryw o lawysgrifau Dylan, yn ogystal â gweithiau celf arbennig wedi'u hysbrydoli gan ei waith, ac y byddent hwythau'n cael eu hysbrydoli i fynd ati i greu!"
Yn ogystal ag edrych ar waith Dylan, bydd yr arddangosfa hefyd yn dangos detholiad o weithiau celf unigryw sydd wedi cael eu hysbrydoli gan fywyd a geiriau Dylan dros y degawdau. Ymysg y gweithiau hyn bydd darnau gan Ceri Richards, Peter Evershed, Ray Howard Jones a Paul Peter Piech.
Bydd yr arddangosfa yn agor gyda digwyddiad arbennig iawn ar Nos Wener 8 Mawrth yng nghwmni’r Bardd Llawryfog Simon Armitage. Fel rhan o’r Poet Laureate Library Tour bydd y noson yn cynnwys darlleniadau ganddo a’i westeion Owen Sheers a Bethany Handley. Bydd digwyddiadau eraill i gydfynd â’r arddangosfa yn cael eu cyhoeddi yn fuan ar dudalen ar wefan Llyfrgell, Oriel a Chanolfan Gwybodaeth i Ymwelwyr Glan-yr-afon a’u tudalen Facebook.
Ochr yn ochr ag arddangosfa Dylan: Bywyd Barddol Dylan Thomas cynhelir arddangosfa barhaol Sir Benfro: Ddoe a Heddiw, sy'n canolbwyntio ar hanes, diwylliant a thirwedd Sir Benfro, a fydd yn arddangos detholiad o eitemau newydd y tymor hwn.
Bydd y ddwy arddangosfa ar agor tan Ddydd Sadwrn 14 Medi 2024.
--DIWEDD--
**This press release is also available in English**
Am fwy o wybodaeth a lluniau, cysylltwch â: Rhodri ap Dyfrig, Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru: rhodri.apdyfrig@llyfrgell.cymru / 07855 362206
NODIADAU I OLYGYDDION
Am Llyfrgell, Oriel a Chanolfan Gwybodaeth i Ymwelwyr Glan-yr-afon, Hwlffordd
Mae Glan-yr-afon yn ganolfan ddiwylliannol flaenllaw yng nghalon Hwlffordd, sir Benfro. Fe’i hagorwyd ym mis Rhagfyr 2018, ac mae’n cynnwys llyfrgell fodern, canolfan i ymwelwyr, siop goffi a gofod ar gyfer oriel sy’n arddangos casgliadau o Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r cyfleuster gwych hwn yn anarferol ac yn arloesol, ac eisoes wedi bod yn rhan allweddol o’r gwaith o adfywio’r dref a’r ardal ehangach yn sir Benfro.
Am fwy o wybodaeth, ewch i:
Am Lyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn un o lyfrgelloedd mawr y byd. Wedi ei lleoli yn Aberystwyth, mae’n gartref i stori Cymru.
Wedi ei hagor yn 1907, mae’r Llyfrgell yn ganolbwynt ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth Cymru a’r gwledydd Celtaidd.
Pwrpas y Llyfrgell yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth yn hygyrch i bawb allu dysgu, ymchwilio a mwynhau.
Rydym yn llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu fod gennym hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon, ond mae ein casgliadau hefyd yn cynnwys y canlynol:
Gallwch chwilio'r casgliadau ar-lein a chewch wybodaeth bellach ynghyd â rhestr o adnoddau ar wefan y Llyfrgell.