Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd gan bobl yng Nghonwy, Llanrwst ac Abertawe nawr fynediad at gannoedd o filoedd o raglenni radio a theledu o archifau BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales ac S4C ar garreg eu drws diolch i Gorneli Clip newydd sydd bellach ar agor yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy, Llyfrgell Llanrwst ac Archifau Gorllewin Morgannwg yng Nghanolfan Ddinesig Abertawe. Mae gan y Corneli Clip derfynellau cyfrifiadurol mewn mannau cyfforddus lle gall unrhyw un ddod i weld a gwrando ar yr amrywiaeth o raglenni sydd ar gael.
Archif Ddarlledu Cymru yw'r gyntaf o'i math yn y DU, gan olrhain bron i ganrif o ddarlledu, mae'n dwyn ynghyd deunydd o gasgliadau sgrin a sain BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales, S4C a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Trwy gadw, catalogio a digideiddio'r deunydd hwn a'u cyflwyno ar wefan y gallwch ei chwilio'n llawn, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi ymrwymo i wneud y casgliad rhyfeddol hwn yn hygyrch i bawb.
Bydd sefydlu'r Corneli Clip hyn yn sicrhau y bydd cymunedau y tu hwnt i'r Llyfrgell Genedlaethol ei hun yn Aberystwyth yn gallu gweld yr archif gyfan yn eu hardal leol. Mae gwaith ymgysylltu eisoes wedi dechrau gyda grwpiau ledled Cymru, ac mae'r Corneli Clip yn darparu lle i weithio gyda grwpiau cymunedol i archwilio a dod â'r archif yn fyw.
Fel rhan o'r prosiect hwn, bydd casgliad amrywiol o 1,500 o glipiau hefyd yn cael eu curadu a'u darparu i unrhyw un eu gweld ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol.
Gwnaed prosiect Archif Ddarlledu Cymru yn bosibl trwy gyllid gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol (£4.7M), Llywodraeth Cymru (£1M) a chronfeydd preifat Llyfrgell Genedlaethol Cymru (£1M).
Dywedodd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru: "Mae'n bleser mawr gweld y Corneli Clip hyn yn agor - ymhlith y cyntaf o lawer ledled Cymru a fydd yn dod â'r archif genedlaethol arloesol hon yn agosach at y cyhoedd. Mae'r Llyfrgell yn diolch i Gynghorau Sir Conwy ac Abertawe am eu cydweithrediad parod i hwyluso'r gwaith o greu'r gofod hwn a fydd yn gam mawr ymlaen i ni o ran darparu mynediad i'n casgliadau, hyrwyddo ymgysylltiad lleol a ymwchil grymusol.”
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Wynne, Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, Cyngor Sir Conwy: "Rwy'n falch iawn y gall gwasanaeth Llyfrgell Conwy gynnal dau o'r Corneli Clip hyn fel bod gan bobl Sir Conwy fynediad i'r archif wych hon. Mae'n fenter wych. Mae'n caniatáu i bobl leol ddysgu am hanes yr ardal hon yn ogystal â hanes Cymru yn fwy cyffredinol. Bydd yn wych cael ysgolion lleol i ddod i ymweld â'r ganolfan a defnyddio'r cyfleuster hwn."
Dywedodd aelod cabinet Cyngor Abertawe, Robert Smith: "Mae’n wych cael gweld yr ychwanegiad newydd hwn i Wasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg. Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o'r rhwydwaith Corneli Clip newydd. Rwy'n siŵr y bydd pobl Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a thu hwnt yn gwneud defnydd llawn o'r adnodd gwych hwn."
Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: "Mae darlledu wedi chwarae rhan bwysig yn dogfennu hanes y Gymru fodern - o adroddiadau newyddion torcalonnus o'r lleoliad trychineb Aberfan; i ddarlithoedd ysbrydoledig fel Tynged yr Iaith gan Saunders Lewis, darllediad cyntaf S4C yn 1982 a llwyddianau ac isafbwyntiau tîm pêl-droed Cymru yn yr Euros yn 2016 a Chwpan y Byd yn 2022."
"Mae hefyd wedi ein galluogi i edrych yn ôl a dysgu am ein treftadaeth drwy raglenni fel The Dragon Has Two Tongues: A History of the Welsh yn 1985 ac mae wedi rhoi Cymru ar y map gyda chyfresi poblogaidd fel Doctor Who, Keeping Faith a Hinterland."
"Ein braint yw cefnogi'r prosiect pwysig a blaengar hwn a fydd yn diogelu ac yn rhannu treftadaeth ddarlledu Cymru fel y gall cenedlaethau heddiw a chenedlaethau'r dyfodol werthfawrogi, mwynhau a dysgu ohono am flynyddoedd i ddod.”
NODIADAU AR GYFER GOLYGYDDION
Am Archif Ddarlledu Cymru
Am ragor o wybodaeth ewch i https://clip.llyfrgell.cymru
Am Lyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Llyfrgell i Gymru a’r byd. Wedi ei lleoli yn Aberystwyth, mae’n gartref i stori Cymru.
Wedi ei hagor yn 1907, mae’r Llyfrgell yn ganolbwynt ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth Cymru a’r gwledydd Celtaidd.
Pwrpas y Llyfrgell yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth yn hygyrch i bawb allu dysgu, ymchwilio a mwynhau.
Rydym yn llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu fod gennym hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon, ond mae ein casgliadau hefyd yn cynnwys y canlynol
Gallwch chwilio'r casgliadau ar-lein. Cewch wybodaeth bellach ynghyd â rhestr o adnoddau ar: https://www.llyfrgell.cymru/catalogau-chwilio/catalogau/catalogau-arbenigol
Am Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru