Symud i'r prif gynnwys

Cyhoeddwyd yr argraffiad ar gyfer y cyhoedd mewn 2 gyfrol; y gyntaf yn 1778 a'r ail yn 1781.

Mae’r daith gyntaf yn cynnwys Caer, Croesoswallt, Llangollen, yr Wyddgrug a Chaerwys. Mae’r ail daith, sef Journey to Snowdon, yn trafod ardal llawer ehangach gan gynnwys Eryri, Pen Llŷn, Caernarfon, Môn ac arfordir y gogledd ddwyrain. Mae’r drydedd ran yn fyrrach ac yn tywys y darllenydd o Downing at yr Amwythig.

Mae'r cyfrolau'n cynnwys nifer fawr o ddarluniau gwreiddiol gan Moses Griffith, Ingleby ac arlunwyr adnabyddus eraill y cyfnod.

Pwy oedd Thomas Pennant?

Ganed Thomas Pennant ym mhlasty Downing, Sir y Fflint, hen gartref y teulu. Aeth i Rydychen i astudio gan ymaelodi yng Ngholeg Queen's. Yno fe'i hysbrydolwyd i deithio ond, yn fwy na hynny, i gofnodi ffrwyth ei ymchwil ar ei deithiau. Gadawodd y coleg heb raddio ond gyda syniad clir o sut yr oedd am dreulio ei amser a'i egni.

Ef yw awdur llyfrau taith gorau ei gyfnod yng Nghymru. Un o ddoniau mawr Pennant oedd y gallu i fagu cyfeillgarwch. Roedd ei werthfawrogiad o bobl yn hysbys ac oherwydd hyn cafodd bob amser atebion call a chyflawn i'w geisiadau am wybodaeth. Manteisiodd ar allu nifer fawr o ffrindiau talentog i'w gynorthwyo gyda'i gynlluniau.

Fel ysgolhaig egnïol a gweithgar daeth yn arwr i genedlaethau o awduron. Mae ei waith i'w gymharu â gwaith enwogion Lloegr megis The natural history and antiquities of Selborne (1789) gan Gilbert White (1720-1793) neu The antiquities of England and Wales (1772-1776) gan Francis Grose (1731?-1791).


Thomas Pennant y casglwr a'r noddwr

Roedd Pennant yn gasglwr a noddwr deallus. Nid casglu ar sail rhinwedd celfyddydol oedd ei fryd ond yn hytrach er mwyn yr wybodaeth ddarluniadol oedd yn y lluniau. Fel noddwr tueddai Pennant i brynu yn uniongyrchol oddi wrth yr arlunydd.

Cyflogodd Moses Griffith (1747-1819) i weithio'n llawn amser fel arlunydd o 1771 ymlaen, a rhoi llety iddo yn Nowning. Moses oedd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o'r darluniau yng nghyhoeddiadau Pennant. Ar yr un pryd noddai John Ingleby (1749-1808) o Helygain yn achlysurol, gan ei dalu fesul darlun. Arbenigai Ingleby mewn trefluniau a vignettes.


Thomas Pennant yng nghasgliadau'r Llyfrgell

Yn ogystal â A tour in Wales mae gan y Llyfrgell nifer o gyfrolau eraill o waith Pennant o lyfrgell Downing: A tour in Scotland (1769), The history of the parishes of Whiteford and Holywell (1796) a hefyd A history of quadrupeds (1781). Cafodd y cyfrolau hyn eu harddu â darluniau gwreiddiol gan arlunwyr fel Moses Griffith, John Ingleby, Paul Sandby (1731-1809) ac eraill.

Dolenni perthnasol