Symud i'r prif gynnwys

15.10.2024

Ddydd Gwener 18 Hydref 2024 bydd yr Athro Charlotte Williams OBE FLSW yn traddodi darlith flynyddol yr Archif Wleidyddol Gymreig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

Yn ei darlith, dan y teitl “From A Tolerant Nation? To An Anti-Racist Nation?” mae hi'n cynnig dadansoddiad amserol o ddyfodol gwleidyddiaeth hil yng Nghymru, a pha mor unigryw ydyw.

Mae cefndir Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru a pholisiau cyhoeddus eraill ar hil, ochr yn ochr â therfysgoedd gan y Dde Eithafol yn y DU a llwyddiant ehangach pleidiau’r Dde Eithafol ledled Ewrop, yn gwneud ffocws y ddarlith hon yn hollbwysig.

Dywedodd yr Athro Charlotte Williams:
“Mae newid critigol wedi digwydd yn nhirwedd gymdeithasol-wleidyddol hil yn y DU sy’n ein harwain i ystyried topograffeg gymdeithasol newydd o gysylltiadau hiliol a datganoli gwleidyddiaeth hil y DU.”

“Gyda’r ddarlith hon rwy’n awgrymu dadansoddiad sy’n troi at dri chyfnod yn ymagwedd llywodraeth Cymru at gydraddoldeb hiliol. Mae'r cyfnodau hyn yn adlewyrchu sbardunau penodol i newid: Hynodrwydd (Dŵr Coch Clir); Anghydlyniad (Decoherence, cyfnod deddfwriaethol cydraddoldeb newydd); a Dadgoloneiddio (Black Lives Matter a thu hwnt)."

“Mae’r tri chyfnod hyn yn codi’r cwestiwn cyffredinol: a all llywodraethau lywio a chynnal llwybr tuag at gyfiawnder hiliol cynhwysfawr?”

Meddai Rob Phillips, Archif Wleidyddol Cymru:
"Rydym yn falch iawn o allu croesawu'r Athro Charlotte Williams i draddodi'r ddarlith eleni ar adeg mor hanfodol yng ngwleidyddiaeth Cymru. Y ddarlith yw pinacl calendr yr Archif Wleidyddol a bydd yn gyfle i edrych ymlaen at ddatblygiadau'r dyfodol tra byddwn dathlu’r casgliadau gwleidyddol gwych yn y Llyfrgell, sydd wedi’u cadw er budd y bobl."

Yn raddedig o Brifysgol Bangor ac yn awr yn Athro Emeritws yn yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas yno, ymddeolodd yr Athro Williams yn ddiweddar fel Athro Gwaith Cymdeithasol a Dirprwy Ddeon ym Mhrifysgol Sefydliad Technoleg Brenhinol Melbourne ym Melbourne, Awstralia. Mae ganddi Gymorodoriaeth er Anrhydedd ym Mhrifysgol Wrecsam a Phrifysgol De Cymru. Ochr yn ochr â’i gyrfa academaidd yma ac yn Awstralia, mae’r Athro Williams yn adnabyddus am ei chyfrol arloesol, A Tolerant Nation? sy’n archwilio amrywiaeth ethnig yng Nghymru a’i chofiant arobryn o dyfu i fyny’n hil gymysg yng Nghymru, Sugar and Slate, a enillodd Llyfr y Flwyddyn 2003.

Sefydlwyd yr Archif Wleidyddol Gymreig yn 1983 i gydlynu’r casgliad o dystiolaeth ddogfennol o bob math am wleidyddiaeth yng Nghymru. Mae'n casglu cofnodion a phapurau pleidiau gwleidyddol, gwleidyddion, sefydliadau lled-wleidyddol, ymgyrchoedd a charfanau pwyso; taflenni, pamffledi ac effemera printiedig eraill; posteri a ffotograffau; gwefannau a thapiau o raglenni radio a theledu. Nid yw ei gwaith yn gyfyngedig i adran benodol o'r Llyfrgell.

Cynhaliwyd darlith flynyddol yr Archif Wleidyddol Gymreig am y tro cyntaf yn 1987 ac mae nifer o academyddion, newyddiadurwyr, haneswyr a gwleidyddion wedi cael cyfle i draddodi’r ddarlith. Ymhlith y darlithwyr blaenorol mae’r Arglwydd Cledwyn o Benrhos, yr Arglwydd Roberts o Gonwy, John Davies, yr Arglwydd Bourne, Jeremy Bowen a’r Athro Angela John.

Gallwch archebu tocyn am ddim i’r digwyddiad neu i’r ffrwd ar-lein ar wefan y Llyfrgell:

Yn dilyn y ddarlith bydd y testun ar gael ar ein gwefan.

--Diwedd--
** This press release is also available in English **

Am fwy o wybodaeth, ceisiadau cyfweliad neu gynigion cyfryngau cysylltwch â:
Rhodri ap Dyfrig, Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
rhodri.apdyfrig@llyfrgell.cymru / 07521 761762

NODIADAU I OLYGYDDION
Am yr Archif Wleidyddol Gymreig:

Gwefan: https://www.llyfrgell.cymru/archifwleidyddolgymreig

Am Lyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Llyfrgell i Gymru a’r byd. Wedi ei lleoli yn Aberystwyth, mae’n gartref i stori Cymru.


Wedi ei hagor yn 1907, mae’r Llyfrgell yn ganolbwynt ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth Cymru a’r gwledydd Celtaidd.


Pwrpas y Llyfrgell yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth yn hygyrch i bawb allu dysgu, ymchwilio a mwynhau.


Rydym yn llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu fod gennym hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon, ond mae ein casgliadau hefyd yn cynnwys y canlynol:

7,000,000 troedfedd o ffilm

  • 250,000 awr o fideo
  • 7,000,000 o lyfrau a phapurau newydd
  • 40,000 llawysgrif
  • 1,500,000 map
  • 150,000 awr o sain
  • 950,000 ffotograff
  • 60,000 gwaith celf
  • 1,900 metr ciwb o archifau

Gallwch chwilio'r casgliadau ar-lein. Cewch wybodaeth bellach ynghyd â rhestr o adnoddau ar wefan y Llyfrgell.