Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Ddoe (18 Gorffennaf 2024) cafodd murlun newydd sbon ei ddadorchuddio yn Ysgol Uwchradd Cathays, Caerdydd.
Wedi’i ysbrydoli gan y gwaith The Wales Window gan yr artist John Petts, sy’n rhan o’r Casgliad Celf Cenedlaethol yn y Llyfrgell Genedlaethol, mae’r murlun yn dathlu amrywiaeth ardal Cathays.
Mewn gweithdai wedi’u cefnogi gan Brosiect Cymunedau Cymru, cafodd disgyblion Ysgol Uwchradd Cathays y cyfle i ddysgu am waith John Petts a’u cynefin, ac i ddefnyddio casgliadau’r Llyfrgell i ymchwilio hanes cymunedau amrywiol Caerdydd. Aethant ati wedyn i weithio gyda’r grwp o artistiaid UNIFY i gyd-gynllunio’r murlun arbennig yma.
Defnyddiodd UNIFY y syniadau hyn i ysbrydoli dyluniad terfynol y murlun trawiadol.
Meddai Rhodri Llwyd Morgan, Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Mae'n wych i weld y murlun arbennig hwn fel pen llanw prosiect rhagorol. Mae gweithio gydag Ysgol Uwchradd Cathays a grwp artistiaid UNIFY wedi bod yn brofiad ardderchog ac rydym o hyd yn gyffrous pan mae cyfle i gymryd adnoddau unigryw y Llyfrgell Genedlaethol i mewn i'r gymuned i gydweithio ac i ysbrydoli dysgu a chreadigrwydd gyda'n gilydd.”
Mae prosiect Cymunedau Cymru gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc ddeall eu Cynefin eu hunain o fewn cyd-destun gwrth-hiliol trwy adrodd hanesion pobl o gefndiroedd amrywiol ar draws Cymru. Mae'r prosiect yn cynnwys datblygu deunyddiau dysgu i ddathlu amrywiaeth ac ymgysylltu gwrth-hiliol, gan helpu plant mewn ysgolion ledled Cymru i gofleidio a dathlu treftadaeth ddiwylliannol amrywiol.
--Diwedd--
** This press release is also available in English **
Cyswllt cyfryngau Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Rhodri ap Dyfrig, Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd,
rhodri.apdyfrig@llyfrgell.cymru / 07521 761762
Am Lyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Llyfrgell i Gymru a’r byd. Wedi ei lleoli yn Aberystwyth, mae’n gartref i stori Cymru.
Wedi ei hagor yn 1907, mae’r Llyfrgell yn ganolbwynt ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth Cymru a’r gwledydd Celtaidd.
Pwrpas y Llyfrgell yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth yn hygyrch i bawb allu dysgu, ymchwilio a mwynhau.
Rydym yn llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu fod gennym hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon, ond mae ein casgliadau hefyd yn cynnwys y canlynol:
Gallwch chwilio'r casgliadau ar-lein. Cewch wybodaeth bellach ynghyd â rhestr o adnoddau ar ein gwefan.