Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae’n bleser gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru gyhoeddi heddiw bod Dr. Rhodri Llwyd Morgan wedi’i benodi yn Brif Weithredwr.
Bydd Rhodri’n ymuno â’r Llyfrgell yn Ngwanwyn 2024. Cyn y penodiad hwn roedd Rhodri’n Gyfarwyddwr y Gymraeg, Diwylliant Cymru a Chysylltiadau Allanol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’n dod â phrofiad helaeth o’r sector addysg uwch, y Gymraeg a diwylliant ac o ddatblygu a delifro cynlluniau uchelgeisiol.
Roedd yn gyfrifol am brosiect Bywyd Newydd i’r Hen Goleg ar ran Prifysgol Aberystwyth sydd ar waith ar hyn o bryd ac a fydd yn newid yr adeilad rhestredig Gradd 1 yn ganolfan ddiwylliannol a chreadigol. Roedd hefyd yn Gadeirydd ar Fwrdd Cyfarwyddwyr Mudiad Meithrin am chwe mlynedd ac yn aelod o Gyngor Partneriaeth y Gymraeg (Llywodraeth Cymru) am ddeng mlynedd.
Addysgwyd Rhodri yn ne sir Ceredigion, ac enillodd radd mewn Hanes a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth ynghyd â Diploma mewn Llyfrgellyddiaeth, cyn cwblhau Gradd Meistr a Doethuriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.
Dywedodd Dr. Rhodri Llwyd Morgan:
“Heb os mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn un o sefydliadau blaenllaw y genedl ac mae’n fraint enfawr i gael fy mhenodi yn Brif Weithredwr. Rwy’n edrych ymlaen yn arw at weithio gyda staff, ymddiriedolwyr, a phartneriaid y Llyfrgell ac i hyrwyddo’i chenhadaeth ymhlith pobl Cymru a thu hwnt.
Oes, mae heriau i fynd i’r afael â nhw, a’r amlycaf yn eu plith yw’r wasgfa ariannol sy’n effeithio ar bawb. Ond mae yna gyfleoedd yn ogystal wrth hybu ein diwylliant yn ei holl amrywiaeth cyfoethog ac wrth fynd ag arbenigedd ac adnoddau anhygoel y Llyfrgell i feysydd ac i gynulleidfaoedd newydd.”
Wrth wneud sylw am y penodiad dywedodd Ashok Ahir, Llywydd Llyfrgell Genedlathol Cymru:
“Rydym yn falch iawn o benodi Rhodri Llwyd Morgan yn y rôl allweddol hon ac yn edrych ymlaen yn fawr fel Bwrdd at gael cydweithio i barhau i siapio y Llyfrgell ar gyfer y dyfodol.
Mae’n unigolyn sy’n deall y Llyfrgell a’i harwyddocâd cenedlaethol a rhyngwladol, ac sydd yn brofiadol mewn arwain ar lefel uchel mewn nifer o feysydd. Bydd ei brofiad fel arweinydd yn dangos y ffordd i’n staff ymroddedig mewn cyfnod o newid i'n sefydliad ac i’r sector.”
Mae Rhodri’n olynu Yr Athro Pedr ap Llwyd FLSW sydd wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol, ac sydd wedi bod yn y rôl ers pum mlynedd.
Diwedd
Am fwy o wybodaeth, ceisiadau cyfweliad neu gynigion cyfryngau cysylltwch â: Rhodri ap Dyfrig, Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru rhodri.apdyfrig@llyfrgell.cymru / 07521 761762