Symud i'r prif gynnwys

Mae Gweithrediadau Tir y Welsh Tract yn enghraifft brin o lawysgrif sy’n cynnwys cofnod cynnar o ymsefydlu Cymry yng Ngogledd America. Fel cofnod sy’n ymwneud ag un o’r cenedlaethau cyntaf o bobl o Gymru a groesodd Gefnfor yr Iwerydd i sefydlu cartref newydd i'w hunain, mae’r ddogfen hon yn cynrychioli’r berthynas ddiwylliannol sy'n parhau rhwng Cymru a Gogledd America.

Prynwyd y gyfrol gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn 2024, ac wedyn cafodd waith cadwraeth ac ailrwymo helaeth ei wneud arni er mwyn sicrhau ei chadwraeth hirdymor. Mae hefyd wedi’i digido, gan alluogi darllenwyr yng Nghymru ac ar draws y byd, yn enwedig yn yr Unol Daleithiau, i’w gweld a’i hastudio ar-lein.

Yn dyddio o 1683 i 1694, mae’r gweithrediadau yn cofnodi gwerthiannau tir i Grynwyr Cymreig yn yr ardal a ddaeth yn ddiweddarach i gael ei hadnabod fel y ‘Welsh Tract’ yn Pennsylvania. Roedd y Crynwyr, neu Gymdeithas Grefyddol y Cyfeillion yn ffurfiol, yn fudiad crefyddol a oedd yn addoli y tu allan i Eglwys Loegr ac yn wynebu erledigaeth o ganlyniad. Cafodd William Penn, a oedd yntau’n Grynwr, grant o dir yng Ngogledd America gan y Brenin Siarl II, a gwerthodd tua 27,000 erw o’r tir hwnnw i chwe Chrynwr Cymreig, a ailwerthodd rannau ohono i ymsefydlwyr eraill wedi hynny.

Casglwyd y gweithrediadau yn swyddfa Thomas Lloyd, Ceidwad y Rholiau (Master of Rolls) yn Philadelphia, a oedd yn wreiddiol o Ddolobran yn Sir Drefaldwyn. Mae’r gyfrol yn cofnodi cyfres sylweddol o drafodion tir, gan gynnwys 56 gwerthiant i brynwyr o siroedd ledled Cymru. Mae hefyd yn cynnwys 22 o drafodion ychwanegol yn ymwneud â phrynwyr nad oeddent yn Gymry, o Wiltshire, Swydd Henffordd, a rhannau eraill o Loegr a Pennsylvania.

Nid yw’r llawysgrif yn cynnwys unrhyw gyfeiriad at y bobloedd Brodorol a oedd wedi byw ar y tiroedd hyn ers amser maith cyn dyfodiad Ewropeaid. Er bod y ddogfen yn cofnodi trafodion rhwng asiantau ac ymsefydlwyr, mae’n adlewyrchu fframwaith gyfreithiol drefedigaethol y cyfnod yn unig, ac nid hanesion na hawliau’r cymunedau brodorol a'u tiroedd oedd yn cwmpasu'r rhanbarth hwn.