Symud i'r prif gynnwys

 

Dywedodd Kyffin Williams mai hwn yn un o'r gweithiau gorau a beintiodd erioed. Mae'n darlunio un o'i hoff olygfeydd o ffermwyr gyda'u cŵn defaid wedi dod at ei gilydd ar ben mynydd y Glyder Fach yng ngogledd Cymru yn yr eira o dan awyr dymhestlog.

Gellir dadlau mai Kyffin oedd yr arlunydd Cymreig enwocaf diwedd yr 20fed ganrif ac fel y nododd yr hanesydd celf Dr Gareth Lloyd Roderick, ef yw arlunydd 'cenedlaethol' poblogaidd Cymru. Cafodd ei wneud yn Academydd Brenhinol ym 1973.

Daeth defnydd Kyffin o baent olew trwchus, wedi ei osod gyda'i gyllell palette ar y cynfas, yn nodweddiadol o’i arddull a daeth yn eiconograffig. Gellir teimlo egni grymus Kyffin yn llifo o’i waith drwy ei ffordd unigryw o daenu’r paent. Dywedodd Kyffin Williams yn ei hunangofiant ‘Across the Straits’ mai ei nod mewn bywyd oedd cofnodi tir a phobl ei blentyndod yn Ynys Môn a gogledd-orllewin Cymru. Roedd yn wir yn arlunydd mynegiadol a honnai iddo greu ei waith gorau pan fyddai’n caniatáu iddo'i hun gael ei '... sgubo i ffwrdd mewn twymyn o afiaith neu hyd yn oed ddicter, gorau oll y byddai’r canlyniad terfynol; tra’r oedd meddwl yn ymwybodol yn ddieithriad yn drychinebus'. Fel epileptig teimlai obsesiwn dwys i beintio ac felly roedd yn arlunydd toreithiog – yn cwblhau hyd at dri phaentiad yr wythnos. Gallwn dybio hefyd bod ei frwydr ag iselder wedi chwarae rhan yn ei waith. Dywedodd Kyffin bod '... gwythïen felancolaidd yn rhedeg trwy’r rhan fwyaf o Gymry, melancoli sy'n tarddu o'r bryniau tywyll, y cymylau trymion a'r niwl môr gorchuddiol'.

Roedd gan y Llyfrgell Genedlaethol berthynas agos â Kyffin, a daeth carfan fawr o'i ystâd i'r Llyfrgell ar ôl ei farwolaeth yn 2006. Y Llyfrgell Genedlaethol sydd berchen ar y nifer fwyaf o weithiau Kyffin Williams yn y byd.